Pobl ifanc yn gosod y sylfeini ar gyfer dyfodol treftadaeth Gymreig

Dydd Mawrth 04 Tachwedd 2014

Dyma’r myfyrwyr sydd wedi dewis calchfaen yn lle neuaddau darlithio, a chestyll ac adeiladau traddodiadol yn lle ystafelloedd cyffredin er mwyn cael profiad ymarferol yn adfer rhai o adeiladau mwyaf eiconig Cymru.

Grŵp o 17 o brentisiaid yn ymweld â'r prosiect adfer yng Nghastell Aberteifi

Grŵp o 17 o brentisiaid yn ymweld â'r prosiect adfer yng Nghastell Aberteifi

Mae adeiladu â chalch, gwaith coed a gwaith carreg traddodiadol yn rhan o waith bob dydd i hyfforddeion yng Nghanolfan Tywi, canolfan treftadaeth, hyfforddi a gwybodaeth yn Sir Gaerfyrddin.

Mae’r hyfforddeion yn cymryd rhan yn y Cynllun Bwrsariaeth Sylfeini mewn Treftadaeth - cwrs blwyddyn i grefftwyr sydd am gyflawni Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel 3 mewn Sgiliau Treftadaeth ym maes gwaith coed traddodiadol, plastro, gwaith carreg neu sgiliau toi.

Fel rhan o’r cwrs, mae Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, wedi trefnu i fyfyrwyr ymweld â sawl un o’r eiddo maen nhw’n eu helpu drwy eu cynllun Grant Adeiladau Hanesyddol, i roi profiad uniongyrchol i’r myfyrwyr o gymhlethdodau prosiectau cadwraeth mawr.

Yn ddiweddar iawn, bu grŵp o 17 o brentisiaid yn ymweld â phrosiect cadwraeth yng Nghastell Aberteifi – y nod yma yw creu atyniad treftadaeth sylweddol a chynaliadwy a chyfleuster amlswyddogaeth sy’n ymwneud â chelfyddydau, cymuned, twristiaeth, hamdden a dysgu, a fydd yn denu ymwelwyr, yn creu swyddi ac yn gwella’r adeilad hanesyddol hwn.

Dywedodd Jill Fairweather, Arolygwr Adeiladau Hanesyddol Cadw: “Mae’r hyfforddeion yn treulio llawer o’u hamser yn datblygu eu sgiliau arbenigol unigol, ond dydyn nhw ddim yn cael y cyfle yn aml i weld y darlun cyflawn neu i gyfarfod â’r tîm proffesiynol sy’n rhan o brosiect o’r math.
“Mae Castell Aberteifi yn dyddio’n ôl i’r unfed ganrif ar ddeg, ac mae’n enghraifft berffaith o ba mor gymhleth gall y mathau hyn o brosiectau cadwraeth fod. Ar  ôl degawdau o esgeulustra a dadfeiliad roedd angen darganfod sawl defnydd newydd ar frys er mwyn helpu i amddiffyn y safle, sy’n cynnwys heneb restredig, sawl adeilad rhestredig a gardd hanesyddol gofrestredig. Mae ystlumod wedi ymgartrefu yno hefyd, felly mae nifer o ffactorau i’w hystyried wrth weithio ar brosiect o’r math."

“Cafodd y myfyrwyr gyfle i siarad â’r pensaer cadwraeth a thrafod sut yr aeth ati i roi sylw i’r rhain ond hefyd ystyried ffactorau eraill megis anghenion cyrff ariannu a rheoliadau adeiladu.”

Mae’r Cynllun Bwrsariaeth Sylfeini mewn Treftadaeth wedi cael ei gynnal yng Nghanolfan Tywi, Llandeilo ers 2011, a hyd yma mae 50 o bobl wedi’i gwblhau, gyda 14 arall ar y cwrs ar hyn o bryd.

Mae hyfforddeion yn cael eu dewis yn ôl proses recriwtio drwyadl, cyn cael eu lleoli gyda chwmnïau adeiladu treftadaeth lleol sy’n rhoi mentoriaeth a phrofiadau gwaith perthnasol. Mae’r lleoliadau hyn yn angenrheidiol i’r hyfforddeion weithio tuag at eu Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel 3 mewn Sgiliau Treftadaeth.

Dywedodd Helena Burke, Swyddog Cynllun Bwrsariaeth Treftadaeth Canolfan Tywi: “Roedd yr ymweliad â Chastell Aberteifi yn ddiddorol a pherthnasol iawn i’r myfyrwyr gan fod deg ohonyn nhw wedi bod ar leoliadau ar y prosiect hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”
“Mae Cadw wedi bod yn gefnogol iawn i’r cynllun ers iddo ddechrau ym mis Medi 2011, gan gynnig lleoliadau mewn nifer o’i safleoedd a dysgu sgiliau i’r prentisiaid sydd wedi arwain at gyflogaeth gan Cadw neu bartneriaid eraill yn y sector treftadaeth.”

Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae ein hadeiladau hanesyddol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r cymunedau o’u cwmpas ac yn helpu i gyfleu’r cymeriad unigryw a theimlad o frogarwch sy’n perthyn i Gymru.

“Drwy roi cyfle i hyfforddeion weithio gydag arbenigwyr Cadw ar brosiectau gweithredol, mae’n sicrhau bod eu gwybodaeth a’u sgiliau yn cael eu trosglwyddo i sicrhau treftadaeth Cymru er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei harchwilio a’i mwynhau.”

Mae nawdd ar gyfer y cynllun bwrsariaeth wedi cael ei sicrhau gan Ganolfan Tywi drwy grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF) a drwy gefnogaeth Cyngor Sir Caerfyrddin a arweiniodd y prosiect. Mae hefyd yn derbyn cefnogaeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.