Darganfod bywyd gwyllt yn llechu y tu ôl i furiau hanesyddol Cymru

Dydd Mercher 30 Hydref 2013

Mae ceidwaid rhai o henebion anwylaf Cymru yn rhannu eu hanesion am y bywyd gwyllt amrywiol y mae modd ei weld yn swatio ymhlith cerrig Cadw, 129 o safleoedd hanesyddol gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.

Darganfod bywyd gwyllt yn llechu y tu ôl i furiau hanesyddol Cymru

Darganfod bywyd gwyllt yn llechu y tu ôl i furiau hanesyddol Cymru

Efallai bod cestyll Cymru yn cael eu mawrygu am nodweddion megis eu rhagoriaeth bensaernïol drawiadol a'u blynyddoedd o hanes, ond er eu grym o waith llaw dyn, mae gan nifer o gestyll a safleoedd hanesyddol Cymru gyfrinach sy'n gweddu yn fwy i'r ardaloedd naturiol sy'n eu hamgylchynu.

Gyda chyfres o dyredau, tyrau, ffosydd, cilfachau a chorneli bach, mae'r henebion hyn yn cynnig man delfrydol i lu o fywyd gwyllt cyfareddol guddio - o dylluanod a dyfrgwn, i ddraenogod, adar ac ystlumod.

Gan edrych allan dros geunant coediog serth afon Teifi, mae Castell Cilgerran mewn man delfrydol i ddenu amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Boed hwnnw yn fflachiad gwyrddlas glas y dorlan wrth iddo saethu uwch ben y dŵr neu grychau nodweddiadol ar y dŵr gan ddyfrgi a'i deulu, mae'n amlwg bod y safle o gwmpas Cilgerran yn llawn bywyd.

Dywedodd Catherine Collins, Ceidwad Castell Cilgerran: 'I fyny yn y castell ei hun, un o'r golygfeydd mwyaf cofiadwy oedd gweld llwynog yn cysgu'n drwm yn yr heulwen gerllaw'r cysylltfur. Mae eog a brithyll môr yn yr afon oddi tanom a gwelwyd adar ysglyfaethus yn hedfan o gwmpas. Rydym hyd yn oed wedi clywed hanesion am gigfrain ac mae cudyllod coch yn nythu yn y coed ac yn magu eu cywion.'

Mae llwybr yn ymestyn o'r castell i Ganolfan Bywyd Gwyllt Cymru gerllaw, sef pencadlys Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, ac mae hwn yn fan delfrydol i ymwelwyr archwilio'r bywyd gwyllt ar y ddau safle yn ystod eu hymweliad.

Mae Cilgerran yn enghraifft wych o dreftadaeth amrywiol Cymru, o'i thirlun a'i bywyd gwyllt i'w henebion a'i straeon dramatig. Er bod Cadw yn gofalu am y castell ei hun, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchen ar y safle, ac mae'r ddau sefydliad yn cydweithio i ofalu am hanes adeiledig a bioamrywiaeth Cilgerran.

Mae'r ystlumod wedi ymgartrefi yn y castell o ganlyniad i heddwch y safle, ac fe'u gwelir yn clwydo yn y tyllau a'r corneli ac yn hedfan o gwmpas gyda'r hwyr. Mae'r gerddi yn dangos sut y mae modd rheoli safleoedd er mwyn annog natur i ffynnu, ac mae dwy ardd lysiau a pherlysiau newydd yn denu gwenyn a gloÿnnod byw, o ieir bach modrwyog, ieir bach melyn a mentyll cochion i ieir bach llygadog, gloÿnnod trilliw a dau fath o loÿnnod mawr gwyn.

Mae nifer o safleoedd Cadw yn cynnig cyfleoedd delfrydol i wylio bywyd gwyllt. Yn aml, bydd y lleoliadau a wnaeth ddenu eu hadeiladwyr sawl canrif yn ôl yn anghysbell ac yn dawel. Mae cestyll fel Dryslwyn, sy'n sefyll ar frigiad creigiog yng nghanol Dyffryn Tywi, yn fannau gwych i wylio cudyllod coch ac adar ysglyfaethus.

Ystyrir bod Castell y Fflint, sy'n edrych dros draethellau lleidiog Aber Afon Dyfrdwy, yn lle da iawn i wylio adar dŵr ac adar hirgoes, heb sôn am ei gigfrain bridio ei hun.

Mae Castell Casnewydd, sydd wedi'i leoli ar lan afon Wysg, yn lle poblogaidd arall lle y mae modd gweld dyfrgwn yn aml. Gall ffosydd a chwterydd gynnig lloches i ymlusgiaid ac amffibiaid, ac mae glaswellt hir yn gallu cuddio nadroedd.  

