Diwrnod o ddathliadau ar gyfer treftadaeth ddiwydiannol Cymru

Dydd Llun 23 Medi 2013

Roedd dydd Llun 23 Medi yn ddiwrnod mawr i dreftadaeth ddiwydiannol Cymru, gyda Gwaith Haearn Blaenafon yn lansio’i gyfleusterau dehongli newydd a’r Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru’n dathlu’i ben-blwydd yn 30 oed.

John Griffiths, Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

John Griffiths, Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Fel rhan o’r dathliadau, fe aeth y Gweinidog dros Ddiwylliant a Chwaraeon, John Griffiths, i  ymweld â’r ddau safle i weld sut maen nhw wedi datblygu fel atyniadau twristiaeth, gan wneud treftadaeth ddiwydiannol Cymru’n fwy hygyrch a phleserus i bobl leol ac ymwelwyr.

Mae’r dirwedd ddiwydiannol ym Mlaenafon yn cynrychioli pennod yn hanes Cymru a newidiodd y byd, ac o ganlyniad, dyfarnwyd statws Treftadaeth y Byd iddi. Roedd y Gwaith Haearn yn garreg filltir yn hanes y Chwyldro Diwydiannol ac yr oedd ar yr adeg honno ar flaen y gad gyda thechnoleg newydd.  Roedd pŵer stêm wedi cael ei harnesu a datblygwyd ffordd o wneud dur drwy ddefnyddio mwyn haearn, a arweiniodd at ffyniant byd-eang yn y diwydiant, gan symud grym diwydiannol Cymru i uchafbwynt newydd.

Mae Gwaith Haearn Blaenafon, sy’n ngofal Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, wedi cael ei adfer yn ddiweddar drwy ddehongli dyfeisgar.  Mae’r dehongli yn ailgipio awyrgylch gwreiddiol y Gwaith; creu teimlad o safle gweithredol a dod â’r Gwaith yn fyw i ymwelwyr, gan ailgreu synnwyr o sut yr oedden nhw’n cyfrannu at y rhai hynny a oedd yn byw ac yn gweithio’n yr ardal.

Wrth gyrraedd, bydd ymwelwyr yn gweld model newydd mewn haearn bwrw o’r Gwaith Haearn sy’n rhoi golwg o’r awyr. Mae yna silwetau mewn haearn bwrw o bobl o gwmpas y safle, yn cyflawni gweithgareddau sy’n portreadu’r gwahanol gymeriadau a’r swyddogaethau yr oedden nhw’n eu gwneud yn y Gwaith, yn ogystal â darllenfeydd haearn sy’n darparu gwybodaeth i ymwelwyr i’w darllen. Gall y rhai hynny sydd â diddordeb gael syniad o beth oedd yr amodau byw i bobl a oedd yn gweithio yn y Gwaith Haearn ymweld â bythynnod enwog Sgwâr Stack, sydd wedi cael eu hadnewyddu i ddangos sut yr oedd pobl yn byw yn ystod y 1920au–1960au.

Dywedodd Prudence Williams, Prif  Geidwad Gwaith Haearn Blaenafon: 'Efallai mai un o’r profiadau mwyaf cyffrous fydd pan mae ymwelwyr yn camu i mewn i’r tŷ bwrw.  Bydd clicied is-goch yn cychwyn ail-greu’r broses o wneud haearn.  Drwy ddefnyddio sain a lliw, gall ymwelwyr weld haearn tawdd poeth yn dod o’r ffwrnais i’r gwelyau haearn crai lle mae’n oeri.'

 Prudence ymlaen: 'Bydd y dehongliad newydd yn dod â’r gwaith haearn trawiadol hwn yn fyw i ymwelwyr, gan ddangos beth a ddigwyddodd yma yn ystod ei anterth a rhoi profiad cyflawn a gwybodus i ymwelwyr fel y gallan nhw wir ddeall yr effaith a gafodd y safle hwn ar hanes Cymru a gweddill y byd.'

Yn dilyn ei ymweliad â Gwaith Haearn Blaenafon, ymuodd y Gweinidog yn y dathliadau pen-blwydd 30 oed Amgueddfa’r Pwll Mawr sy’n annwyl gan lawer.

Ers agor yn Ebrill 1983, mae’r Pwll Mawr wedi croesawu dros 3.5 miliwn o ymwelwyr o bob rhan o’r byd.  Mae ymwelwyr yn cael eu tywys gan löwr 300 troedfedd o dan y ddaear er mwyn darganfod sut fath o fywyd oedd gan filoedd o ddynion a oedd yn gweithio ar y ffas lo, yn ogystal â phrofi taith amlgyfryngol o bwll glo modern gyda glöwr rhith yn y Lefelydd Cloddio, ac arddangosfeydd ym Maddonau Pen y Pwll ac adeiladau hanesyddol y pwll.

Dywedodd Peter Walker, Ceidwad a Rheolwr y Pwll Mawr, a ddechreuodd ei yrfa ym Mhwll Glo y Cwm ger Gartholwg: 'Dw i wedi gweld y Pwll Mawr yn datblygu o bwll glo i amgueddfa annibynnol ac yn awr yn Amgueddfa Genedlaethol o fewn safle Treftadaeth y Byd.

'Y ffordd orau y gallaf ddisgrifio’r Amgueddfa, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed eleni, yw drwy eiriau un o’n ymwelwyr a ddywedodd: "Nid yw’r Pwll Mawr yn amgueddfa am ddiwydiant, nid yw hyd yn oed yn amgueddfa am gloddio, amgueddfa ydyw am bobl."  A hir boed iddo barhau!'

Dywedodd John Griffiths: 'Mae Cymru’n cael ei chysylltu’n aml gyda chestyll a henebion, ond mae’n bwysig cofio hefyd bod hanes diwydiannol, mwy diweddar wedi chwarae rhan flaenllaw yn ein treftadaeth.

'Yn nhermau treftadaeth ddiwydiannol, mae gan Cymru lawer i ddathlu, a gobeithiaf y bydd y ddau drysor hyn yn parhau i ddenu ymwelwyr a phobl leol er mwyn helpu i gynyddu’r ddealltwriaeth, yr ymwybyddiaeth a’r mwynhad o dreftadaeth arbennig Blaenafon.

'Ffordd ardderchog o adfywio ein cymunedau a darparu sgiliau i’n bobl ifanc yw ein treftadaeth ddiwydiannol.'

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru sy’n gweithio i sicrhau amgylchedd hanesyddol hygyrch a ddiogelir yn dda i Gymru. Mae ailddehongli Gwaith Haearn Blaenafon yn un o 24 o gynlluniau i elwa o Brosiect Twristiaeth Treftadaeth Cadw sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.