Pererindod yr oes sydd ohoni

Dydd Gwener 25 Ebrill 2014

Ond faint wyddoch chi am hanes crefyddol Cymru?

  • Abaty Ystrad Fflur

    Abaty Ystrad Fflur

  • Llys yr Esgob, Llandyfái

    Llys yr Esgob, Llandyfái

  • Capel y Rug

    Capel y Rug

  • Llys yr Esgob Tyddewi

    Llys yr Esgob Tyddewi

  • Abaty a Chartws Llandudoch

    Abaty a Chartws Llandudoch

  • Abaty Tyndyrn

    Abaty Tyndyrn

  • Abaty Glyn y Groes

    Abaty Glyn y Groes

O'r abatai Sistersaidd mawreddog i'r capeli pentref tawel, dyma fwrw golwg dros rai o'r safleoedd gorau yng Nghymru.

Abaty Ystrad Fflur

Eleni mae Abaty Ystrad Fflur yn dathlu 850 o flynyddoedd ers cael ei sefydlu - heneb a gaiff ei hedmygu am ei harddwch ysblennydd a'i hadnabod, ar yr un pryd, am ei phwysigrwydd hanesyddol.
 
Credir bod Dafydd ap Gwilym, un o feirdd canoloesol mwyaf adnabyddus Cymru, wedi'i gladdu yno ac yn wir, mae'r safle yn dal i ddenu edmygwyr llenyddiaeth drwy ei borth cerfiedig godidog heddiw.  

Arferai'r adeilad rhyfeddol hwn, yng Ngheredigion, fod yn gartref i fynachod Sistersaidd yr Oesoedd Canol.

Adeiladwyd gan fynachod canoloesol

850 o flynyddoedd yn ôl byddai teithio 50 o filltiroedd drwy Gymru ganoloesol wedi bod yn dasg frawychus i grŵp bach o fynachod a oedd yn gyfrifol am sefydlu Abaty Ystrad Fflur.

Yn 1164, gadawodd y mynachod Sistersaidd ddiogelwch eu mam-abaty yn Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin a theithio i'r gogledd. Roedd hi'n adeg gythryblus yng Nghymru wrth i dywysogion Cymru frwydro i adennill rheolaeth dros eu tir rhag goresgyniad y Normaniaid. Fodd bynnag, yng Ngorllewin Cymru, roedd Cymru wedi dechrau adennill ei grym yn sgil dyrchafiad teyrnas y Deheubarth o dan arglwyddiaeth bwerus y Tywysog Rhys ap Gruffudd, neu yr Arglwydd Rhys, fel y'i gelwir hefyd. Yn ffodus i'r mynachod yn yr Abaty a oedd newydd ei sefydlu, bu'n noddwr hael a chadarn.  

Mewn siarter yn 1184, rhoddodd yr Arglwydd Rhys diroedd helaeth i'r Abaty a oedd yn sicrhau digon o incwm i gefnogi'r gwaith o adeiladu eglwys newydd wych yn yr Abaty ar lannau Ystrad Fflur, lle gellir gweld yr adfeilion sydd wedi goroesi hyd heddiw.  

Darganfyddiadau diweddar

Mae'r adfeilion, sydd bellach dan ofal Cadw, wedi'u hatgyfodi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  

Mae ymchwiliadau a gynhaliwyd gan staff a myfyrwyr o Gampws y Drindod Dewi Sant yn Llanbed wedi datgelu tystiolaeth o adeiladau hirgoll yn rhodfan yr abaty yn cynnwys porthdy allanol a melin yr Abaty tra bo ffotograffau o'r awyr yn dangos pa mor fawr yw ffermydd ac ystad yr Abaty mewn gwirionedd, sy'n ymestyn ymhell i fyny'r bryniau cyfagos.  

Mae'r agweddau gwahanol ar fywyd yn Ystrad Fflur a'r bobl a arferai fyw, gweithio ac ymweld â'r lle bellach wedi'u cyflwyno yng nghanolfan ymwelwyr Cadw.  Caiff arteffactau a ail-ddarganfuwyd mewn cloddfeydd eu harddangos yno, fel offer, ceiniogau a gwrthrychau personol a ddefnyddiwyd gan y mynachod a'r crefftwyr. Ymhlith y pethau mwyaf diddorol mae dwy lechen doredig sydd â llinellau o farddoniaeth wedi'u hysgrifennu arnynt mewn Cymraeg canoloesol ynghyd â brasluniau o ddail - darnau ymarfer egin-fardd o bosibl?  Ond nid oedd pob darn o waith celf yr Abaty bob amser yn gywir – caiff ceiniogau ffug eu harddangos hefyd y cafodd mynach ei ddal yn y weithred o geisio eu ffugio!

