Cloddio’n ddwfn i orffennol Cymru yn yr Ŵyl Archaeoleg

Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2013

Beth am gloddio’n ddwfn a datgelu straeon am orffennol Cymru yr haf hwn yn yr Ŵyl Archaeoleg, sy’n mynd rhagddi rhwng 13 a 28 Gorffennaf 2013.

Cloddio’n ddwfn i orffennol Cymru yn yr Ŵyl Archaeoleg

Cloddio’n ddwfn i orffennol Cymru yn yr Ŵyl Archaeoleg

Mae Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, ynghyd â’i sefydliadau partner, yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau arbennig ledled Cymru a fydd yn para pythefnos, fel rhan o’r Ŵyl Archaeoleg, yn amrywio o arddangosfeydd milwrol, diwrnodau agored cloddfeydd, celf a chrefft treftadaeth, teithiau Oes Fictoria a diwrnodau dirgelwch canoloesol.

Caiff yr Ŵyl, sydd wedi bod yn mynd rhagddi ers 23 o flynyddoedd bellach, ei chydlynu gan y Cyngor Archaeoleg Brydeinig, ac mae’n gyfle gwych i ystod eang o ymwelwyr, o ddechreuwyr i archaeolegwyr brwd, ganfod yr archaeolegydd sydd ym mhob un ohonom, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n gyfrifol am rai o’r safleoedd archaeolegol mwyaf rhyfeddol yng Nghymru.

Aeth John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, ati i esbonio pam mae archaeoleg yn rhan mor bwysig o hanes cyfoethog Cymru: 'Archaeoleg yw un o’r rhesymau pam mae pobl yn ymweld â Chymru nid dim ond unwaith, ond dro ar ôl tro.  Bydd pobl yn aml yn meddwl am archaeoleg fel rhywbeth hen sy’n ymwneud ag un cyfnod – castell canoloesol neu siambr gladdu hynafol.  Ond does dim rhaid i archaeoleg fod yn hynafol.  Mae sawl stori i’w datgelu ar safleoedd Cadw, ac mae rhai ohonynt yn fwy diweddar nag y byddem yn ei ddisgwyl.  Er enghraifft, mae’r ffaith bod Llys Esgob Llandýfai, er gwaethaf y ffaith ei fod yn adeilad canoloesol ysblennydd ar yr wyneb, yn arfer bod yn safle ar gyfer byddin yr Americanwyr cyn Glaniad Normandi yn yr Ail Ryfel Byd, yn fy nghyfareddu.

Mae’r Ŵyl Archaeoleg ledled y DU gyfan yn arddangos rhai o safleoedd archaeolegol gorau Prydain, ac mae Cadw wrth ei bodd ei bod unwaith eto yn cymryd rhan yn yr ŵyl bythefnos o hyd gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau ymarferol i’r teulu cyfan ac mae’n annog mwy o bobl i gymryd rhan yn eu treftadaeth leol.'

Mae’r Ŵyl yn lansio gyda Goresgyniad y Rhufeiniaid yng Nghaer Rufeinig Segontium yng Nghaernarfon ar ddydd Sadwrn 13 a dydd Sul 14 Gorffennaf.  Segontium oedd canolfan filwrol a gweinyddol Gogledd Cymru drwy gydol goresgyniad y Rhufeiniaid. Roedd yn rheoli mynediad at diroedd ffrwythlon cyfoethog Ynys Môn ac roedd yn rhan o gyfres o gaerau wedi’u cysylltu gan rwydwaith ffyrdd strategol a’u cefnogi gan safle llengol yng Nghaer.  Mae’n unigryw yng Nghymru ac oherwydd ei lleoliad strategol pwysig iawn, fe’i goresgynnwyd am dros 300 o flynyddoedd. Roedd y gaer yn gartref i gatrawd o hyd at 1000 o droedfilwyr cynorthwyol ond roedd anheddiad sifil yn amgylchynu’r gaer hefyd. Mae Gŵyl Goresgyniad y Rhufeiniaid, a ariennir drwy Gronfa Twristiaeth Treftadaeth Cadw, a gaiff ei chyllido gan arian Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru, wedi dychwelyd, yn fwy ac yn well nag erioed.  Croesewir ymwelwyr i benwythnos llawn hwyl i’r teulu cyfan gyda digwyddiadau lle daw hanes yn fyw yn cynnwys arddangosfeydd milwrol, gweithgareddau ymarferol, teithiau tywys, brwydrau byw ac arogleuon coginio Rhufeinig go iawn.

