Artistiaid preswyl yng Nghastell Coch — galw am ymgeiswyr

Dydd Gwener 23 Ionawr 2015

Mae Cadw yn falch o gyhoeddi bod galw am artistiaid ar gyfer ei rhaglen breswyl gyntaf yn 2015, a fydd yng Nghastell Coch

  • ???cadw.media.no_js???
  • Castell Coch

    Castell Coch

  • Castell Coch

    Castell Coch

  • Castell Coch

    Castell Coch

  • Castell Coch

    Castell Coch

  • Castell Coch

    Castell Coch

Mae Cadw yn falch o gyhoeddi bod galw am ddau artist i gyfrannu i’r rhaglen artistiaid preswyl yn safle anhygoel Castell Coch, ar gyrion Caerdydd.

Bydd y lleoliad yn croesawu dau artist am gyfnod o chwe wythnos.

Mae’r cyfnod ymgeisio nawr ar agor, a bydd yn cau ar Ddydd Llun 2 Mawrth am 5pm.

Mae manylion llawn yn y llwytho isod.

Bydd cyfleoedd i weld y safle a chwrdd â Rheolwr Etifeddiaeth a Chelfyddyd Cadw a cheidwad Castell Coch ar Ddydd Mercher 18 Chwefror a Dydd Iau 19 Chwefror 2015.

Anfonwch e-bost at CadwPublicProgrammes@cymru.gsi.gov.uk i wneud apwyntiad, neu gydag unrhyw gwestiynau a allai fod gennych am y preswyliad.