Safleoedd Cadw yn dathlu Gŵyl Ymylon Llangollen

Dydd Gwener 26 Gorffennaf 2013

Mae Cadw, sef gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn rhedeg cyfres o weithdai a digwyddiadau ar ei safleoedd yn Nyffryn Dyfrdwy fel rhan o Ŵyl Ymylon Llangollen eleni rhwng 18 a 28 Gorffennaf. O weithdai addysg a chwedleua digidol, i gerddoriaeth ganoloesol a cherfluniau gogleisiol, bydd y gweithgareddau’n cynnig rhywbeth at ddant pawb.

Abaty Glyn Groes

Abaty Glyn Groes

Mae Dyffryn Dyfrdwy, sy’n gorwedd ym mryniau Clwyd ac o fewn Ardal Harddwch Naturiol Dyffryn Dyfrdwy, yn gartref i lawer o safleoedd archaeolegol gan gynnwys yr abaty godidog yng Nglyn-y-groes, a bydd yn fwrlwm o ddiwylliant yn ystod Gŵyl Ymylon Llangollen.

Ffilm ddigidol
Yn y cyfnod cyn yr Ŵyl, mae disgyblion o Ysgol Bryn Collen wedi bod yn gweithio gyda’r cwmni arobryn Big Heritage i ddehongli Abaty Glyn-y-groes a’i amgylchedd, gan gynnwys Colofn Eliseg. Mae’r disgyblion wedi creu ffilm ddigidol sy’n dehongli’r dyffryn o Oes yr Iâ tan y presennol, a chaiff y ffilm ei dangos mewn rhagolwg arbennig i’r cyhoedd yng Nglyn-y-groes ddydd Sul 28 Gorffennaf am 4.00pm.

Cerddoriaeth ganoloesol
Hefyd fel rhan o Ŵyl yr Ymylon, gall yr ymwelwyr ymuno â’r cyfarwydd a’r cerddor lleol Ruth Moore Williams ar gyfer cerddoriaeth ganoloesol, chwedlau gwerin a storïau am yr abaty a hynny yng nghyffiniau’r adfeilion. Mae’r digwyddiad, o dan y teitl ‘Lledrith, myth a miwsig Abaty Glyn-y-groes a Dyffryn Dyfrdwy’ yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 27 Gorffennaf am 11.00am, 1.30pm a 2.30pm.

Artist preswyl Cadw
Hefyd, tan 15 Awst bydd Glyn-y-groes yn dal i weithredu fel oriel awyr agored i artist preswyl Cadw. Cafodd yr artist Lucy Harvey ei phenodi’n artist preswyl yn yr heneb odidog ym mis Mawrth 2013, ac ers hynny mae wedi bod yn cael ei hysbrydoli gan hanes cudd Abaty Glyn-y-groes i greu gweithiau celf manwl iawn drwy ddefnyddio pethau y mae wedi dod o hyd iddyn nhw a defnyddiau mor amrywiol â chwyr, metel, cerrig a sidan. 

Gwahoddir yr ymwelwyr i stiwdio Lucy yn yr Hafoty i’w gweld wrth ei gwaith bod dydd Iau rhwng nawr a 15 Awst, pan ddaw cyfnod ei phreswyliad i ben, ac fel rhan o Ŵyl yr Ymylon nos Iau 25 Gorffennaf am 6.00pm bydd Lucy yn cynnal taith gerdded anffurfiol i drafod ei gwaith yn ystod Noson Agored Artist Preswyl. Bydd yr Arddangosfa Gau a’r Stiwdio Agored yng Nglyn-y-groes ddydd Sadwrn 10 Awst rhwng 10.00am a 5.00pm yn gyfle i ymwelwyr weld diweddglo gwaith Lucy.

Abaty Glyn y Groes/Colofn Eliseg
Cafodd Colofn Eliseg ei chloddio’n ddiweddar gan Brifysgolion Bangor a Chaer a’r gymuned leol a gwelwyd bod y twmpath y mae’n sefyll arno yn dwmpath claddu sy’n dyddio yn ôl dros 4,000 o flynyddoedd i’r Oes Efydd. Mae’r golofn ei hun yn rhan o garreg ac arni arysgrif o’r nawfed ganrif a godwyd gan Cyngen, tywysog Powys, er cof am eu hen daid, Eliseg. Mae Abaty Glyn-y-groes wedi’i enwi ar ôl yr heneb. Cafodd yr abaty ei godi ym 1201, ac ym 1535 dyma oedd yr ail fwyaf cyfoethog o abatai’r Sistersiaid, ar ôl Abaty Tyndyrn yn Sir Fynwy. Heddiw, ganrifoedd wedyn, dyma un o’r abatai gorau sydd wedi goroesi yng Nghymru.
Gwybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau, ewch i www.cadw.cymru.gov.uk/events, chwiliwch am Cadw ar Facebook neu dilynwch @CadwCymru ar Twitter