I’r rheini sy’n teimlo’n weithgar, mae’r Ŵyl Archaeoleg hefyd yn cynnig teithiau cerdded tywys a’r cyfle i anturio tirweddau hanesyddol, ymweld â chloddfeydd a phori drwy archifau. Gall yr ymwelwyr creadigol droi eu llaw at grefft hynafol gan ddehongli hanes drwy gelfyddyd mewn nifer o safleoedd Cadw ledled y wlad.

Bydd y rheini sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad ail-greu cloddfa Oes Fictoria yng Nghastell Coch ar 22, 23 a 24 Gorffennaf, yn synnu at y ffaith y byddant yn dadorchuddio ac yn cofnodi eitemau a arferai fod yn eiddo i ddeiliaid canoloesol y castell. Mae lefelau uchaf Castell Coch wedi’u hailadeiladu yn Oes Fictoria, tra bo’r lefelau is a’r sylfeini yn perthyn i’r Oesoedd Canol.    Cyn i’r gwaith ailadeiladu hwn fynd rhagddo, cynhaliwyd cyfres o gloddfeydd archaeolegol gan G. T. Clark, y cyhoeddwyd ei waith yn 1850. Gall ymwelwyr ddadorchuddio, gyda’u dwylo eu hunain, amrywiaeth o drysorau canoloesol, dysgu i gofnodi’r eitemau yn eu cyd-destun archaeolegol, ac ymarfer dulliau cloddio a ddefnyddir hyd heddiw.

Daw’r Ŵyl i ben ar ddydd Sadwrn 27 a dydd Sul 28 Gorffennaf yn Llys Esgob Llandyfái, a fydd yn cynnal digwyddiad y 40au a’r Lluoedd.  Mae Llys Esgob Llandyfái yn adnabyddus am ei gysylltiadau â Thŷ Ddewi ac arwyddocâd pensaernïol Llys yr Esgob. Fodd bynnag, bydd y digwyddiad hwn yn galluogi ymwelwyr i deithio’n ôl i gyfnod mwy diweddar mewn hanes.   Gwelwyd byddinoedd yn hyfforddi ar gyfer Glaniadau Normandi yn Ne Sir Benfro, ac yn Llandyfái ei hun. Drwy ddigwyddiad y 40au a’r Lluoedd, bydd Cadw, mewn partneriaeth â’r gymuned leol, yn adrodd y rhan fwy diweddar hon o stori'r safle mewn modd hwyl a rhyngweithiol.   Bydd ymwelwyr yn cael y cyfle i gwrdd â GIs a Merched Byddin y Tir, a bydd gweithgareddau ymarferol, trafodaethau ac arddangosfeydd sy’n addas i’r teulu cyfan.

Mae’r Ŵyl Archaeoleg yn swae flynyddol ledled y DU o ddigwyddiadau treftadaeth, sy’n arddangos y goreuon o archaeoleg Prydain.  Bydd Cadw yn cynnal digwyddiadau yn 12 o’i safleoedd eiconig, gan ddod ag archaeoleg hynafol a modern yn fyw a chynnig y cyfle i bobl leol ac ymwelwyr fynd i’r afael â’u hanes lleol.

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru sy’n gweithio i amgylchedd hanesyddol hygyrch sydd wedi’i warchod yn dda.

