Cwestiynau Cyffredin

Henebion Cadw

1. A allwn ddefnyddio ein cardiau aelodaeth English Heritage, Historic Scotland neu Great British Heritage i gael mynediad am ddim/gostyngedig i safleoedd Cadw?

Gallwch

2. A allwn ddefnyddio ein cerdyn aelodaeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gael mynediad am ddim/gostyngedig i safleoedd Cadw?

Ar hyn o bryd, ni allwch ddefnyddio eich cerdyn aelodaeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gael mynediad am ddim/gostyngedig i safleoedd Cadw. Mae pedwar o safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng ngofal Cadw. Gall aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fynd i mewn i Gastell Cilgerran am ddim wrth gyflwyno cerdyn aelodaeth dilys. Mae Castell Dinefwr, Caer Rufeinig Segontium a Chastell Ynysgynwraidd yn safleoedd heb eu staffio ac mae mynediad am ddim.

3. Os oes gennyf anabledd, a ydwyf yn cael mynediad am ddim i safleoedd Cadw?

Ydych, bydd eich cydymaith hefyd yn gymwys i gael mynediad am ddim i safleoedd Cadw.

4. A allwn gael picnic yn y castell/heneb?

Gallwch, gallwch gael picnic mewn ardaloedd awyr agored ar lawer o safleoedd Cadw.

5. A oes hawl ysmygu ar safleoedd Cadw?

Mae ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeëdig yng Nghymru yn erbyn y gyfraith. Yn ogystal â hyn, mae gan Lywodraeth Cymru bolisi o beidio â chaniatáu ysmygu mewn mannau agored sydd yn eiddo iddi. Mae'r polisi hwn yn berthnasol i henebion Cadw.

6. A ganiateir cŵn ar safleoedd Cadw?

Croesawn gŵn cymorth ar bob un o'n safleoedd.

Croesewir cŵn ar denynnau ar y safleoedd canlynol:

De Orllewin Cymru

Abaty Llandudoch, Abaty Nedd, Abaty Talyllychau, Castell Casllwchwr, Castell Cas-Wis, Castell Carreg Cennen, Castell Cilgerran, Castell Cydweli, Castell Llansteffan, Castell Llawhaden, Castell Oxwich, Castell Weble, Llys yr Esgob Llandyfai, Siambr Gladdu Carreg Coetan Arthur, Siambr Gladdu Pentre Ifan.

Gorllewin Cymru

Llys yr Esgob Tyddewi.

De Ddwyrain Cymru

Abaty Tyndyrn, Caer Rufeinig Caerllion, Castell Caerffili, Castell Cas-gwent, Castell Coety, Castell y Grysmwnt, Castellnewydd, Castell Ogwr, Castell Rhaglan, Castell Ynysgynwraidd, Gwaith Haearn Blaenafon, Gwersyll Bwlwarcau Cas-gwent, Safle Ffosedig Hen Gwrt, Tref Rufeinig Caer-went, Y Castell Gwyn.

Canolbarth Cymru

Abaty Ystrad Fflur, Castell Bronllys, Castell Dolforwyn, Gwaith Plwm Bryntail.

Gogledd Orllewin Cymru

Abaty Cymer, Abaty Glyn y Groes, Caer Leb, Caer Rufeinig Fach Caergybi, Caer Rufeinig Segontium, Castell Biwmares (mis Tachwedd 2017 ymlaen), Castell Cricieth, Castell Dolbadarn, Castell y Bere, Ffynnon Gybi, Grwp Cytiau Mynydd Twr, Meini Hirion Penrhos Feliw, Pont Minllyn, Priordy Penmon a ffynnon Seiriol, Siambr Gladdu Trefignath.

Gogledd Ddwyrain Cymru

Abaty Dinas Basing, Castell Dinbych, Castell Ewlo, Castell y Fflint, Castell Rhuddlan, Croes Mynwent Derwen.

Cofiwch

Rhaid cadw cŵn ar denynnau ac o dan reolaeth mewn mannau cyhoeddus bob amser.

Yn ôl y gyfraith mae'n rhaid i bob ci wisgo coler a thag yn dangos enw a chyfeiriad y perchennog. Os ydych ar wyliau, byddai'n syniad da cael tag dros dro yn dangos eich cyfeiriad gwyliau neu rif ffôn symudol.

Ni chaniateir i gŵn faeddu ar unrhyw safle. Dylid gwaredu bagiau baw mewn modd cyfrifol i ffwrdd o'r heneb.

Byddwch yn ymwybodol o effaith eich cŵn ar eraill, yn enwedig plant.

