Mynyddoedd Cymru yn ysbrydoli campweithiau cyfoes

Dydd Sul 07 Mehefin 2015

Mae Cymru yn enwog drwy’r byd am ei threftadaeth a’i chelfyddydau, ac eleni bydd y ddwy elfen yn dod ynghyd wrth i artistiaid o Gymru weithio gyda grwpiau cymunedol lleol i gwblhau prosiectau mawr ar rai o safleoedd hanesyddol mwyaf eiconig y wlad.

Castell Coch

Castell Coch

Mae Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru i lansio rhaglen ‘Artistiaid Preswyl’ eleni  – prosiect sy’n ceisio dod â threftadaeth unigryw Cymru yn fyw drwy gelf ddeongliadol.

Eleni bydd y rhaglen yn gweithio’n agos gyda grwpiau Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru mewn ymgais i gyrraedd cynulleidfaoedd sy’n cael eu tangynrychioli ac i ddefnyddio’r celfyddydau a threftadaeth i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer pobl ifanc. Rhaglen gwrthdlodi flaenllaw Llywodraeth Cymru yw Cymunedau yn Gyntaf sydd ar waith mewn 52 ‘clwstwr’ ledled Cymru.


Bydd chwe artist yn gweithio mewn adeiladau hanesyddol ac ar safleoedd archeolegol ledled y wlad dros y flwyddyn nesaf. Byddant yn gweithio gyda grwpiau cymunedol ar brosiectau cyffrous a llawn hwyl, gan ddefnyddio cyfuniad o sgiliau traddodiadol a dulliau cysyniadol i adrodd hanes y safleoedd mewn ffordd greadigol ac arloesol.

Yn ogystal â chyfrannu at y darnau o waith celf gorffenedig, bydd pawb sy’n mynychu’r gweithdai yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau amrywiol ym meysydd llythrennedd, rhifedd, gwaith tîm, cyfathrebu a mentergarwch - ac mae pob un o’r rhain yn cyfrannu at hunangred a hunanhyder unigolion.

Cynhelir y cyfnod preswyl cyntaf ar gyfer 2015 yng Nghastell Coch, lle bydd yr artist cysyniadol, Lauren Heckler a’r artist a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth Artist Cymreig y Flwyddyn, John Abell, yn creu gosodiadau ar y safle dros gyfnod o dri mis.

Bydd Lauren yn defnyddio dulliau modern fel sain, fideo a cherfluniau bach i bortreadu Castell Coch fel stori tylwyth teg fytholwyrdd, yn ogystal â recordio synau ystlumod ar y safle. Bydd John yn canolbwyntio ar greu ‘triptych’ torlun pren enfawr (paentiad sy’n cynnwys tair adran yn draddodiadol) er mwyn arddangos hanes cyn dŷ haf yr Arglwydd Bute. Bydd Lauren a John yn cynnal gweithdai gyda grwpiau Cymunedau yn Gyntaf a fydd yn cyfrannu at eu darnau o waith gorffenedig.

Meddai John Abell o Gaerdydd: “O’i seiliau canoloesol i’w olud Fictoraidd, mae gan Gastell Coch orffennol lliwgar ond annisgwyl, ac mae’n lleoliad delfrydol i ysbrydoli darnau newydd o gelf gyffrous.

“Mae’r rhaglen Artistiaid Preswyl yn gyfle ardderchog i mi ac artistiaid eraill o Gymru arddangos ein gwaith i gynulleidfa ehangach a sicrhau bod mwy o bobl yng Nghymru yn cymryd diddordeb mewn celf.”

Meddai Lauren Heckler, a anwyd yn Sir Gaerfyrddin: “Gweledigaeth William Burgess oedd Castell Coch – athrylith artistig go iawn. Dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar at weithio yn yr adeilad lledrithiol, anhygoel hwn er mwyn creu fy nehongliad fy hun o stori dylwyth teg oesol Burgess.”  

Bydd ymwelwyr yn gallu gweld John a Lauren wrth eu gwaith dros y misoedd nesaf, a bydd modd gweld yr arddangosfeydd gorffenedig ar y safle yn ddiweddarach yn yr haf.  

