Dros £100,000 ar gyfer henebion Cymru

Dydd Mercher 17 Chwefror 2016

Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £100,000 i adfer a diogelu henebion ledled y wlad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Llun o Muriau Tref Caernarfon

Muriau Tref Caernarfon

Mae amgylchedd hanesyddol Cymru, sy’n cynnwys henebion ac adeiladau hanesyddol, yn adrodd stori ryfeddol ein gorffennol, gan ddylanwadu ar y ffordd y gwelwn ein hunain fel Cymry.  Maen nhw hefyd yn dod â buddiannau economaidd sylweddol - un rhan o bump o wariant twristiaid yng Nghymru.

Caiff y £100,000 a mwy ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau fydd yn diogelu henebion, gan gynnwys gwaith trwsio brys a newidiadau i wneud safleoedd yn fwy hygyrch.

Ymhlith yr henebion fydd yn derbyn grant fydd Porthdy Porth yr Aur, un o fynedfeydd gwreiddiol tref furiog ganoloesol Caernarfon a adeiladwyd gan Edward I yn yr 13eg ganrif.  Mae grant o hyd at £96,800 wedi’i neilltuo iddo.

Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i dalu am waith cadwraeth ar waliau’r porthdy ac i drwsio’r to.  Bydd hyn yn gwella’r atyniad i dwristiaid, sydd wedi bod yn ddolen ers canrifoedd rhwng y dref a’i harbwr.  Mae’r porthdy’n rhan o Safle Treftadaeth y Byd Cestyll a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd.

Bydd Hen Gapel, Llan-y-bri, Sir Gaerfyrddin hefyd yn elwa.  Caiff £2,250 ei neilltuo i dalu am waith atgyweirio’r to er mwyn iddo allu aros ar agor i’r cyhoedd.  Credir mai Hen Gapel yw’r unig gapel canoloesol yng Nghymru a gafodd ei droi’n gapel anghydffurfiol yn y canrifoedd wedi hynny.  

Erbyn heddiw, adfeilion yw’r capel gan fwyaf, ond mae tŵr y gorllewin wedi goroesi fel ag yr oedd.  Mae’r safle yng nghanol ei gymuned ac yn cael ei ddefnyddio fel cofeb rhyfel y pentref gyda dau blac arno i gofio’r rheini a gollwyd.

Wrth gyhoeddi’r rownd gyllido ddiweddaraf, meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates:

“Rydym ni’r Cymry wedi’n bendithio â thirwedd sy’n doreithiog o henebion a safleoedd hanesyddol.  Yn ogystal â’n hatgoffa am ein gorffennol a sut mae bywyd wedi newid dros rod y canrifoedd, maen nhw hefyd yn dod â budd economaidd mawr trwy dwristiaeth.

“Mae’n dda gennyf allu helpu i ddiogelu’n treftadaeth unigryw gyda’r rownd ddiweddaraf hon o grantiau er mwyn i’r henebion pwysig hyn allu parhau i swyno ac ysbrydoli pobl am ganrifoedd i ddod.”

Mae llawer o’r grantiau’n cefnogi prosiectau yn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf a’u cyffiniau gan ddod â manteision cymdeithasol ac addysgol mawr i’r ardaloedd hynny.

Pasiwyd Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) gan y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mawrth, 9 Chwefror.  Pan ddaw’n gyfraith, bydd yn cyflwyno mesurau newydd i ddiogelu amgylchedd hanesyddol Cymru.  Trwy’r grantiau hyn, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn helpu prosiectau cadwraeth cyffrous ledled y wlad fydd yn helpu i ddiogelu a rheoli henebion y genedl.