Y Prif Weinidog yn pwysleisio cyfraniad Cymru i UNESCO trwy ei Safleoedd Treftadaeth y Byd

Dydd Mawrth 19 Mai 2015

Croesawodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru cyfraniad sylweddol Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig (UNESCO) i economi Cymru.

Llun o Carwyn Jones yn siarad yn y digwyddiad UNESCO

Carwyn Jones yn siarad yn y digwyddiad UNESCO

Mewn digwyddiad yn adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, ymunodd y Prif Weinidog ynghyd â chynrychiolwyr o 13 o safleoedd dynodedig UNESCO yng Nghymrugyda Aelodau Cynulliad a chynrychiolwyr corff cydlynu cenedlaethol UNESCO y DU i groesawu gwerth UNESCO i Gymru a Chymru i UNESCO.

Meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones, “O gestyll y Gogledd i ganolfannau arloesi diwydiannol yn y De, mae Safleoedd Treftadaeth y Byd Cymru yn rhai o bwys rhyngwladol anferthol.

“Tra bod y safleoedd hyn yn adlewyrchu cyfoeth treftadaeth ddiwylliannol ein gwlad brydferth, maen nhw hefyd yn gwneud cyfraniad allweddol i economi Cymru, yn denu ymwelwyr o bedwar ban byd gan roi hwb aruthrol i’n heconomi. Felly, mae’n bwysig ein bod ni’n cadw’r safleoedd gwych hyn ar gyfer y cenedlaethau i ddod gan eu bod nhw’n rhoi llwyfan i dreftadaeth ddiwylliannol a harddwch eithriadol ein gwlad.”

Mae Cymru’n gartref i 13 o Ddynodiadau UNESCO gan gynnwys:
•        tri Safle Treftadaeth y Byd (Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte, Trefor, Wrecsam , Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, Torfaen, Cestyll a Muriau Tref Edward I yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn),
•        un Warchodfa Biosffer (Biosffer Dyfi)
•        dau Geoparc Byd-eang (Geoparc Fforest Fawr, Bannau Brycheiniog a Geoparc GeoMôn yn Amlwch, Ynys Môn).

Trafododd y derbyniad  am werth Dynodiadau UNESCO i Gymru. Hefyd, drafododd adroddiad Comisiwn Cenedlaethol UNESCO y Deyrnas Unedig The Wider Value of UNESCO to the UK 2012 – 2013 sy’n datgelu bod aelodaeth o UNESCO wedi creu buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i’r Dynodiad ac i Gymru’n gyffredinol.

Defnyddiodd astudiaeth achos ar afle Treftadaeth y Byd Diwydiannol Blaenafon fel engraifft yn ystod y gynhadledd ac fe'i crybwyllwyd yn adroddiad Comisiwn Cenedlaethol UNESCO y Deyrnas Unedig The Wider Value of UNESCO to the UK 2012 – 2013.

Yn sgil dirywiad enbyd o ran gwaith glo a’r diwydiannau cysylltiedig ym Mlaenafon yn y 1990au, aeth partneriaeth o’r cyngor lleol a 12 sefydliad arall ati i ddatblygu strategaeth adfywio economaidd i’r dref yn seiliedig ar dreftadaeth ddiwydiannol arbennig yr ardal. Y nod oedd ei gwneud yn gyrchfan allweddol ar gyfer twristiaeth ddiwylliannol. Roedd gweithredu’r strategaeth yn bosibl diolch i statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO a sicrhawyd yn y flwyddyn 2000.

Mae manteision Statws Treftadaeth y Byd yn cynnwys cynyddu nifer yr ymwelwyr o tua 100,000 y flwyddyn i dros 200,000 y flwyddyn ers ennill statws Safle Treftadaeth y Byd, gan gynhyrchu tua £2.4 miliwn y flwyddyn i’r economi leol, yn ogystal â diddordeb cynyddol gan gyllidwyr. Yn 2012, derbyniodd Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon £50,000 o fuddsoddiad gan gwmni Rhymney Brewery i ddatblygu microfragdy, ardal ymwelwyr a chyfleusterau. Dywedodd y bragdy fod dynodiad UNESCO wedi codi proffil y cynnyrch a’i fod yn rheswm allweddol dros fuddsoddi yno.

Yn ôl Gary Brace, Is-gadeirydd Comisiwn Cenedlaethol UNESCO y Deyrnas Unedig, "Rydym wrth ein boddau y bydd y Prif Weinidog, Aelodau Cynulliad a chynrychiolwyr safleoedd UNESCO  Cymru wedi dod i werthfawrogi cyfraniad UNESCO i Gymru a’r hyn mae Cymru’n ei chyflwyno i UNESCO. Mae Comisiwn Cenedlaethol UNESCO y DU yn falch o weithio drwy’i rwydwaith o arbenigwyr yng Nghymru i ddarparu cyngor polisi i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys ceisiadau’r Comisiwn i Fil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Edrychwn ymlaen at gryfhau ein perthynas â theulu UNESCO yng Nghymru ymhellach er mwyn cyflwyno holl fanteision UNESCO i Gymru”.