Efallai na chaniateir cŵn mewn mannau penodol o'r heneb am resymau iechyd a diogelwch.

7. A yw safleoedd Cadw ar agor yn y gaeaf?

Mae nifer fach o safleoedd Cadw ar gau yn y gaeaf, rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth. Mae'r rhain yn cynnwys Castell Talacharn, y Tŷ Trefol o Oes Elisabeth, Castell Rhuddlan a Chapel y Rug. Mae Castell Oxwich ar gau rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth.

Mae Amgueddfa Cerrig Margam ar agor yn y gaeaf i deithiau grŵp a drefnir ymlaen llaw. (Ewch i dudalennau'r safleoedd unigol yn yr adran 'Diwrnodau Allan' ar y wefan am fanylion cyswllt.)

Mae Gwaith Haearn Blaenafon a Llys a Chastell Tre-tŵr ar agor ar dydd Iau, ddydd Gwener a dydd Sadwrn ac ar gau am weddill yr amser.

Mae holl safleoedd eraill Cadw ar agor yn y gaeaf ond mae ganddynt oriau agor byrrach. 

8. A yw'r henebion ar gau yn ystod gwyliau cyhoeddus a gwyliau banc?

Ydynt. Mae'r holl henebion â staff a heb staff ar gau ar 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr (ac eithrio Carreg Cennen sydd ond ar gau Ddydd Nadolig a Capel a Ffynnon Sanctaidd Gwenffrewi 25 a 26 Rhagfyr). Cyfeiriwch at y safleoedd unigol am ddyddiadau cau eraill.

9. A yw ymweliadau addysgol i safleoedd Cadw am ddim?

Mae ymweliadau hunan-dywys gan grwpiau addysgol sy'n mynychu sefydliadau addysgol yn yr UE am ddim, ond mae'n rhaid eu trefnu ymlaen llaw. Mae Cadw hefyd yn cynnig nifer o raglenni addysgol CA2 sy'n costio £2.50 y disgybl am hanner diwrnod, yn cynnwys mynediad. Ewch i'r dudalen dysgu i gael rhagor o wybodaeth, gwybodaeth am drefnu'r ymweliad a thelerau ac amodau.


10. A oes rhywun ar gael i'n tywys o amgylch y safle?

Nid yw Cadw yn cyflogi tywyswyr yn uniongyrchol ar ei safleoedd ond mae tywyswyr annibynnol yn bresennol yng Nghastell Caernarfon a Chastell Conwy. Mae taith sain ar gael ym Mhlas Mawr a chaiff ei chynnwys yn y pris mynediad. Mae taith sain ar gael hefyd yng Ngharreg Cennen (am dâl bach). Ceir pyst sain yng Ngwaith Haearn Blaenafon a Thref Rufeinig Caer-went a thechnoleg 'Bluetooth' yng Nghastell Rhaglan a'r Castell Gwyn.

11. A allwn dynnu lluniau y tu mewn i'r castell/heneb?

Gallwch, pan fyddant ar gyfer defnydd preifat. Codir ffi am dynnu ffotograffau masnachol a ffotograffau priodas a rhaid cael caniatâd ymlaen llaw gan Cadw (ffôn 0300 0257182).

12. A oes cyfleusterau newid clytiau ar safleoedd Cadw?

Oes, ar rai safleoedd — cyfeiriwch at dudalennau safleoedd unigol yn yr adran Diwrnodau Allan ar y wefan neu ffoniwch y safle yr ydych yn ymweld ag ef i gael rhagor o wybodaeth.

13. A oes toiledau ar safleoedd Cadw?

Mae toiledau ar rai safleoedd Cadw ond nid ar bob un — cyfeiriwch at dudalennau safleoedd unigol yn yr adran Diwrnodau Allan ar y wefan neu ffoniwch y safle yr ydych yn ymweld ag ef i gael rhagor o wybodaeth.

14. A oes rhaid i mi dalu i'm plentyn ymweld â safleoedd Cadw?

Mae mynediad am ddim i bob plentyn o dan 5 oed gydag oedolyn.

15. Beth yw 'Tocyn Crwydro' ac ble y gallaf ei brynu?

Un peth y gallwch ddibynnu arno yw tocynnau crwydro 3 neu 7 diwrnod Cadw. Mae'r tocynnau'n cynnig gwerth gwych am arian ac yn rhoi rhwydd hynt i chi ymweld â'r cyfoeth o atyniadau hanesyddol sydd gan Gymru i'w cynnig. Mae'r tocynnau yn rhoi'r rhyddid i deuluoedd a grwpiau ymweld â chymaint o atyniadau hanesyddol Cadw ag y dymunant, neu y gallant lwyddo i ymweld â nhw, o fewn yr amser sydd ar gael iddynt, tra byddant yng Nghymru. Gellir defnyddio'r tocyn 3 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 7 diwrnod a'r tocyn 7 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 14 diwrnod.

