Cadw yn dathlu 15 mlynedd o wirfoddoli ym Mhlas Mawr

Dydd Llun 03 Mehefin 2013

Fel rhan o Wythnos y Gwirfoddolwyr (1-7 Mehefin), mae Cadw yn dathlu 15 mlynedd o wirfoddoli ym Mhlas Mawr, sef tŷ trefol o gyfnod y frenhines Elizabeth yng Nghonwy.

Cadw yn dathlu 15 mlynedd o wirfoddoli ym Mhlas Mawr

Cadw yn dathlu 15 mlynedd o wirfoddoli ym Mhlas Mawr

Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ŵyl flynyddol bob blwyddyn i ddathlu gwirfoddolwyr a gwirfoddoli ledled y Deyrnas Unedig.  Eleni mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn canolbwyntio ar ddweud ‘Diolch’ i’r miliynau i wirfoddolwyr sy’n cyfrannu’n rheolaidd at y gymdeithas, a chydnabod y modd y mae mudiadau’n dathlu gwaith gwirfoddolwyr ledled y Deyrnas Unedig.

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru ac mae’n gofalu am 128 o safleoedd treftadaeth ledled Cymru.  Mae stiwardiaid gwirfoddol Plas Mawr yn chwarae rhan aruthrol i helpu i gynnal a rhedeg y tŷ trefol gorau o’i gyfnod ym Mhrydain. Mae rhai wedi ymddeol, mae gan rai ddiddordeb dwfn mewn hanes, mae rhai yn newydd i’w ardal ac yn chwilio am ddiddordebau a ffrindiau newydd.

Cafwyd erthygl am y gwirfoddolwyr yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn aelodau Cadw Etifeddiaeth y Cymry i dynnu sylw at eu gwaith amhrisiadwy nhw.
Rachel Skelly oedd prif geidwad Plas Mawr am bedair blynedd. Dywedodd: 'Y gwirfoddolwyr sy’n dod â’r tŷ’n fyw. Stiwardio yn yr ystafelloedd yw’r dasg fwyaf amlwg ond mae’r 45 o stiwardiaid gwirfoddol ym Mhlas Mawr yn gwneud llawer mwy na hynny, o lanhau’r tŷ ar ddiwedd a dechrau pob tymor i bobi bara ceirch ar gyfer arddangosfa’r gegin a hyd yn oed pwytho darnau newydd ar gyfer y brodwaith sy’n hongian yn y parlwr. 

'Gyda 17 o ystafelloedd newydd, fe fyddai’n anodd iawn ac yn ddrud iawn rheoli’r tŷ hebddyn nhw. Ond mae Plas Mawr y math o le sy’n treiddio o dan eich croen chi ac maen nhw’n dod yn rhan o bob math o waith. Hyd yn oed wrth stiwardio, mae’r gwirfoddolwyr yn mynd y tu hwnt i’r hyn sydd rhaid - ar ddyddiau tawel, fe fyddan nhw’n rhoi taith dywys bersonol i ymwelwyr. Mae rhai wedi dilyn cyrsiau am gefndir hanesyddol y tŷ a’i gyfnod; mae’r wybodaeth honno’n cael ei throsglwyddo wedyn i’r ymwelwyr

'Drwyddi draw, y stiwardiaid gwirfoddol sy’n gwneud yn siŵr fod ymweliad â Phlas Mawr yn brofiad gwerth chweil.'

Roedd un gwirfoddolwr, Ann Peacock, yn y tresi y diwrnod yr agorodd Plas Mawr o dan adain Cadw, wedi i’r plasty Elisabethaidd gwych gael ei adfer a’i addurno a’i ddodrefnu fel y byddai wedi bod yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg, bron ganrif ers iddo gael ei adeiladu ar gyfer y marsiandwr lleol pwysig, Robert Wynn.  

Dywedodd Ann: 'Fe symudais i’r ardal yn 1997 ac roedd yna hysbyseb yn y papur ynghylch gwirfoddoli. Rhywbeth i’w wneud oedd e ar y dechrau ond erbyn hyn dw i’n feddiannol iawn o’r tŷ ac yn amddiffynnol iawn ohono. 

'Ar y diwrnod cyntaf hwnnw, fel y gwnes i laweroedd o weithiau ers hynny, fe godes i fy ffeiliau gwybodaeth a chymryd fy lle yn un o’r ystafelloedd, yn barod i helpu ymwelwyr gyda’r ffeithiau a’r pethau bach difyr yna nad ydyn nhw i’w cael bob tro mewn llyfrau tywys neu deithiau clyw.'

Cafodd Llew Groom ei eni a’i fagu yn ardal y Gyffin yng Nghonwy. Ac yntau’n 85 oed, mae Llew ymysg y gwirfoddolwyr hynaf a mwyaf profiadol. Roedd yn tywys grwpiau hyd yn oed cyn i Cadw ysgwyddo gofal y tŷ. Dywedodd: 'Roedd y gwaith adfer ym 1997 yn agoriad llygad. Dwi wedi bod yn dod i’r tŷ ers pan o’n i’n fachgen ysgol, a dwi’n cofio’r plastr cyn i Cadw ddod, amryw o fathau o liw gwyn a hanner modfedd o faw drosto i gyd. Mi gawson ni ein hanfon yma i lanhau’r coblau. Mi chwyddodd fy mhen-glin gymaint oherwydd y gwaith nes bod fy nhad wedi dod i mewn a dweud nad o’n i’n dod eto!

'Ond wnaeth hynny ddim lladd fy niddordeb i ym Mhlas Mawr a’m tref enedigol. Mae’r tŷ yma’n rhan o dreftadaeth Conwy. Mae pob rhan ohono’n ennyn fy chwilfrydedd i.' 

Ond mae gwirfoddoli yn golygu mwy na’r hyn y mae’r gwirfoddolwyr yn ei roi i Cadw a’r ymwelwyr, gan gynnwys yr hyn y maen nhw’n ei gael ohono yn bersonol hefyd.  Dywedodd Hilary Sukhon, un arall o wirfoddolwyr Plas Mawr, a wnaeth radd ar hanes cymdeithasol y Tuduriaid a’r Stiwartiaid cyn dechrau: 'Dw i’n caru’r lle. Alla’ i ddim egluro pam. Mae’n eich cofleidio chi. Mae’n dŷ hapus iawn.

'Y gegin yw fy hoff ran i. Mae’n braf gallu dangos pethau yr oedden nhw’n eu defnyddio yng nghyfnod y Tuduriaid sy’n dal i gael eu defnyddio heddiw ond sy’n edrych yn wahanol — y malwr halen, yr arf tynnu calon afal, mygiau a chwpanau a’r holl sbeisiau a pherlysiau.'

I gael rhagor o wybodaeth am Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, chwiliwch am Cadw ar Facebook a dilynwch @CadwCymru ar Twitter.