Dod â hanes yn fyw yng Nghastell Caernarfon

Dydd Iau 02 Gorffennaf 2015

Mae prosiect partneriaethol yng Nghaernarfon, sy'n ceisio cael y budd economaidd mwyaf gan dwristiaeth treftadaeth drwy adeiladu ar asedau naturiol, diwylliannol a threftadaeth y dref - rhai sy'n bwysig yn rhyngwladol - yn symud yn ei flaen, ac mae'r gwaith yng Nghastell Caernarfon newydd gael ei gwblhau.

Llun o Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yn Castell Caernarfon

Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yn Castell Caernarfon

Bydd prosiect gwerth £780,000 i weddnewid y cyflwyniad, y dehongliad a'r cyfleusterau yn y castell sydd yng ngofal Llywodraeth Cymru, sef un o brif atyniadau twristiaeth ac un o Safleoedd Treftadaeth Byd, yn rhoi cyfle i ymwelwyr weld hanes yr adeilad anhygoel mewn ffyrdd newydd a chyffrous.

Mae'r gwelliannau'n cynnwys mynedfa newydd a thryloyw, sydd wedi ei dylunio i groesawu ymwelwyr ac i barchu nodweddion hanesyddol y castell, a dehongliadau gwell ymhob rhan o'r safle. Cyflwynwyd pedwar gosodiad newydd, gan addysgu ymwelwyr am y gwahanol agweddau ar hanes y castell mewn ffordd greadigol a dymunol.

• Mae'r arddangosfa 'Gêm y Coronau' yn 'fwrdd gwyddbwyll maint pobl, gyda cherfluniau o'r prif gymeriadau a oedd yn cystadlu i reoli Cymru o 1066 i 1282. Mae'r arddangosfa'n esbonio gwreiddiau tywysogion Cymru, o Golofn Eliseg i'r tywysogion diweddarach, yn ogystal â'r sedd a'r clustog ben-glin a ddefnyddiwyd yn yr arwisgiad yn 1969.

• Mae'r arddangosfa 'Bywyd Eleanor o Gastîl' yn dangos yr wyth cyfnod o fywyd gwraig Edward 1 drwy garwsel Fictorianaidd. Er bod pob cam yn edrych fel y ddelfryd ramantaidd o fywyd gwraig fonheddig yn yr Oesoedd Canol, mae'r elfennau ysgrifenedig yn datgelu'r profiadau caled ar adegau yr oedd raid i wraig rymus eu dioddef.

• Mae'r arddangosfa 'Chwedlau' yn rhoi cyfle i ymwelwyr edrych y 'tu mewn' i ben Edward 1 a darganfod sut y cymerodd fythau a chwedlau Cymru i roi hawl iddo'i hun reoli Cymru. Mae hefyd yn esbonio'r symbolaeth pam y dewisodd Edward adeiladu yng Nghaernarfon, a pham y cafodd y castell ei adeiladu fel hyn.

• Gosodwyd cyflwyniad clywedol newydd hefyd, sy'n dangos ffilm wyth munud am hanes Caernarfon. Crewyd y ffilm gan Ross Ashton, yr artist taflunio digidol byd-enwog.

Mae'r prosiect hefyd wedi creu paneli dehongli newydd, sy'n esbonio nodweddion arwyddocaol yn y castell, arwyddion newydd ar gyfer Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a chreu llwybr gweithgareddau newydd er mwyn i deuluoedd allu crwydro ac archwilio'r castell.

Mae'r gwaith yng Nghastell Caernarfon wedi cael ei ariannu drwy Brosiect Twristiaeth Treftadaeth Cadw, sy'n werth £19 miliwn ac sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Mae'r gwelliannau i'r castell yn rhan o raglen adfywio ehangach sy'n arloesol ac yn cael ei arwain gan dreftadaeth, ac sy'n ceisio defnyddio rhai o'r prif rannau sy'n dirywio ar lannau Caernarfon.

Sefydlwyd y rhaglen yn 2012, ac mae'n cael ei arwain gan bartneriaeth gref sy'n cynnwys nifer o sefydliadau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd, Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri, Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon, Antur Waunfawr, Galeri Cyf, GISDA, Cyngor Tref Caernarfon, Cyngor Celfyddydau Cymru ac eraill.  Mae'r rhaglen bresennol o weithgareddau hefyd wedi cael buddsoddiad o £1 filiwn gan Lywodraeth Cymru drwy'r Grant Trechu Tlodi, ‘Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid’.

Drwy gyllid o'r fath mae'r rhaglen yn ceisio diogelu treftadaeth yr ardal a dychwelyd ei hadeiladu i gael eu defnyddio mewn ffordd gynhyrchiol a chynaliadwy, gan cynnig prentisiaethau, hyfforddiant, gweithgareddau dysgu a gwirfoddoli i bobl leol ac arwain at swyddi newydd a chynaliadwy.

Gwyddom fod y sector treftadaeth a thwristiaeth treftadaeth yn sbardun economaidd yng Ngwynedd. Yn ôl astudiaeth ddiweddar, roedd yr economi treftadaeth yng Ngwynedd yn cyflogi dros 8,000 o bobl yn 2014, sef 15% o'r holl gyflogaeth yn y sir, ac roedd yn cynhyrchu £515 miliwn o drosiant a £180 miliwn o werth ychwanegol gros, sef 6.2% o holl werth ychwanegol gros Gwynedd.

Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: "Bydd y gwelliannau i'r cyfleusterau yng Nghastell Caernarfon yn cael effaith wirioneddol ar y profiad i'r ymwelwyr, ac rwy'n hynod falch o weld hanesion pwerus y lle pwysig hwn yn cael eu hadrodd mewn ffyrdd newydd a chreadigol.

"Mae gan Gaernarfon hanes cyfoethog a nodedig, ac felly mae twristiaeth treftadaeth yn gwneud cyfraniad mawr i economi'r dref. Mae Rhaglen Glannau Caernarfon yn enghraifft wych o Lywodraeth Cymru a phartneriaid lleol a chenedlaethol pwysig yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni amcan cyffredin o ran gwella a chynyddu'r hyn a gynigir fel twristiaeth treftadaeth, a hynny er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y gall treftadaeth eu cynnig i gryfhau ein heconomi.

Wrth groesawu'r buddsoddiad diweddar yng Nghastell Caernarfon, dywedodd y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Economi: "Mae'r buddsoddiad hwn mewn lle mor eiconig,  - un o safleoedd treftadaeth y byd wrth gwrs, sydd o bwys yn lleol ac yn rhyngwladol - yn gymorth i wella'r profiad i ymwelwyr yng Nghastell Caernarfon ac i wella'r dehongliad o'n treftadaeth gyfoethog, gan gynnwys stori'r Tywysogion Cymreig.

"Mae Cyngor Gwynedd wedi gweithio'n agos gyda Cadw a phartneriaid eraill dros nifer o flynyddoedd i wella Caernarfon fel cyrchfan i dwristiaid ac mae eisoes yn datblygu cynigion cyffrous ar gyfer y dyfodol.

"Mae'r prosiect hwn yn gam arall tuag at ein nod o adeiladu ar ein hasedau diwylliannol ac amgylcheddol unigryw er mwyn datblygu cyrchfannau o safon fyd-eang a fydd o fudd i gymunedau a busnesau lleol yn ogystal ag ymwelwyr i'r ardal."