Gall ymwelwyr brynu'r tocynnau hyn yn uniongyrchol o safleoedd sydd â staff yn gweithio arnynt.


Gellir prynu tocynnau ar delerau masnach drwy gysylltu â'r adran  Gwasanaethau Ymwelwyr a Busnes ffôn 0300 0256000 neu cadw@cymru.gsi.gov.uk 


16. Sut y gallaf brynu aelodaeth Cadw?

Gallwch brynu aelodaeth mewn sawl ffordd: Ffoniwch radffon 0800 0743121; prynwch ar ymweliad ag un o'r henebion wedi'u staffio neu ewch i www.cadw.cymru.gov.uk/aelodaeth

17. A oes baneri’n cael eu chwifio yn henebion Cadw?

Oes — mewn rhai henebion mae baneri’n cael eu chwifio gydol y flwyddyn. Fodd bynnag, nid ydynt yn cael eu chwifio o dro i dro am resymau diogelwch.

Nid oes baneri’n cael eu chwifio pan fo henebion tymhorol Cadw ar gau.

18. Beth ddylwn i wneud os dof ar draws rhywbeth o werth archeolegol?

Dydy Cadw ddim yn gallu derbyn unrhyw ddarganfyddiadau archaeolegol sy’n cael eu cyfrannu’n wirfoddol. Fodd bynnag, mae yna brosiect gwirfoddol sy’n cofnodi eitemau archaeolegol wedi’u darganfod gan aelodau’r cyhoedd yng Nghymru a Lloegr, sef y Cynllun Henebion Cludadwy. Os dewch chi ar draws unrhyw beth o bwys archaeolegol yn eich barn chi, cysylltwch â Mark Lodwick, Swyddog Cyswllt Darganfyddiadau Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am y Cynllun Henebion Cludadwy ar gael yma.

Adeiladau Rhestredig

1. Sut y caiff adeiladau eu dewis ar gyfer eu rhestru?

Caiff adeiladau eu hasesu yn erbyn meini prawf a nodir yn Nodyn Cyngor Technegol 24 Llywodraeth Cymru: Yr Amgylchedd Hanesyddol.

2. Pa strwythurau sydd wedi'u rhestru?

Mae rhestru'n berthnasol i'r tu allan a'r tu mewn i adeilad, unrhyw wrthrych neu strwythur sydd wedi'i gysylltu â'r adeilad ac unrhyw strwythur sydd wedi'i leoli o fewn ei gwrtil sy'n ffurfio rhan o'r tir a hynny ers cyn 1 Gorffennaf 1948.

3. Beth yw'r graddau a ddefnyddir?

I   Adeiladau o ddiddordeb eithriadol, cenedlaethol fel arfer (ar hyn o bryd mae llai na 2 y cant o'r adeiladau a restrir yng Nghymru yn gymwys ar gyfer y radd hon).

II* Adeiladau o bwys penodol sydd o ddiddordeb mwy nag arbennig.

II  Adeiladau o ddiddordeb arbennig sy'n haeddu gwneud pob ymdrech i'w diogelu.

4. Beth mae rhestru’n ei olygu yn ymarferol?

Yn ogystal â darparu rhestr gyfeirio rwydd o adeiladau sydd o bwys i dreftadaeth y genedl, mae rhestru'n darparu lefel ychwanegol o warchodaeth — caniatâd adeilad rhestredig. I gael rhagor o fanylion gweler llyfryn Cadw 'Rheoli Newid i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru'. Gall nifer gyfyngedig o adeiladau rhestredig fod yn gymwys i gael grant gan Cadw i gynorthwyo â gwaith atgyweirio ond nid yw hyn yn awtomatig.

5. Pa wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y rhestrau?

  • Stryd, enw neu rif yr adeilad.
  • Ei radd.
  • Rhif cyfeirnod a'r cyfeirnod Grid Cenedlaethol.
  • Disgrifiad byr o'r adeilad, ei hanes ac ar adegau y rheswm dros ei restru.
  • Cyfeiriad, lle y bo'n berthnasol, at wybodaeth arall sydd wedi'i chyhoeddi am yr adeilad a'i bwysigrwydd.

Fel man cychwyn, bwriad y disgrifiad yw creu modd o adnabod yr adeilad. Nid yw’n rhestr gyflawn o’r hyn sydd wedi ei gynnwys wrth restru.

