Llai na hanner pobl Cymru sy’n gyfarwydd â stori Gŵyl Dewi Sant

Dydd Mercher 27 Chwefror 2013

Mae’r Cymry’n adnabyddus ar sail eu hymrwymiad diwylliannol i’w mamwlad. Ond yn ôl arolwg diweddar gan Cadw, sef gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, llai na hanner y genedl sy’n gwybod pam mae dydd Gŵyl Dewi yn cael ei ddathlu mewn gwirionedd

Diwrnodau yn unig sydd tan inni wisgo’n cennin a’n cennin Pedr â balchder ar 1 Mawrth, ac mae Cadw yn annog pobl i ailgysylltu â’u treftadaeth ar ddydd Gŵyl Dewi drwy agor ei safleoedd am ddim i ddathlu Nawddsant Cymru.

Teithiodd Dewi Sant drwy’r De a thrwy orllewin Lloegr, gan godi canolfannau crefyddol ar ei ffordd. Roedd ganddo ddilyniant cryf a ffyddlon a chredai ei ddilynwyr fod y sant yn gallu gwneud gwyrthiau. Yn ôl y traddodiad, bu farw ar ddiwrnod cyntaf mis Mawrth yn y flwyddyn 589OC, sef y dyddiad sydd erbyn hyn yn Ddiwrnod Cenedlaethol y Cymry.

Datgelodd yr arolwg ystadegau diddorol eraill am wybodaeth y genedl o hanes Cymru. Nid yw 70% o bobl Cymru’n gwybod pam mae dydd y Santes Dwynwen yn cael ei ddathlu ar 25 Ionawr, ac roedd 56% o bobl yn credu bod gan Gymru lai na 100 o gestyll, er bod dros 600 mewn gwirionedd.** Dangosodd yr arolwg hefyd fod mwy na 45% o bobl heb ymweld â chastell ers pum mlynedd a rhagor.

Mae stori Santes Dwynwen yn un o chwedlau mwyaf adnabyddus Cymru. Nid oedd Dwynwen wedi gallu priodi'r dyn yr oedd yn ei garu, felly penderfynodd dreulio gweddill eu bywyd yn helpu cariadon eraill. Yn sgil hynny, daeth yn nawddsant cariadon. Eir ati i ddathlu eu stori ar 25 Ionawr, Dydd Sant Ffolant Cymru.

Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Treftadaeth, 'Mae’r arolwg yn awgrymu bod yna ddiffyg ymwybyddiaeth o hanes Cymru ymhlith rhai ohonon ni yma yng Nghymru, ac mewn ymateb i hynny rydyn ni’n galw ar gymunedau Cymru i ymddiddori yn eu treftadaeth, manteisio ar y cynnig mynediad am ddim ar ddydd Gŵyl Dewi ac ymweld ag un o’r nifer fawr o safleoedd hanesyddol sydd ar garreg y drws'.

'Mae fy Strategaeth newydd ar yr Amgylchedd Hanesyddol yn pwysleisio mor werthfawr yw’n treftadaeth ni fel modd i hybu balchder cenedlaethol a balchder bro, ac mae’n cynnig cyfleoedd i ddysgu ac i wella’n hapêl i ymwelwyr. Hoffwn weld pawb yn cael cyfle i fanteisio ar ein treftadaeth ni'.

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Ewch i www.cadw.cymru.gov.uk i ddysgu mwy am atyniadau a digwyddiadau Cadw yn eich ardal chi. Hefyd gallwch ‘hoffi’ Cadw ar Facebook a dilyn @CadwCymru ar Twitter er mwyn cael y newyddion diweddaraf.

*Arolygwyd 1,007 o bobl yng Nghymru drwy Censuswide Online.

**Ffynhonnell: Croeso Cymru