Ymunwch yn hwyl yr ŵyl yn safleoedd hanesyddol Cymru y Nadolig hwn

Dydd Iau 19 Hydref 2017

Cadw Sion Corn

Bydd henebion hanesyddol hudol Cymru yn llawn hwyl yr ŵyl y Nadolig hwn, wrth i wasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru (Cadw) gyflwyno rhaglen lawn o ddigwyddiadau Nadoligaidd teuluol. 

O ffair Nadolig llawn gweithgareddau i wyliau Fictoraidd hiraethus a hyd yn oed ymddangosiadau arbennig gan Siôn Corn yn ei ddillad gwyrdd, bydd rhywbeth i bawb yn safleoedd Cadw y tymor hwn – ychydig o hwyl yr ŵyl i’r holl deulu dros y Nadolig.

Bydd gwesteion Castell Biwmares yn darganfod traddodiadau Nadoligau Oes Fictoria, gyda gweithgareddau ymarferol, coed Nadolig hyfryd a cherddoriaeth draddodiadol Gymreig yn atseinio drwy goridorau capel y safle – lle sy’n llawn awyrgylch.

Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill fydd gweithdy peli pêr (pomander) traddodiadol yng Nghastell Coch, gan ganiatáu i ymwelwyr fynd ag arogl Nadoligau Fictoraidd yn ôl i’w cartrefi eu hunain.

Yn y cyfamser, gall ymwelwyr â Chastell Caerffili ddisgwyl sbloets Nadoligaidd cyffrous fydd yn cynnwys sglefrio iâ, llithren enfawr, rodeo ceirw a hyd yn oed castell bownsio dyn eira 50 troedfedd - yn ddelfrydol i'r rheiny sydd am losgi calorïau’r mins peis.

Bydd hyd yn oed ymweliad arbennig gan Siôn Corn mewn nifer o safleoedd ar draws y wlad (Castell Coch, Castell Rhaglan, Castell Harlech, Gwaith Haearn Blaenafon, Llys a Chastell Tre-tŵr, Castell Caerffili), gan roi cyfle i’r ymwelwyr ifanc sôn wrth Siôn Corn am eu dymuniadau Nadolig munud olaf - dim ond ar gyfer y plant da, wrth gwrs.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates: "Rydym yn gobeithio y bydd amserlen Nadoligaidd Cadw yn denu ymwelwyr o bob oed i ddianc rhag straen y siopa Nadolig ac i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau tymhorol yn ein hadeiladau hanesyddol.

“Mae 2017 yn Flwyddyn y Chwedlau yng Nghymru - a pha ffordd well o ddathlu hud y Nadolig nag ymweld ag un o safleoedd hanesyddol chwedlonol Cymru?"

Am restr lawn o ddigwyddiadau Nadoligaidd a gwybodaeth archebu, ewch i gov.wales/cadw, dilynwch @CadwCymru neu @CadwWales ar Twitter neu chwiliwch am Cadw ar Facebook.