Ffilm Cadw yn dathlu ffocws ar y Celfyddydau a Threftadaeth

Dydd Gwener 19 Hydref 2012

Ffilm Cadw yn dathlu ffocws ar y Celfyddydau a Threftadaeth

Ffilm Cadw yn dathlu ffocws ar y Celfyddydau a Threftadaeth

I ddathlu lansio ei Fframwaith Celfyddydau a Threftadaeth, mae Cadw wedi cynhyrchu ffilm fer o uchafbwyntiau Crochan a Ffwrnais, un o'r prosiectau mwyaf arbrofol ac arloesol sydd wedi'i gyflawni gan wasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.

Y mis diwethaf, lansiodd Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Fframwaith Celfyddydau a Threftadaeth, sef ymagwedd arloesol sy'n anelu at ddefnyddio sgiliau yn y celfyddydau a chrefftau i agor llawer o'r nodweddion cynhenid a'r storïau yn henebion Cymru, dod â nhw'n fyw a helpu pobl i ailgysylltu â nhw.  

Drwy'r Fframwaith Celfyddydau a Threftadaeth, mae Cadw yn meithrin partneriaethau â mudiadau yn y celfyddydau ac yn cynnal gweithgareddau a digwyddiadau o safon yn y celfyddydau. Y nod yw nid yn unig gwella dehongliad y cyhoedd o safleoedd Cadw a'u storïau, ond hefyd cyfrannu at ddiogelwch a datblygiad treftadaeth Cymru a datblygu sgiliau a chyflogaeth i'r gymuned ehangach.

2012 oedd penllanw prosiect cyntaf Cadw o'r math yma.  Drwy weithio mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, Grym y Fflam a Legacy Trust UK, roedd prosiect Crochan a Ffwrnais yn cynnwys nifer o ddathliadau amlwg yng nghestyll, palasau a safleoedd diwydiannol Cymru. Cysylltodd y prosiect sector y celfyddydau a'r sector treftadaeth i helpu i ddod â safleoedd Cadw yn fyw a'u gwneud yn berthnasol i bobl heddiw, a hynny fel rhan o ddathliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Olympiad Diwylliannol.

Gallwch weld y ffilm am Crochan a Ffwrnais trwy glicio yma. Mae'n amlygu ysbrydoliaeth a dychymyg pobl ifanc Cymru, a lwyddodd drwy gelf a cherdd i ddod ag wyth o safleoedd eiconig Cadw yn fyw ym misoedd yr haf. Mae'r ffilm hefyd yn dangos rhai o'r gweithgareddau trawiadol a gafwyd wrth greu gwaddol o syniadau'r bobl ifanc a'u dealltwriaeth o dreftadaeth gyfoethog y wlad.  

Mae Crochan a Ffwrnais yn enghraifft o sut mae Cadw yn gobeithio gweithio gyda chymuned y celfyddydau yn y dyfodol, gan adrodd storïau eithriadol mewn mannau eithriadol.  Roedd y prosiect yn cynnwys mwy na 26,000 o bobl ifanc, 184 o artistiaid a 200 o wirfoddolwyr a fu'n rhannu hanes lliwgar eu gwlad o'r dechreuadau chwedlonol i'r cyfnod modern, a thros 12,000 o ymwelwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig a'r byd.  

Mae'r ffilm yn cael ei lansio cyn i Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol newydd gael ei chyhoeddi gan Huw Lewis ddydd Mawrth 23 Hydref, i amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru yngl?n ag amgylchedd hanesyddol sydd wedi'i ddiogelu'n dda ac sydd ar gael i bawb.

Mae'r Fframwaith Celfyddydau a Threftadaeth, ac yn enwedig prosiect Crochan a Ffwrnais, yn enghraifft o sut y caiff y Strategaeth ei chyflawni, gan greu mwynhad, brwdfrydedd a balchder yn eu treftadaeth ymhlith pobl ifanc mewn cymunedau lleol.

Mae safleoedd a phrofiadau treftadaeth yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r £4.2 biliwn o wariant gan dwristiaid yng Nghymru bob blwyddyn, ac atyniadau naturiol, cestyll a safleoedd hanesyddol yw'r prif atyniadau y bydd 72% o ymwelwyr sy'n aros yng Nghymru'n ymweld â nhw, gan roi cyflogaeth i filoedd ledled Cymru yn uniongyrchol drwy'r sector treftadaeth ac yn anuniongyrchol drwy'r diwydiant twristiaeth.

Dywedodd y Gweinidog: 'Roedd y prosiect yn fenter uchelgeisiol i Cadw, gan ganiatáu i'r sector treftadaeth ffurfio cysylltiadau newydd ag artistiaid yng Nghymru, yn ogystal â galluogi cymunedau ledled Cymru i ailgysylltu â safleoedd Cadw a'u gwneud yn fwy perthnasol i bobl heddiw.

Nod Strategaeth yr Amgylchedd Hanesyddol yw agor cyfleoedd i bobl ledled Cymru ddeall a mwynhau eu treftadaeth a datblygu eu hunaniaeth a'u balchder, a bydd prosiectau fel Crochan a Ffwrnais yn helpu i wireddu hynny.'

Ychwanegodd Marilyn Lewis, Cyfarwyddwr Cadw: 'Crochan a Ffwrnais, ynghyd â mentrau eraill yn y celfyddydau a threftadaeth, yw dechrau ein hymroddiad i gydweithio â'r celfyddydau i gynyddu gwerthfawrogiad, dealltwriaeth a bywiogrwydd y safleoedd sydd dan ein gofal, yn ogystal â chreu cyfleoedd i bobl Cymru o ran datblygu cyfleoedd ar gyfer gwell sgiliau a gwell rhagolygon swyddi.'