Roedd nifer o heriau yn gysylltiedig â gosod yr arddangosfa, yn cynnwys y ffaith bod angen symud ac ailosod, dros dro, garreg fedd enfawr a oedd yn pwyso dros hanner tunnell.   Pan ddarganfuwyd y garreg yn wreiddiol yn Nhŷ Siapter yr Abaty, gwelwyd ei bod yn gorchuddio grŵp o esgyrn wedi'u datgymalu a oedd yn perthyn i o leiaf 12 unigolyn. Ni wyddom pwy oedd y bobl hyn, ond roedd claddfeydd yn Nhŷ'r Siapter yn fraint a gedwid fel arfer i Abadau a'r noddwyr mwyaf uchel eu parch.  Mae'r garreg fedd doredig hon wedi'i rhoi'n ôl at ei gilydd fesul darn ac mae bellach wedi'i harddangos yn y ganolfan ymwelwyr.

Bedd frenhinol

Drwy gydol hanes, ymddengys fod yr Abaty wedi bod yn lle arbennig i Dywysogion brenhinol y Deheubarth.  Gwyddom fod naw aelod o'u teulu wedi'u claddu yma yn cynnwys Cadell, brawd Rhys.
 
Parhaodd mynachod Ystrad Fflur i fod yn ffyrnig o ffyddlon i Gymru, a daethant yn geidwaid arwyddocaol ei thraddodiadau diwylliannol brodorol.  Yn yr Abaty y byddai mynachod y côr yn cadw ac yn cyfieithu Brut y Tywysogion o'r Lladin i'r Gymraeg.  Mae'r llawysgrif hon yn un o gofnodion hanesyddol pwysicaf Cymru ganoloesol ac fe'i cedwir heddiw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.  
 
Tra byddai mynachod y côr yn trawsgrifio llyfrau, byddai'r brodyr lleyg yn gweithio ar y tir, gan drawsffurfio gwaelod y cwm o fod yn ddiffeithwch i fod yn gaeau ffrwythlon.  Yn ystod y 13eg ganrif, tyfodd yr Abaty ac adeiladodd seiri meini a seiri coed adeilad mawreddog yr eglwys, gan ei addurno â cherrig cerfiedig cain, to pren cymhleth a lloriau teils addurnol.

Ysbrydoledig

Ar ei anterth, roedd Ystrad Fflur yn fan aros poblogaidd i feirdd a fyddai'n 'clera' ac yn crwydro'r tir yn chwilio am wely a brecwast yn gyfnewid am ddarparu barddoniaeth ac adloniant.  

Yr enwocaf o'r rhain oedd Dafydd ap Gwilym, a oedd yn byw yn ystod y 14eg ganrif.  Pwy a ŵyr beth oedd barn y mynachod am ei farddoniaeth gan fod ei gerddi'n ffraeth, yn gyfoethog ac yn llawn cyfeiriadau at ei gariad at ferched.  Yn ôl y traddodiad, cafodd ei gladdu yn Ystrad Fflur o dan goeden ywen a saif ym mynwent yr eglwys, a hyd heddiw mae'r safle'n dal i fod yn fan pererindod i edmygwyr barddoniaeth Gymraeg.

Diweddglo trist

Daeth yr Abaty i ben yn yr 16eg ganrif pan orchmynnodd Harri'r VIII gau'r mynachlogydd a gwerthu eu tiroedd. Ymadawyd â'r abaty a thros y canrifoedd canlynol aeth â'i ben iddo, ysbeiliwyd ei adeiladau er mwyn cael cerrig.  Ond yn rhyfeddol, goroesodd y porth gorllewinol hardd ac unigryw ac mae'n parhau hyd heddiw fel golygfa groesawgar i ymwelwyr â'r safle diwylliannol syfrdanol a heddychlon hwn.  

Pa Palas yr Esgob Llandyfái

Prin ddwy filltir o dref Penfro yng Ngorllewin Cymru, saif y Palas hwn a fu gynt yn encil gwledig gloyw i esgobion o Dŷ Ddewi.
 
Gwaith Henry de Gower, esgob deinamig Tŷ Ddewi rhwng 1328 ac 1347 yn bennaf yw'r hyn y gellir ei weld yn y Palas heddiw. Yn sgil ei weledigaeth ef, daeth Palas urddasol Llandyfái yn fan dethol i glerigwyr uchel eu gradd a oedd yn awyddus i ddangos eu hunain yn wŷr bonheddig. Mae Palas yr Esgob Llandyfái, sydd ag adeiladau'n dyddio o'r 13eg-16eg ganrif, yn cynnwys nifer o neuaddau a chapeli.  