Edrychwch ymhellach ac fe welwch fod archaeoleg yn fwy na dim ond castell canoloesol, neu siambr gladdu o oes y cerrig. Mae rhai safleoedd archaeolegol yn llawer mwy modern nag y byddem yn ei ddisgwyl:

Caer Garn Fawr, o'r Oes Haearn ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Mae’r gaer ysblennydd hon, sy’n eiddo’n rhannol i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, tua 2500 mlwydd oed. Mae rhagfuriau o gerrig a phridd yn amgylchynu’r uchelfryn, gyda rhiciau bach y tu mewn iddynt lle yr arferai cytiau ac adeiladau sefyll.

Mae’r safle cynhanes oesol hwn yn sefyll uwchlaw’r môr, ond os edrychwch yn ofalus, fe welwch ar gopa Garn Fawr fod adeilad bach o goncrid gyda grisiau yn arwain ato – safle gwylio, yn dyddio’n ôl i’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r sied goncrid ar ben yr heneb yr un mor bwysig yn hanes Garn Fawr ag yw'r gwaith maen o'r Oes Haearn.

Mae Garn Fawr yn Heneb Restredig, sy’n golygu ei bod yn cael ei gwarchod yn gyfreithiol, ac mae hynny’n cwmpasu ei holion o'r Rhyfel Byd Cyntaf hefyd yn ogystal â'r cyfnod cynharach.

Ffosydd ymarfer y Rhyfel Byd - ym Modelwyddan yng Ngogledd Cymru ac ym Mhenalun yn Ne Cymru

C
aiff olion y Rhyfel Byd Cyntaf eu gwarchod fel rhan o henebion eraill, ond hefyd ynddynt eu hunain. Mae gan Gymru ddwy set o ffosydd ymarfer a gaiff eu gwarchod yn gyfreithiol – ym Modelwyddan yng Ngogledd Cymru ac ym Mhenalun yn Ne Cymru.

Cafodd y ffosydd ymarfer hyn eu cloddio gan recriwtiaid yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, er mwyn iddynt ddysgu sgiliau adeiladu ffosydd, ond hefyd er mwyn datblygu gwaith tîm a ffitrwydd corfforol.

Mae’r ddwy set hyn sydd ar ôl yng Nghymru yn ein hatgoffa o’r dynion – a’r bechgyn – a fyddai ymhen dim yn adeiladu’r ffosydd hyn ledled Ewrop ac o dan amgylchiadau tra gwahanol.

Safle monitro tanddaearol y Rhyfel Oer, Llananno, Powys

Mae gan Gymru archaeoleg arall sy’n fwy modern byth hefyd. Ymhlith rhai o'r henebion a warchodwyd fwyaf diweddar mae'r safleoedd milwrol hynny a oroesodd o gyfnod y Rhyfel Oer, pan oedd Cymru ynghlwm â'r brys technolegol byrbwyll hwnnw a oedd yn nodweddiadol o’r ras arfau.

Mae enghraifft sydd wedi’i chadw’n dda yn Llananno, Powys wedi’i rhestru fel heneb o arwyddocâd cenedlaethol. Agorodd yn 1960 ac fe gaeodd gyda’r holl safleoedd eraill a oedd yn weddill ddiwedd 1991.

Er iddi ond gau 21 o flynyddoedd yn ôl, cafodd ei gwarchod am ei photensial i wella ein gwybodaeth am ddatblygiad systemau amddiffyn Rhyfel Oer Prydain ac am fod datblygiad llwyddiannus rhwydwaith cenedlaethol o safleoedd monitro tanddaearol yn cynrychioli un o'r prif gyflawniadau technolegol ym Mhrydain yn ystod cyfnod y Rhyfel Oer.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau Gŵyl Archaeoleg Cadw www.cadw.cymru.gov.uk/digwyddiadau