Cymunedau’n tyllu’n ddwfn i ddatguddio rhyfeddodau’r Fro

Dydd Llun 10 Hydref 2011

Siambr Gladdu Llwyneliddon

Siambr Gladdu Llwyneliddon

Mae safleoedd Neolithig Tinkinswood a Llwyneliddon ym Mro Morgannwg yn dirnodau hynaws llawn ddirgel. Mae prosiect arloesol Archaeoleg Gymunedol a ariannir gan Cadw, mewn partneriaeth ag Archaeoleg Cymru, yn gobeithio taro golau newydd ar y safleoedd eiconig yma.

Y gymuned fydd calon y prosiect, sy’n cynnwys cloddiadau gwyddonol o amgylch Tinkinswood ac am y tro cyntaf erioed yn Llwyneliddon. Bydd grŵp lleol sy’n cael eu harwain gan BTCV Cymru yn cymryd rhan weithredol mewn clirio’r llystyfiant, i’w dilyn gan dîm o wirfoddolwyr cymunedol fydd yn helpu gyda’r cloddiadau, mewn ymdrech i ehangu dealltwriaeth a’r dehongliad o’r henebion hyn, ac ennyn brwdfrydedd cenhedlaeth ifanc mewn archaeoleg.

Cynhaliwyd y cloddiadau gwreiddiol yn adfeilion trawiadol siambr gladdu Neolithig Tinkinswood ym 1914, dan arweiniad John Ward, oedd yn Geidwad Archaeoleg yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar y pryd. Darganfuwyd gweddillion 50 o bobl yn y siambr yn wreiddiol: dynion, merched a phlant. Mae’r cofadail yn ymochrol ar ei hyd tuag at wawr yr haul tua’r dwyrain ac mae cromlin y blaengwrt yn awgrymu ei fod wedi ei adeiladu i ddal pelydrau haul y bore. Mae darnau mawr gerrig i’w gweld wrth nesáu at Tinkinswood mewn ardal sy’n cael ei adnabod fel ‘Y Chwarel’ - o bosib ffynhonnell y maen gapan a ddefnyddir yn Tinkinswood - y fwyaf yng Nghymru ac yn 40 tunnell. Bydd y prosiect hwn yn ail-ymweld â’r ymchwiliadau hynny ac archwilio nodweddion agos iawn eraill – gan gloddio dwy siambr gladdu bosib sydd wedi disgyn a safle’r chwarel yn y cae cyfagos.

Mae Siambr Gladdu Llwyneliddon, fel Tinkinswood, yn cael ei adnabod fel beddrod arddull Cotswold-Hafren. Mae’n dyddio’n ôl 6000 o flynyddoedd i gyfnod pan gafodd ffermio ei gyflwyno a phan ddysgodd pobl sut i dyfu a chynhyrchu, yn hytrach na hela a chasglu eu bwyd. Mae’r cyfnod hwn yn cael ei adnabod fel un o’r newidiadau mwyaf yn hanes bodau dynol. Ond, o bosib yn fwy arwyddocaol, fe ddechreuodd y cymunedau yma adeiladu beddrodau fel yr un yn Llwyneliddon. Mae’r siambr bellach yn cynnwys tair carreg unionsyth gyda maen capan sy’n pwyso hyd at 35 tunnell. Mae sut gafodd y maen gapan ei godi, pa mor hir y’i defnyddiwyd a phwy gafodd eu claddu yma yn parhau i fod yn gwestiynau heb ateb gan nad yw’r safle wedi ei gloddio. Bydd cloddio Llwyneliddon yn dechrau ateb y cwestiynau yma, gan ddarparu tystiolaeth ddyddio angenrheidiol, a chyfle i archeolegwyr archwilio i’r ffordd oedd siambrau claddu Neolithig yn cael eu hadeiladu.

Hefyd, mae’n debyg i bobl yn y cyfnod Neolithig roi eu heiddo mwyaf gwerthfawr i ffwrdd, neu hyd yn oed eu torri ar bwrpas. Mae prosiect estyn allan o’r enw Make and Break yn cynnig creu digwyddiad addysgol ym mis Mawrth 2012 lle bydd dwy ysgol yn creu - ac yna’n malu - eu harteffactau cyn-hanesyddol eu hunain, gan ail-greu seremoni ddefod Neolithig yn Tinkinswood ei hun.

Ynghyd ag Archaeoleg Cymru, mae partneriaid eraill yn y prosiect, sy’n cael ei gynnal drwy gydol mis Hydref a Thachwedd, yn cynnwys Cyngor Archaeoleg Prydain, Cerddora, Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd, ac Amgueddfa Cymru.

Mae’r cloddiadau ar agor i’r cyhoedd am deithiau o gwmpas y safle bob penwythnos drwy gydol Hydref, Tachwedd a Rhagfyr.  Ceir manylion ychwanegol yma.   

Os oes angen fwy o fanylion cysylltwch â Kaye Moxon, Cadw ar 01443 336072.