6. Beth yw’r broses ar gyfer rhestru adeilad?

Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu perchennog a meddiannydd adeilad, yr awdurdod lleol perthnasol ac unrhyw berson arall y maent yn credu sydd â gwybodaeth arbennig am adeiladau sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol neu sydd â diddordeb ynddynt, am eu bwriad i restru adeilad. Rhaid caniatáu o leiaf 28 o ddiwrnodau ar gyfer derbyn sylwadau ysgrifenedig.

O ddechrau proses ymgynghori ar gynnig gan Weinidogion Cymru i restru adeilad, caiff yr adeilad hwnnw warchodaeth interim fel pe bai wedi’i restru’n barod. Bydd yn drosedd felly i ddifrodi’r adeilad neu i wneud gwaith arno sy’n addasu ei gymeriad heb ganiatâd adeilad rhestredig.

Bydd y warchodaeth interim yn para hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ar y dynodiad ac yn rhoi gwybod i’r perchennog, y meddiannydd a'r awdurdod lleol perthnasol.

7. Sut mae cael gwybod a yw adeilad yn rhestredig ai peidio?

Mae awdurdodau lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol yn cadw gwybodaeth am yr adeiladau rhestredig yn eu hardaloedd. Gallwch hefyd chwilio am wybodaeth am adeiladau rhestredig ar-lein ar:    

  • Cof Cymru, Cronfa ddata genedlaethol Cadw o asedau hanesyddol dynodedig;
  • Archwilio, cronfa ddata chwiliadwy o gofnodion ar amgylchedd hanesyddol Cymru; 
  • Cymru Hanesyddol, porth yr amgylchedd hanesyddol sy’n cael ei gydlynu gan Gomisiwn Brenhinol Cofnodion Cymru.

8. A yw'n bosibl apelio yn erbyn rhestru?

Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu rhestru adeilad, mae hawl gan y perchennog neu’r meddiannydd i ofyn am adolygiad mewn perthynas â’r penderfyniad.

Dim ond ar y sail nad yw’r adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig y caniateir gwneud cais am adolygiad. Penodwyd y Gyfarwyddiaeth Gynllunio i gynnal yr holl adolygiadau ar ran Gweinidogion Cymru.

9. Sut y gallaf gwyno am gyflwr adeilad rhestredig?

Cysylltwch â Swyddog Cadwraeth neu Adran Gadwraeth yr awdurdod cynllunio lleol (h.y. y Cyngor neu'r Awdurdod Parc Cenedlaethol) yn eich ardal.

Henebion Cofrestredig

1. Beth yw heneb gofrestredig?

Mae dros 4,000 o'r henebion pwysicaf yng Nghymru wedi’u cynnwys ar gofrestr henebion Llywodraeth Cymru. Diogelir y safleoedd hyn yn gyfreithiol a chyfeirir atynt fel 'henebion cofrestredig.'

2. Sut y caiff safleoedd eu dewis ar gyfer eu cofrestru?

Gan weithredu ar ran Gweinidogion Cymru, mae Arolygiaeth Amgylchedd Hanesyddol Cadw yn nodi henebion ar gyfer eu cofrestru. Caiff yr henebion eu hasesu yn unol â meini prawf a nodir yn Nodyn Cyngor Technegol 24 Llywodraeth Cymru: Yr Amgylchedd Hanesyddol.

3. Beth yw’r broses ar gyfer cofrestru heneb?

Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu perchennog a meddiannydd heneb, yr awdurdod lleol perthnasol ac unrhyw berson arall y maent yn credu sydd â gwybodaeth arbennig am heneb benodol neu sydd â diddordeb cyffredinol mewn henebion o’r fath, am eu bwriad i gofrestru heneb. Rhaid caniatáu o leiaf 28 o ddiwrnodau ar gyfer derbyn sylwadau ysgrifenedig.

O ddechrau proses ymgynghori ar gynnig gan Weinidogion Cymru i gofrestru heneb neu i ychwanegu at ardal gofrestredig, caiff yr heneb honno warchodaeth interim fel pe bai wedi’i chofrestru’n barod. Bydd yn drosedd felly i ddifrodi’r heneb neu i wneud gwaith arni sy’n addasu ei chymeriad heb ganiatâd heneb gofrestredig.

Bydd y warchodaeth interim yn para hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ar y dynodiad ac yn rhoi gwybod i’r perchennog, y meddiannydd a'r awdurdod lleol perthnasol.

