Cymru’n nodi 600 mlynedd ers Brwydr Agincourt

Dydd Gwener 26 Mehefin 2015

  • Llun o ddigwyddiad yng Nghastell Raglan

    Digwyddiad yng Nghastell Raglan

  • Llun o Llys a Chastell Tre-tŵr

    Llys a Chastell Tre-tŵr

  • Llun o Castell Raglan

    Castell Raglan

Yn 1415, trechwyd byddin ddiguro Ffrainc gan Harri V yn un o frwydrau enwocaf hanes Prydain.  Er bod llawer mwy o ddynion ym myddin Ffrainc, llwyddodd Harri V i ennill y frwydr, er gwaethaf pob disgwyl. Roedd y diolch am hynny'n rhannol i anelu manwl a sgiliau diamheuol ei saethwyr bwa hir, yn cynnwys 500 saethwr o Gymru.

Ond nid dyna’r unig gysylltiad Cymreig, ac mae Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r rôl bwysig yr oedd gan Gymru yn y digwyddiad hanesyddol hwn i anrhydeddu'r 600 mlwyddiant.

Caiff hon ei hystyried yn fuddugoliaeth Seisnig fel arfer, ond cyfrannodd Cymru at y llwyddiant ac mae sawl lle yng Nghymru yn gysylltiedig â'r stori.

'Harri o Drefynwy’
Ennill brwydr Agincourt oedd buddugoliaeth enwocaf Harri V, ond nid oes llawer o bobl yn gwybod bod y brenin wedi cael ei eni yma yng Nghymru. Ganed Harri yng Nghastell Trefynwy yn 1387 ac roedd Shakespeare yn ei alw’n ‘Harri o Drefynwy’.  Heddiw, mae cerflun ohono y tu allan i Neuadd y Sir, a gelwir maes y farchnad yng nghanol Trefynwy yn Sgwâr Agincourt i gofio cysylltiadau hanesyddol y dref â’r frwydr.

I nodi’r 600 mlwyddiant, bydd Agincourt 600 yn cynnig taith gerdded am ddim o amgylch Trefynwy, lle bydd arbenigwyr lleol yn adrodd hanes Agincourt a Harri V mewn perthynas â lleoliadau nodedig yn y dref.

Llys a Chastell Tre-tŵr
Llys a Chastell Tre-tŵr yw un o’r safleoedd sydd â’r cysylltiad cryfaf ag Agincourt. Mae’n debyg mai dyma fan ymgynnull y milwyr lleol a ymatebodd i alwad Harri i’r frwydr yn 1415. Yn ogystal â hynny, yn hwyrach yn y bymthegfed ganrif, dyma lle’r oedd cartref y teulu Vaughan, disgynyddion Syr Roger Vaughan y dywedir iddo frwydro yn Agincourt gyda'i dad yng nghyfraith, Syr Dafydd Gam.

Yn anffodus, bu farw’r ddau yn y frwydr. Fodd bynnag, yn ôl y chwedloniaeth, bu iddynt achub bywyd Harri V yn ystod y frwydr drwy ei amddiffyn rhag marchogion Ffrengig pan ddisgynnodd oddi ar ei geffyl. Yn ôl traddodiad diweddarach, cawsant eu hurddo’n farchogion am amddiffyn y brenin tra oeddynt yn marw ar faes y gad.  

Ar 27 a 28 Mehefin, bydd Tre-tŵr yn ail-greu golygfa'r milwyr o Gymru yn ymgynnull yn ystod deuddydd i goffáu Agincourt . Bydd cyfle i ymwelwyr brofi pŵer bwa hir wrth i'r milwyr ifanc dewraf a disgleiriaf ymgynnull i gystadlu mewn twrnamaint saethyddiaeth fodern, a gynhelir i goffáu’r saethwyr Cymreig a gyfrannodd at fuddugoliaeth Agincourt.

Caiff ymwelwyr wylio saethwyr gorau'r wlad yn cystadlu i sicrhau eu lle yn y frwydr. Yn y cyfamser, bydd preswylwyr yn y tŷ sy’n dyddio’n ôl i’r 15fed ganrif yn Llys Tre-tŵr yn gweini cigoedd a chwrw gorau’r cyfnod i ymwelwyr llwglyd.  

Castell Rhaglan
Yn 1415, roedd Castell Rhaglan yn gartref i Syr William ap Thomas, Cymro arall a fu’n brwydro â Harri yn Agincourt.

Fe'i gelwir yn 'Farchog Glas Gwent' oherwydd lliw ei arfwisg. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am ddechrau'r rhaglen enfawr o waith adeiladu a drawsnewidiodd Rhaglan o faenordy syml i'r castell mawreddog a welwn heddiw.

Y Fenni
Mae cysylltiadau Syr William ap Thomas ag Agincourt yn ymestyn ymhellach fyth; priododd â Gwladys,  merch Dafydd Gam a gweddw Syr Roger Vaughan, y bu farw’r ddau yn Agincourt yn ôl y sôn. Gelwid Gwladys yn ‘Seren y Fenni’ oherwydd ei bod mor hardd ac fe'i claddwyd gyda William ym Mhriordy'r Santes Fair yn y Fenni, lle mae modd gweld eu bedd trawiadol o hyd.

Trecastell
Trecastell ger Aberhonddu oedd cartref Watkin Lloyd, capten llu o saethwyr Cymreig Brycheiniog. Bydd arddangosfa Agincourt 600 yn mynd i Drecastell fis Awst, ac yn dilyn y daith a wnaeth  y saethwyr ar eu ffordd i Agincourt.

Yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn, bydd Sioe Trecastell yn cynnwys cystadleuaeth saethyddiaeth i nodi dyddiad y frwydr – bydd pwy bynnag sy’n gwneud y bwa hir sy'n saethu bellaf yn cael ei goroni’n enillydd y digwyddiad unigryw hwn.  

Aberhonddu
Roedd llawer o’r saethwyr o Gymru a fu’n brwydro yn Agincourt yn dod o ardal Aberhonddu yn wreiddiol, ac mae modd gweld olion eu hetifeddiaeth yn y dref heddiw. Mae ffenestr liw Eglwys Gadeiriol Aberhonddu yn coffáu Roger Vaughan, ac mae modd gweld bedd y teulu Gam yn yr eglwys gadeiriol. Hefyd, os ydych chi’n ymweld â’r ganolfan dreftadaeth, gallwch weld rhestr o enwau’r holl saethwyr a fu'n rhan o’r frwydr.

I nodi'r 600 mlwyddiant ym mis Hydref, bydd Coleg yr Iesu, Aberhonddu yn cofio’r frwydr drwy farddoniaeth, cerddoriaeth, straeon, golygfeydd theatr ac areithiau, yn cynnwys araith enwog ‘St. Crispin’s Day' gan Shakespeare.  

Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae buddugoliaeth Agincourt yn un o’r prif ddigwyddiadau mewn hanes, ac mae rôl Cymru yn y fuddugoliaeth hanesyddol yn cael ei dathlu wrth nodi'r 600 mlwyddiant.

“Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau wedi’u trefnu i adrodd stori'r Cymry yn Agincourt mewn ffordd fywiog a hygyrch, ac mae Agincourt 600 Cymru a Cadw yn rhoi cyfle i bobl ymgysylltu â rôl Cymru yn y digwyddiad hanesyddol hwn ac i gael gwybod mwy am hynny.  

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â chyfraniad Cymru yn Agincourt, ac i weld y rhestr lawn o ddigwyddiadau Agincourt 600 Cymru, ewch i wefan Agincourt600.