Mae neuadd fawr Esgob Gower, sy'n 82 troedfedd (25m) o hyd, yn gyflawniad pensaernïol arbennig o goeth a byddai ei hysblander pur wedi creu argraff ar hyd yn oed yr esgobion mwyaf breintiedig.  

Capel y Rug

Saif y capel o'r 17eg ganrif ar lannau Afon Dyfrdwy yn Sir Ddinbych. Mae'n safle hardd a heddychlon a sefydlwyd fel capel preifat gan yr Arch-frenhinwr y Cyrnol William Salesbury. Yn groes i'w olwg allanol di-nod, mae'r capel ei hun wedi'i addurno'n gain â cherfiadau pren coeth a motiffau rhosod. Fel ysgolhaig blaenllaw o Gymru a phrif gyfieithydd Testament Newydd Cymraeg 1567, byddai'r capel wedi bod yn fan delfrydol i'r Cyrnol Salesbury gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg.

Palas Esgob Tŷ Ddewi

Saif y palas moethus hwn, a arferai gael ei addurno â chorbelau wedi'u cerfio fel pennau dynol a gwaith maen tawlbyrddau trawiadol, yng nghanol Tŷ Ddewi ac mae'n brawf o gyfoeth a statws gwŷr crefyddol yr Oesoedd Canol. 


Roedd yr Esgob Henry de Gower yn gyfrifol am bron bob rhan o'r palas a welwn ni heddiw ac mae ei etifeddiaeth i'w gweld yn y ffenestr olwyn anhygoel yn y talcen dwyreiniol, y cyntedd mawreddog a'r neuadd fawr.

Adeiladwyd y palas hwn a oedd yn doreithiog gynt, ar gyfer y ddrama ac mae'n cynnal sawl perfformiad theatraidd awyr agored. Heddiw, daw'r safle crefyddol gwych hwn yn fyw yn sgil arddangosfeydd o ddehongliadau gweledol a sain a bydd synau palas prysur yr esgob i'w clywed ym mhob man yn cynnwys clychau, caneuon a hyd yn oed sŵn ceffylau yn carlamu.  

Abaty a Chartws Llandudoch

Enwyd y safle ar ôl Sant Tudoch, sant Cristnogol o'r 6ed ganrif, cefnder Dewi Sant, nawddsant Cymru, yn ôl y sôn.

Saif yr abaty hwn o'r 12fed ganrif ar lannau Afon Teifi yn Aberteifi ac fe'i haddaswyd yn blasty preifat ar ôl i Harri'r VIII ddiddymu'r mynachlogydd.  Bydd ymwelwyr heddiw yn mwynhau taith sain o amgylch yr adeilad sanctaidd hwn ynghyd ag ymweliad ag amgueddfa yng nghartws yr abaty, sydd bellach wedi'i addasu.  Mae'n arddangos enghreifftiau o'r cerrig Cristnogol cynnar a'r cerrig canoloesol cerfiedig hardd a arferai addurno'r abaty.

Abaty Tyndyrn

Saif Tyndyrn, yr abaty canoloesol sydd wedi goroesi orau yng Nghymru, brin lathau i ffwrdd o lannau Afon Gwy ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.  Mae gweddillion yr oes sydd ohoni yn gymysgedd o waith adeiladu sy'n cwmpasu cyfnod o 400 o flynyddoedd rhwng 1131 ac 1536.
 
Gall ymwelwyr edmygu'r ffenestri helaeth a'r manylion addurnol diweddarach a arddangosir yn y waliau, y pyrth a'r mynedfeydd bwaog a dychmygu bywyd y Sistersiaid o fewn waliau'r safle hyfryd hwn.

Abaty Glyn y Groes

Mae'r safle hwn sydd mewn lleoliad anghysbell ond hudol yn Llantysilio, Llangollen, yn gartref i olygfeydd naturiol ysbrydoledig.  O'i gloestr i dŷ'r siapter, gyda'i do fowtiau asennog trawiadol.

Adeiladwyd yr abaty yn gartref i fynachod Sistersaidd crefyddol yn y 13eg ganrif oedd yn byw bywyd caled, uniongred ond fe'i rhestrwyd yn ddiweddarach fel yr ail fynachdy cyfoethocaf ar ôl Abaty Tyndyrn.