Ysgolion Môn yn dathlu eu treftadaeth forwrol drwy Longddrylliadau

Dydd Iau 29 Awst 2013

Mae tair o ysgolion Ynys Môn wedi bod yn astudio llongddrylliad lleol, y Royal Charter, mewn prosiect ar y cyd mewn partneriaeth rhwng Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Royal Charter

Royal Charter

Mae Cadw, sef gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn gweithio i sicrhau amgylchedd hanesyddol hygyrch a ddiogelir yn dda, ac mae’n gyfrifol am ystod o safleoedd gan gynnwys 129 o henebion. Mae Cadw’n helpu i ddiogelu cannoedd o safleoedd pwysig eraill ar y tir, a hefyd o dan y môr. Ar y cyd â’r Comisiwn, mae Cadw wedi dechrau ar brosiect i ddathlu a deall ein treftadaeth danddwr, gan annog pobl i ofalu amdani.

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gosododd y Royal Charter record y byd am hwylio yn ôl ac ymlaen i Awstralia mewn llai na 60 diwrnod, yn ystod y Rhuthr am Aur. Ar ôl aros am y tro olaf yn Iwerddon ar ei ffordd nôl i Lerpwl cafodd y llong ei dal yn Storm Fawr 1859, sydd hefyd yn cael ei nabod fel 'Storm y Royal Charter' a chafodd ei dryllio oddi ar arfordir Moelfre yng ngogledd Ynys Môn. Cafodd y cyfan bron o’r rhai oedd ar ei bwrdd ei boddi, gan gynnwys yr holl fenywod a phlant. Cafodd yr ychydig ddynion a lwyddodd i oroesi eu hachub gan forwr o ynys Melita, Joseph Rodgers, a fu’n ddigon dewr i glymu rhaff am ei ganol a neidio i’r dŵr i greu system o bwlïau o’r llong i’r creigiau, gyda chymorth pobl Moelfre.

Aeth disgyblion cynradd o Ysgol Moelfre ac Ysgol Llangaffo, a phant uwchradd o Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch i fynwent Llanallgo i weld cerrig bedd y rhai fu farw yn y Royal Charter, ac i Wylfan yr RNLI ym Moelfre i ddysgu am ddiogelwch ar y môr. Yn ystod yr ymweliad â Gwylfan yr RNLI cafodd y plant weld rhai o’r arteffactau o longddrylliad y Royal Charter, a lluniau a gwybodaeth am y trychineb. Aeth yr ysgolion hefyd i Oriel Ynys Môn i gymryd rhan yng ngweithdy’r amgueddfa ar y Royal Charter, gan ymchwilio i gwestiynau am yr arteffactau yn yr arddangosfa.

Daeth plymwyr proffesiynol sydd wedi plymio ar safle’r llongddrylliad i’r ysgolion lleol hefyd, gan gynnwys y plymiwr lleol Peter Day a’r awduron Chris a Lesley Holden, sydd wedi gwneud ymchwil ac wedi cyhoeddi llyfr am y llongddrylliad.

Dywedodd John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon: 'Dyma brosiect rhagorol sy’n cynnwys nifer o bartneriaid ac sy’n rhoi cipolwg i ddisgyblion Môn ar eu hanes lleol. Drwy gynnwys pobl ifanc leol yng ngwaith ymarferol y prosiect mae Cadw a’r Comisiwn Brenhinol nid yn unig wedi cwblhau gwaith ymchwil hanfodol ar y safle, ond hefyd wedi dod â hanes yn fyw i’r plant, fel y bydd y stori drist yn parhau ac yn cael ei hadrodd i’r cenedlaethau sydd i ddod.'

Ychwanegodd Erin Robinson, Rheolwr Dysgu Gydol Oes Cadw: ‘Mae’r ysgolion wedi gwneud peth wmbreth o waith heblaw’r ymchwil am y llongddrylliad, gan gynnwys dehongli’r stori’n greadigol drwy ddramâu, ffilmiau, gwaith ysgrifennu, darluniau a phosteri.

Roedd atgofion y disgyblion am y digwyddiadau’n eithriadol, ac mae trasiedi fawr y stori a effeithiodd ar yr ynys ym 1859 wedi cael ei gwerthfawrogi a’i chadw ar flaen eu meddyliau drwy’r prosiect i gyd.’

Mae llawer o waith ymchwil yr ysgolion wedi’i wneud drwy ddefnyddio gwefan Casgliad y Werin, sef amgueddfa ar-lein Cymru, lle gallwch weld gwybodaeth a lluniau o’r arteffactau addurnol hyfryd a’r pethau bob dydd sydd wedi’u darganfod yn y llongddrylliad.

Cafodd digwyddiad i nodi diwedd blwyddyn gyntaf y prosiect ei gynnal yng Ngwylfan yr RNLI ym Moelfre er mwyn dathlu gwaith gwych yr ysgolion dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae gwaith Ysgol Llangaffo yn cael ei arddangos i’r ymwelwyr ei weld yn yr Wylfan dros fisoedd yr haf.

Dywedodd Polly Groom, Arolygydd Rhanbarthol Cadw: 'Y Royal Charter oedd y ffocws i’r ysgolion yma, ond dim ond un yw hwn o blith cannoedd o longddrylliadau hynod o ddiddorol yn nyfroedd Cymru.

Mae safleoedd llongddrylliadau’n rhan bwysig o dreftadaeth Cymru ac mae Cadw yn annog plymwyr yn gryf i gadw at reol syml, sef "edrych heb gyffwrdd" a hynny am fod rhaid rhoi gwybod am unrhyw wrthrych sy’n cael ei godi i’r Derbynnydd Drylliadau ac mae’n bosibl bod angen trwydded er mwyn gwneud unrhyw waith. Drwy brosiectau fel yr un yma, y gobaith yw ysbrydoli pobl i ddysgu am ein treftadaeth danddwr, ei gwerthfawrogi, a’i thrin a pharch.'