Un o safleoedd eraill Cadw sy’n cymryd rhan eleni yw siambr gladdu Bryn Celli Ddu yn Ynys Môn. Bydd yr artist ar safle Bryn Celli Ddu yn cofnodi cloddfa archeolegol dros bythefnos, gan weithio’n agos gyda phlant ysgol o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ar Ynys Môn ac archeolegwyr ym mis Mehefin er mwyn archwilio posibiliadau artistig y bedd cyntedd a’r tirweddau cyfagos. Cynhelir rhagor o gyfnodau preswyl ar safleoedd amrywiol Cadw yn ystod yr hydref.  

Meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates: “Diolch i bartneriaeth Cadw â Chyngor Celfyddydau Cymru, bydd artistiaid o Gymru yn gallu cael eu hysbrydoli gan ein safleoedd hanesyddol a’n hamgylchedd i greu gwaith celf newydd, gwreiddiol a chyffrous.

Gydol y flwyddyn, bydd y rhaglen breswyl yn cyfrannu at y rhaglen 'Cyfuno: Trechu Tlodi trwy Ddiwylliant', sydd â’r nod o wella cyfleoedd bywyd pobl ifanc ac oedolion difreintiedig drwy gynnig cyfleoedd iddynt gymryd rhan mewn rhaglenni a gweithgareddau diwylliannol diddorol ac addysgol.

Mae’n bwysig iawn bod y daith greadigol yn cynnwys y cyhoedd cymaint ag sy’n bosibl, ac mae’n hanfodol i ni gynnig cyfleoedd i bobl gymryd rhan a gweld y gwaith ymchwil a’r prosesau sydd eu hangen i greu gweithiau celf amrywiol.

Mae cyfuno’r celfyddydau â hanes diddorol y safleoedd hyn yn enghraifft ardderchog o sut mae Cadw yn datblygu dulliau newydd o gyrraedd cynulleidfaoedd sy’n cael eu tangynrychioli. Mae hefyd yn defnyddio ein hasedau treftadaeth i ddatblygu sgiliau pobl eraill, gan ddod â safleoedd treftadaeth Cymru yn fyw i gymunedau ledled Cymru.”

Yn y gorffennol, mae Cadw a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi cydweithio ar safle Caer Rufeinig Segontium Caernarfon lle’r aeth yr artist Manon Awst ati i ddatblygu cyfres o weithiau celf a ysbrydolwyd gan orffennol Rhufeinig cyfoethog Caernarfon.  

Meddai Nathalie Camus o Gyngor Celfyddydau Cymru: “Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda Cadw ar y rhaglen Artistiaid Preswyl. Mae safleoedd treftadaeth Cymru yn ffynhonnell ysbrydoliaeth ardderchog ar gyfer unrhyw artist, gyda’u hanes cyfoethog a’u lleoliadau ysblennydd. Mae’r prosiect yn denu mwy o sylw at waith artistiaid, mae’n sylfaen iddyn nhw lansio eu gyrfaoedd, ac mae’n rhoi profiad busnes iddyn nhw o weithio i friff byw.”

Bydd y rhaglen artistiaid preswyl mewn safleoedd treftadaeth eleni yn cefnogi menter polisi newydd arloesol, Cyfuno: Trechu Tlodi trwy Ddiwylliant a gyhoeddwyd gan y Dirprwy Weinidog ym mis Mai 2015. Mae’r rhaglen hon yn cael ei rhoi ar waith mewn ymateb i adroddiad diweddar a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a oedd yn nodi bod amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau, henebion hanesyddol a sefydliadau celf yn adnoddau allweddol y dylid eu defnyddio’n fwy creadigol i ysgogi pobl i ddysgu ac ennill sgiliau mewn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig.

Un o elfennau allweddol y rhaglen hon fydd cysylltu cyrff diwylliannol yn agosach â’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, ac mae’r dull yn cael ei dreialu mewn chwe ‘Ardal Arloesi’ ledled Cymru. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.