Codi pontydd gyda threftadaeth Sioraidd Cymru

Dydd Llun 23 Hydref 2017

Ystâd yr Hafod

Mae adfail o bont yn un o ystadau treftadaeth trawiadol Cymru wedi cael ei hadfer i’w hen ogoniant, diolch i grant sy’n werth £17.5k gan Cadw.

Mae Ystâd yr Hafod ddeuddeg milltir i’r de-ddwyrain o Aberystwyth ac mae’n cynnwys 200 hectar o ardal wedi’i thirlunio a rhwydwaith o lwybrau cerdded hanesyddol wedi’u dylunio gan perchennog enwocaf yr ystâd, Thomas Johnes (1748-1816).

Mae’r bont ar agor i'r cyhoedd erbyn hyn, ac mae’n uno dau hanner o rodfa'r ystad ac yn rhan o “Dro Ceunant Ystwyth”, sef llwybr gan Johnes a ddyluniodd i gynnig y golygfeydd gorau o raeadrau dramatig yr ystâd.

Cafodd "Tro Ceunant Ystwyth” ei datblygu yn niwedd y ddeunawfed ganrif, ac mae’n un o’r pum llwybr sydd wedi cael eu hadfer ar yr ystâd ac sydd, gyda’i gilydd, yn creu un o'r tirweddau pictiwrésg pwysicaf yn Ewrop.

Fe wnaeth dyfeisgarwch Johnes wrth dirlunio droi’r Hafod yn un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd i dwristiaid yn yr Oes Sioraidd yng Nghymru, ond erbyn 1950 roedd yr ystad enwog wedi mynd â’i ben iddo, wedi diflannu oddi ar y map ac allan o'r teithlyfrau.

Mae'r bont — a drefnwyd gyda chymorth gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Fferm Wynt Gymunedol Cefn Croes — yn un elfen o brosiect 27 mlynedd i gywiro hyn, drwy drwsio, adfer ac ailosod nodweddion gwreiddiol yr ystâd.

Dan arweiniad Ymddiriedolaeth yr Hafod, mae’r prosiect adfer wedi canolbwyntio ar waith cadwraeth ymarferol ar lwybrau Johnes er mwyn ceisio adfywio a gwneud cyfiawnder â gweledigaeth greadigol y pensaer.

Mae’r bont yn tystio i'r athroniaeth hon, ac yn yr hydref mae’n caniatáu i gerddwyr weld Rhaeadr Peiran fel y bwriadai Johnes, a hynny am y tro cyntaf ers i'r man croesi diwethaf y gwyddom amdano ddymchwel fwy na thri deg mlynedd yn ôl.

Dywedodd David Newnham, rheolwr prosiect Ymddiriedolaeth yr Hafod: “Nid ar chwarae bach y mae adfer a chynnal tirwedd mor fawr a chymhleth â’r Hafod felly mae cymorth gan gyrff fel Cadw yn gwneud byd o wahaniaeth.

“Bydd y bont yn caniatáu i ymwelwyr ddilyn ôl troed twristiaid yr Oes Sioraidd a mwynhau dyffrynnoedd coediog, nentydd gwyllt a rhaeadrau am genedlaethau i ddod.”

Yn seiliedig ar fraslun o strwythur Fictorianaidd yn 'arnofio’ o 1843, mae’r bont newydd yn cyfuno aestheteg Fictorianaidd a pheirianneg fodern er mwyn sicrhau cryfder, diogelwch a oes hir, tra hefyd yn diogelu ategwaith y strwythur sydd wedi’i warchod gan y gyfraith.

Yn wir, mae holl ddyluniad y bont — sy’n sefyll ar goncrid — wedi canolbwyntio ar gyfyngu ar yr effaith gorfforol ar yr ategwaith tra hefyd yn ymddangos fel petaent yn sownd ynddo.

Hefyd, mae’n ddigon llydan ar gyfer cadeiriau olwyn a phramiau, yn wahanol i’r bont droed sydd i fyny’r afon.

Ychwanegodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: "Mae angen y buddsoddiad hwn yn fawr a bydd yn gymorth i ailgynnau enw da Ystâd yr Hafod fel tirwedd hanesyddol o'r radd flaenaf a thrwy wneud hynny, bydd yn creu arlwy well ar gyfer ymwelwyr ac yn cynyddu nifer y twristiaid â'r ardal.

“Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i ddarganfod a diogelu amgylcheddau hanesyddol fel hyn er mwyn diogelu treftadaeth doreithiog Cymru er mwyn i genedlaethau'r dyfodol allu eu crwydro a’u mwynhau.”