Safleoedd hanesyddol yn dathlu treftadaeth, celf a chrefft mewn gŵyl wythnos

Dydd Llun 22 Gorffennaf 2013

Safleoedd hanesyddol yn dathlu treftadaeth, celf a chrefft mewn gŵyl wythnos

Safleoedd hanesyddol yn dathlu treftadaeth, celf a chrefft mewn gŵyl wythnos

Wrth i wyliau'r haf ddechrau, bydd saith o'r atyniadau hanesyddol gorau yng Nghymru sydd dan ofal Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn croesawu llu o gemau, arddangosfeydd a gweithgareddau ymarferol traddodiadol cyffrous.

Yng Ngogledd Cymru, bydd gweithgareddau yn amrywio o weithdai cellweiriwr a gweithdai dawns traddodiadol, i fowldio plastr a hyfforddiant milwrol ar gael yng Nghastell Biwmares, Rhuddlan a Dinbych a Phlas Mawr, y Tŷ Trefol o oes Elisabeth yng Nghonwy rhwng 22 a 25 Gorffennaf, a fydd yn sicrhau hwyl i bawb.

Yn Ne Cymru, bydd Llys Tre-tŵr, Castell Talacharn ac Abaty Tyndyrn yn croesawu ymwelwyr rhwng 23 a 26 Gorffennaf i roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys ffotograffiaeth, celf pastel, nyddu a gwehyddu â llaw a thechnegau adeiladu traddodiadol.

Gogledd Cymru

Ddydd Llun 22 Gorffennaf, caiff ymwelwyr Castell Biwmares eu diddannu gan feirdd a chlerwyr, ac yn dysgu am brydau canoloesol a gweld arfau angheuol yr arfogwyr.

Bydd gweithgareddau yng Nghastell Rhuddlan a Dinbych, ar 23 a 24 Gorffennaf, yn cynnwys Ffiseg yn y castell, mewn cydweithrediad â Techniquest Glyndŵr, lle gall cyfranogwyr helpu i daflu catapyltiau at y castell, dylunio pont godi a rhoi cynnig ar beirianwaith codi!

Bydd archaeolegwyr o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn ymuno ag ymwelwyr Castell Dinbych, a fydd yn cyflwyno eu llyfr newydd sbon sy'n ystyried yr hanes ddiddorol sy'n gysylltiedig â thref hanesyddol Dinbych.

Ddydd Iau, 25 Gorffennaf, caiff ymwelwyr y cyfle unigryw i gwrdd ag Ancient Arts, tîm o archaeolegwyr arbrofol lleol a phobl crefftau treftadaeth draddodiadol, i ddysgu am waith adfer gwaith plastr anhygoel Plas Mawr a gwneud eu gwaith clai o oes y Tuduriaid eu hunain i fynd adref gyda nhw.

De Cymru

Ddydd Mawrth, 23 Gorffennaf, gall ymwelwyr â Chastell Talacharn wneud print o'r castell, gwylio arddangosfeydd nyddu a gwehyddu, dysgu sut y cafodd adeiladau â ffram bren eu hadeiladu, gwylio gwaith coed gwyrdd, cwrdd â barbwr-lawfeddyg canoloesol a dysgu am arfau ac arfwisgoedd a bywyd bob dydd 700 o flynyddoedd yn ôl!

Bydd teulu Llys Tre-tŵr yno ddydd Mercher, 24 Gorffennaf, a chaiff ymwelwyr gymryd rhan mewn gweithdai celf a ffotograffiaeth, gwylio arddangosfeydd nyddu a gwehyddu â llaw a gwneud eu danteithfwyd Tuduraidd eu hunain - marsipán wedi'i fowldio!

Ddydd Gwener, 26 Gorffennaf, bydd Abaty Tyndyrn yn cynnal gweithdai celf a ffotograffiaeth - gan gynnwys gweithio gyda gwifren i ddathlu treftadaeth Tyndyrn o wneud gwifrau - ac arddangosfeydd nyddu a gwehyddu. Gallwch hefyd ddysgu am drefn dyddiol y mynachod canoloesol

Mae dathlu treftadaeth, celf a chrefft ym mhob un o'r safleoedd dros yr wythnos yn cynnig trêt i'r holl synhwyrau; o flasau ac arogleuon coginio canoloesol a gwinoedd coeth a arferai lenwi hen seleri, i sŵn cerddoriaeth ganoloesol hamddenol, marchogion yn brwydro a theimlad celf a chrefft traddodiadol.

Mae mwy na dwy filiwn o bobl yn ymweld â 129 o safleoedd hanesyddol Cadw bob blwyddyn i ddarganfod y straeon dramatig sy'n gysylltiedig â chestyll, abatai, henebion diwydiannol a chynhanesyddol ysblenydd Cymru. Ac mae'r safleoedd hyn, fel llawer o rai eraill, yn ffurfio rhan o stori ddiddorol hanes Cymru.

Dyma a ddywedodd John Griffiths, Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, am y digwyddiadau: 'Unwaith eto eleni, mae fy nhîm yn Cadw wedi creu rhaglen o ddigwyddiadau cyffrous yr haf hwn i ddod â'r henebion diddorol hyn yn fyw i ymwelwyr. Nid yn unig y bydd y digwyddiadau hyn yn y pedwar safle drwy'r wythnos yn cynnig cyfle i ymwelwyr fwynhau diwrnod allan gyda'r teulu, ond byddant hefyd yn rhoi blas ar hanes Cymru a'r straeon diddorol y tu ôl i'r henebion eiconig hyn i'r trigolion a'r ymwelwyr lleol.

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau, cliciwch yma:

http://cadw.wales.gov.uk/events/allevents/;jsessionid=515D53061192426DDBD2EB1B3BDE8C15?skip=1&lang=cy), chwiliwch am Cadw ar Facebook neu dilynwch @CadwCymru ar Twitter.