Lansio llwybr Agincourt Cymru trwy bannu coed ar Bromenâd Aberhonddu

Dydd Mawrth 09 Chwefror 2016

Bydd Maer Aberhonddu, David Meredith a’r Cynghorydd Matthew Dorrance yn bresennol pan fydd 60 o goed, a gyflwynwyd gan Goed Cadw, yn cael eu plannu ar hyd y Promenâd am 12.30pm, 13 Chwefror.  Gwirfoddolwyr cymunedol a’r Cymoedd Gwyrdd fydd yn plannu’r coed i goffau rôl Aberhonddu ym Mrwydr Agincourt.

Castell Tre-tŵr

Castell Tre-tŵr

Mae Aberhonddu’n un o wyth safle ar draws Brycheiniog, Sir Fynwy a Fforest y Ddena sy’n ffurfio Llwybr newydd Agincourt Cymru.  Mae’r llwybr yn adrodd stori dynion yr ardal a deithiodd i Ffrainc yn 1415 i ymladd yn y frwydr enwog fel rhan o fyddin Harri’r Pumed.

Bydd plannu’r coed ym Mhromenâd Aberhonddu a chreu Llwybr Agincourt Cymru yn cydnabod hanes Agincourt a sut mae’n berthnasol yn lleol.   Gallwch ddysgu mwy trwy fynd i’r Eglwys Gadeiriol yn Aberhonddu, lle mae modd gweld gwybodaeth ychwanegol ac arteffactau, gan gynnwys rhestr indentur dynion Sir Frycheiniog a deithiodd i Ffrainc, a charreg a honnir i fod wedi’i defnyddio gan y saethwyr i hogi eu saethau.

O Frycheiniog roedd 10 o ddynion arfog, 13 o saethwyr-farchogion a 146 o saethwyr ar droed yn rhan o fintai Harri’r Pumed – rhan o dros 600 o ddynion o bob cwr o’r ardal a deithiodd y ffordd bell i Ffrainc.
Bydd coed derw hefyd yn cael eu plannu yn Neuadd Bentref Trecastell (13 Chwefror) a Chwrt a Chastell Tretŵr ar 12 Chwefror 1pm i sefydlu dau safle arall ar Lwybr Agincourt Cymru.

Meddai’r Cynghorydd Brown, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Powys sy’n gyfrifol am Hamdden yn yr Awyr Agored: “Mae’n bleser cael bod yn rhan o’r prosiect hwn a gweld prosiect Llwybr Agincourt Cymru’n defnyddio’r Promenâd i blannu coed i goffau’r digwyddiad hanesyddol hwn.”

Dywedodd y Cynghorydd Dorrance, Cynghorydd Sir ar ran Ward Sant Ioan: “Mae’r Prom yn le cymunedol poblogaidd.  Mae’n newyddion da bod ‘Plan Brecon’ a Choed Cadw’n gweithio gyda’r cyngor i blannu’r coed i goffau’r cyswllt rhwng Aberhonddu ac Agincourt.  Mae’n le poblogaidd gydag ymwelwyr a thrigolion ac mor agos i Eglwys Gadeiriol Aberhonddu lle mae modd gwybod mwy am fintai Sir Frycheiniog.”
Dywedodd Coed Cadw: “Mae’n braf cael bod yn gysylltiedig â Llwybr Agincourt Cymru.  Mae plannu’r coed hyn yn ffordd wych i goffau’r bobl a’r lleoedd sy’n rhan o stori Agincourt.  Mae’r coed yn gofeb byw i’r dynion a deithiodd i Ffrainc ganrifoedd yn ôl.”

Dywedodd Syr Trefor Morris, Cadeirydd Grŵp Treftadaeth Cymru Agincourt 600: “Mae’r Llwybr yn casglu straeon cymunedol lleol sy’n clymu pobl a lleoedd sydd â chysylltiadau sylweddol ag Agincourt.  Y llynedd, wrth ddathlu 600 mlynedd ers y frwydr, mae’r gweithgareddau a’r digwyddiadau a drefnwyd gan grwpiau cymunedol wedi ennyn diddordeb nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y byd.  Y gobaith yw datblygu’r diddordeb hwn ymhellach fel etifeddiaeth sylweddol trwy fentrau megis y Llwybr newydd hwn.”

Mae’r rhestr o leoliadau ar Lwybr Agincourt yn cynnwys Promenâd Aberhonddu ac Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, Neuadd Bentref Trecastell, Cwrt a Chastell Tretŵr - i gyd ym Mhowys; Eglwys Priordy'r Santes Fair yn Y Fenni, Castell Rhaglan, Castell Cil-y-coed, ‘The Tump’ gyferbyn Castell Briavels a Chastell Mynwy. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.agincourt600wales.com.