Ymgynghoriad chwech wythnos ar gynnig newydd mewn perthynas â gwaith heb awdurdod
Dydd Llun 03 Mawrth 2014
Byddai Llywodraeth Cymru yn hoffi eich sylwadau ar cynnig newydd i sicrhau bod hanebion rhestredig yn cael eu diogelu’n fwy effeithiol.

Rhwng 2006 a 2012, cafodd Cadw adroddiadau am 119 o achosion o ddifrod anghyfreithlon i henebion cofrestredig yng Nghymru. Fodd bynnag, dim ond un erlyniad llwyddiannus a gafwyd o dan Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979 yn y 25 blynedd diwethaf.
Mynegodd nifer o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad y llynedd, 'Dyfodol ein gorffennol', bryderon am brinder erlyniadau llwyddiannus. Galwodd rai am newidiadau i'r amddiffyniad o anwybodaeth o ran statws neu leoliad heneb a ganiateir gan y Ddeddf er mwyn ei gwneud yn haws sicrhau collfarnau am achosi difrod anghyfreithlon.
Yn unol â hynny, hoffai Llywodraeth Cymru gael eich barn ar gynnig i ddiwygio'r troseddau a'r amddiffyniadau yn Neddf 1979 er mwyn addasu'r 'amddiffyniad o anwybodaeth'.
Gwelir mwy o fanylion am y cynnig mewn dogfen ymgynghori, sydd ar gael, ynghyd â ffurflen ymateb, ar dudalennau ymgynghori gwefan Llywodraeth Cymru.
Gan y ceisir ymatebion ar un cynnig yn unig, caiff y cyfnod ymgynghori ei gyfyngu i chwech wythnos o 3 Mawrth i 14 Ebrill 2014. Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad ar gael tra bo amser o hyd i lywio darpariaethau'r Bil Treftadaeth, y disgwylir iddo gael ei gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yng ngwanwyn 2015.
Gallai eich barn ar y cynnig hwn helpu i ddiogelu henebion cofrestredig yng Nghymru, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy gyflwyno eich ymateb erbyn 14 Ebrill.