Dod o hyd i ddarganfyddiadau archeolegol yng Nghastell Caernarfon

Dydd Iau 08 Ionawr 2015

Mae darganfyddiadau archeolegol annisgwyl sy’n mynd yn ôl canrifoedd lawer wedi dod i’r amlwg yng Nghastell Caernarfon yn ystod y gwaith o adeiladu’r fynedfa docynnau newydd.

Llun o darn garreg ganon fawr wedi ei ddarganfod yn Castell Caernarfon

Darn o garreg ganon fawr wedi ei ddarganfod yn Castell Caernarfon

Roedd pistolau plwm, peli ar gyfer mysgedau, esgyrn anifeiliaid a darn o grochenwaith Rhufeinig ymhlith yr eitemau a ddarganfuwyd wrth Borth y Brenin yng Nghastell Caernarfon y mis hwn fel rhan o’r gwaith sydd ar y gweill i adeiladu mynedfa docynnau newydd.

Caiff y prosiect ei ariannu gennym ni, ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd sy’n ymgymryd â’r gwaith cloddio archeolegol a’r prosesu ar ôl cloddio. Mae hyn yn rhan o’n Prosiect Twristiaeth Etifeddiaeth gwerth £19 miliwn sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru.

Mae’r gwaith o adeiladu’r fynedfa docynnau newydd yn cael ei wneud gan Grosvenor Construction, a gwnaed y gwaith dylunio gan Donald Insall Associates.

Yn ystod y gwaith cloddio cafwyd tystiolaeth bellach o ddau gyfnod penodol yn hanes y Castell.

Dechreuwyd adeiladu’r castell ym 1283 ar orchymyn y Brenin Edward I dan gyfarwyddyd James of St George, sef Meistr Gweithfeydd y Brenin yng Nghymru ar y pryd.

• Mae pwll sbwriel mawr y daethpwyd o hyd iddo yn y porthdy yn debygol o ddyddio o’r cyfnod hwn pan oedd y castell yn cael ei adeiladu.

• Roedd yn cynnwys llawer iawn o esgyrn anifeiliaid a chregyn, gan gynnwys cregyn wystrys a ddaethai, debyg iawn, o Afon Menai.

• Gobeithio, drwy ddadansoddi’r darganfyddiadau ymhellach, y cawn ragor o wybodaeth am ddeiet y bobol a gododd y castell.

Defnyddiwyd y castell yn ddiweddarach fel cadarnle yn yr 17eg Ganrif yn ystod y Rhyfel Cartref. Erbyn hynny roedd y castell mewn cyflwr gwael, ond yn cael ei ddal ar ran y Brenin gan Arglwydd Byron, a gafodd ei gadw dan warchae deirgwaith o fewn ei furiau.

• Mae pistolau plwm a pheli ar gyfer mysgedau a phibelli tybaco o glai yn dweud wrthym fod mwy o weithgarwch o fewn muriau’r castell tuag adeg y Rhyfel Cartref.

• Credir bod hanner pêl ganon fawr o garreg, tuag 8” ar draws, hefyd yn dyddio o’r cyfnod hwn.

Yn ystod y gwaith cloddio daethpwyd o hyd i un eitem annisgwyl hefyd:  

• Darn o grochenwaith Rhufeinig, a elwir yn grochenwaith Samiaidd, sydd dros 1000 o flynyddoedd yn hŷn na’r castell.

• Byddai hwn wedi cyrraedd yr ardal pan oedd milwyr yn byw yn y gaer Rufeinig yn Segontium. Hwyrach y byddai’r crochenwaith wedi’i gludo i mewn i’r castell yn ystod y gwaith adeiladu, pan oedd angen llawer iawn o glai a cherrig.

Mae gwaith yn mynd ymlaen nawr i asesu canlyniadau’r cloddio, a rhagwelir y ceir gwybodaeth ychwanegol wrth wneud dadansoddiad gwyddonol o’r defnydd a’r arteffactau sydd wedi dod i’r golwg.