4. A oes hawl apelio yn erbyn statws cofrestru?

Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu cofrestru heneb neu ychwanegu at ardal gofrestredig, mae hawl gan y perchennog neu’r meddiannydd i ofyn am adolygiad mewn perthynas â’r penderfyniad.

Dim ond ar y sail nad yw’r heneb o bwysigrwydd cenedlaethol neu nad oes modd cyfiawnhau ychwanegiad at ardal gofrestredig y caniateir gwneud cais am adolygiad. Penodwyd y Gyfarwyddiaeth Gynllunio i gynnal yr holl adolygiadau ar ran Gweinidogion Cymru.

5. Pa weithgareddau a gaiff eu rheoli gan y broses gofrestru?

Mae’n drosedd i wneud gwaith ar heneb gofrestredig heb ganiatâd ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru drwy gyflwyno cais i Cadw am ganiatâd heneb gofrestredig. Mae gwaith yn cynnwys dymchwel, atgyweirio, addasu, ychwanegu at heneb, llifogydd ac unrhyw waith cloddio neu aflonyddu ar dir. Mae’n bosibl bod ambell beth, gan gynnwys gwaith amaethyddol neu arddio penodol, wedi’u heithrio rhag yr angen am ganiatâd ond fe’ch cynghorir i gysylltu â Cadw i gadarnhau hynny.

6. Sut y gwneir cais am ganiatâd heneb gofrestredig?

Gellir cael gwybodaeth am sut i wneud cais am ganiatâd heneb gofrestredig, ynghyd â ffurflenni cais, gan Cadw ac ar y wefan.

7. Pa grantiau sydd ar gael i henebion cofrestredig?

Mae cyfanswm y grant sydd ar gael yn amrywio ond fel arfer cynigir grantiau o hyd at 50% o gyfanswm y costau am ddiogelu, cynnal a chadw a henebion cofrestredig.

Gall grantiau o’r fath gwmpasu ystod o waith megis gwaith atgyweirio a chadwraeth, arolygon strwythurol, dehongli ynghyd â gwaith rheoli buddiol er mwyn sefydlogi cyflwr heneb.

I gael rhagor o wybodaeth am grantiau a chytundebau rheoli ar gael cysylltwch â Cadw.

8. Pa ffynonellau cyngor sydd ar gael ar henebion cofrestredig?

Mae swyddogion cangen Amgylchedd Hanesyddol Cadw yn gallu darparu cyngor arbenigol a gall ein wardeniaid henebion maes ac arolygwyr henebion sydd wedi eu lleoli’n rhanbarthol gwrdd â chi ar y safle pan fydd hynny’n briodol.

9. Sut y gallaf roi gwybod am ddifrod neu holi am gyflwr heneb gofrestredig?

Cysylltwch ag swyddogion cangen Amgylchedd Hanesyddol Cadw i gael gwybodaeth am ba bryd y cafodd cyflwr heneb gofrestredig ei archwilio ddiwethaf. Byddant yn gallu trefnu ymweliad er mwyn ymchwilio i unrhyw ddifrod a gofnodwyd, gan gysylltu â’r heddlu lle bo hynny’n briodol.

10. Gallaf ddefnyddio datgelydd metel ar safle heneb gofrestredig?

Mae'n drosedd defnyddio datgelydd metel ar heneb gofrestredig heb ganiatâd ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru. Oherwydd pwysigrwydd archaeoleg gofrestredig, nid yw’n debygol iawn y caiff caniatâd ei roi os bydd yn arwain at aflonyddu ar dir. Fel arfer dim ond fel rhan o waith ymchwil archeolegol pellach y caniateir i ddatgelyddion metel gael eu defnyddio.

11. Pam bod rhai adeiladau'n rhestredig ac eraill yn gofrestredig?

Yn gyffredinol (er bod eithriadau i'r rheol) caiff adeiladau eu rhestru os oes ganddynt do ac y gellid eu defnyddio eto. Mae henebion cofrestredig yn safleoedd archeolegol na ellid eu defnyddio. Gall rhai strwythurau gael dynodiad deuol, mewn achos o'r fath, y system gofrestru sy'n cael blaenoriaeth. Rhoddir statws cofrestru yn ôl disgresiwn, yn wahanol i statws rhestru. Mae'n ofynnol i adeiladau gael eu rhestru os ydynt yn bodloni'r meini prawf. 

Noddi

A all Cadw roi nawdd ariannol i brosiect personol?

Mae Cadw yn rhan o Lywodraeth Cymru, lle y caiff cyllidebau eu trefnu ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn seiliedig ar anghenion gweithredol adrannau. O ganlyniad i hyn, prin yw'r posibilrwydd o ddynodi arian ar gyfer nawdd personol.