Gwelwyd un o'r darganfyddiadau mwyaf ffodus yng Nghastell Raglan, pan alwyd ar swyddogion rheoli plâu i gael gwared ar bla o 'lygod mawr', ond mewn gwirionedd, llygod y dŵr prin oedd y rhain, sy'n cael eu trysori yn hytrach na'u hela.

Ar hyn o bryd, Sonja Brown yw prif geidwad Castell Cydweli, ond treuliodd 16 o flynyddoedd yn gofalu am Gastell Talacharn gerllaw — y cadarnle canoloesol godidog a drawsnewidiwyd yn blasty Tuduraidd, ac a ddaeth yn awen ac yn hoff fan ysgrifennu y bardd adnabyddus Dylan Thomas yn ddiweddarach.

Roedd llinell enwog Thomas yn nodi bod Castell Talacharn yn ymddangos yn 'frown fel tylluanod'. Nid hwn yw'r unig adeg y mae'r castell wedi bod yn gysylltiedig gyda'r creaduriaid godidog — mae Sonja yn cofio tylluanod brown yn nythu yn nhŵr y Gogledd Orllewin yn Nhalacharn yn ystod misoedd y gaeaf.

Dywedodd:  'Arferent deithio mewn parau. Fel rhywogaeth, maent yn hynod o ddiddorol. Crand a nerthol, ond yn dyner ar yr un pryd;  ni fyddant yn hela pan fydd hi'n wlyb oherwydd y difrod y gallai hyn ei achosi i'w plu cywrain.'

Ac nid Sonja yw'r unig un sy'n gwerthfawrogi'r bywyd gwyllt sy'n trigo yn safleoedd Cadw. Ym mhrofiad Sonja, mae plant yn aml yn barod iawn i dderbyn presenoldeb bywyd gwyllt yn safleoedd Cadw: 'Byddaf yn sicrhau fy mod yn dangos llwybrau a baw bywyd gwyllt gerllaw i unrhyw blant sy'n ymweld, fel tystiolaeth o'r gwahanol rywogaethau sy'n byw o gwmpas safleoedd y cestyll. Maent yn meddwl bod hyn yn wych;  mae darganfod cliwiau am yr anifeiliaid sydd wedi ymweld yn ddiweddar yn cynnig gwefr go iawn, ac mae'n addysgol hefyd.'

Ychwanegodd John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon: 'Mae'r bywyd gwyllt mewn henebion yn troi'r olion hynafol hyn yn fannau byw, gan ddwyn diben a bywyd newydd i'r safleoedd. Mae diogelu'r cynefinoedd naturiol a'r bywyd gwyllt lleol yn ystyriaeth allweddol pryd bynnag y caiff gwaith cadwraeth ei gynllunio mewn unrhyw heneb.

'Mae ceidwaid Cadw yn teimlo'n angerddol am y bywyd gwyllt sy'n byw yn eu heneb, ac mae'n cynnig gwerth ychwanegol i'r profiad ar gyfer ymwelwyr pan fyddant yn rhannu eu gwybodaeth a'u brwdfrydedd gydag ymwelwyr, ac mae'n eu haddysgu am eu hanes a'u bywyd gwyllt lleol.'

Mae Cadw wedi comisiynu astudiaethau er mwyn rhagweld pa fathau o anifeiliaid, planhigion ac adar y bydd modd eu gweld yn safleoedd Cadw.  Gan fynd gam ymhellach gyda'r broses, bydd modd rheoli safleoedd mewn ffyrdd a fydd yn annog bywyd gwyllt yn y dyfodol. Mae'r gwaith hwn eisoes wedi cychwyn ym Mryngaer Llanmelin, lle y mae Cadw yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent ar hyn o bryd ar brosiect i ddiogelu'r bywyd gwyllt ar y safle.  

Cynhaliodd yr Ymddiriedolaeth arolwg yn y bryngaer, y mae yng ngofal Cadw, gan ddarganfod bod y safle yn un pwysig a diddorol o ran ei ecoleg. Darganfuwyd rhywogaethau amrywiol o wyfynod pwysig yno, gan gynnwys yr haid mwyaf yr ydym yn gwybod amdano yng Nghymru o'r gwyfyn Dolennog Llwyd, yn ogystal â darganfod mai'r bryngaer yw'r safle olaf yn Sir Fynwy lle y gwelir gwylys gwyllt.

Trwy weithio gydag ymddiriedolaethau bywyd gwyllt, mae Cadw yn gobeithio datblygu trefniant rheoli holistig ar gyfer ei henebion, gan sicrhau bod yr un pwys yn cael ei roi ar yr amgylchedd hanesyddol a naturiol, a phennu gwerth ecolegol yr heneb. Bydd cam pellach yn cael ei gymryd yn hyn o beth hefyd, trwy wella'r gwaith dehongli yn safleoedd Cadw er mwyn cynnwys gwybodaeth am y bywyd gwyllt lleol.