Saith o draddodiadau difyr a rhyfedd y Nadolig yng Nghymru

Dydd Iau 19 Tachwedd 2015

Ai chi yw'r olaf i ddeffro yn eich tŷ chi ar fore Gŵyl San Steffan? Os hynny, ac os oeddech chi'n meddwl bod gweld bod pawb arall wedi defnyddio’r dŵr poeth yn ddigon drwg, mae'n werth cofio y gallai gweddill y teulu fod wedi'ch curo gyda changhennau ffres y gelynnen!

  • Llun o Castell Caerffili

    Castell Caerffili

  • Llun o Castell Rhaglan

    Castell Rhaglan

  • Llun o Castell Rhuddlan

    Castell Rhuddlan

  • Llun o Abaty Glyn y Groes

    Abaty Glyn y Groes

  • Llun o Siambr Gladdu Pentre Ifan

    Siambr Gladdu Pentre Ifan

Mae gan Gymru hanes amrywiol felly does dim rhyfedd fod traddodiadau Nadolig y wlad yn amrywio o wasanaethau carolau heddychlon ganol nos i'r arferiad fymryn yn fwy rhyfedd o addurno penglog ceffyl er mwyn ei gludo at y cymdogion ar y Calan.

Mae cyfnod yr ŵyl yn llawn traddodiadau hanesyddol, o ganu carolau i gyfnewid anrhegion a gwledda ar fwyd danteithiol – ond faint o'r hen draddodiadau hyn sy'n dod o Gymru?

Dyma saith o draddodiadau Cymreig, yn amrywio o'r twymgalon i'r anghofiedig a'r cwbl ryfedd.

Os ydynt yn swnio braidd yn ormod eleni, beth am fwynhau Nadolig Cymreig traddodiadol drwy ymweld ag un o safleoedd Cadw a chymryd rhan yn un o'r digwyddiadau hwyliog, gan gynnwys dosbarthiadau gwneud torchau yng Nghastell Coch a Phlas Mawr a mynd i weld Siôn Corn yn Abaty Tyndyrn, Gwaith Haearn Blaenafon, Chastell Rhaglan a Llys a Castell Tre-twr.

Mae nifer o safleoedd hanesyddol diddorol Cymru ar agor drwy gydol yr ŵyl, ac eithrio Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan.

Mae cestyll fel rhai Harlech, Cas-gwent a Chydweli yn llefydd perffaith i grwydro a cherdded i losgi'r calorïau Nadoligaidd.

Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: "Mae gan Gymru fwy na 6,000 o flynyddoedd o hanes i'w archwilio, ac fel unrhyw wlad mae gan ein gorffennol ei siâr o draddodiadau anarferol!

"Mae safleoedd hanesyddol Cymru yn bendant yn atyniadau ar gyfer y flwyddyn gron, a gobeithio y gwelwn deuluoedd yn treulio amser yn mwynhau ein hamgylchedd hanesyddol arbennig dros y Nadolig hwn."

I gael rhestr lawn o holl ddigwyddiadau Cadw ewch i ein adran digwyddiadau. I weld pryd mae eich safle Cadw agosaf ar agor ar gyfer diwrnod allan dros y gaeaf, ewch i ein adran ar dyddiau allan.

Oeddech chi'n gwybod?

Y Plygain:

Roedd mynd i wasanaeth y Plygain rhwng 3 a 6 o'r gloch y bore ar fore Nadolig yn draddodiad pwysig yn y Gymru wledig yn yr 19eg ganrif. Er y byddai llawer o bobl yn codi'n gynnar ar gyfer y gwasanaeth, byddai'r rhan fwyaf yn aros yn effro drwy'r nos cyn dod. Byddai'r traddodiad hwyrol hwn yn cynnwys dynion yn canu carolau  tri neu bedwar llais yn ddigyfeiliant yn eglwys y plwyf wrth groesawu Dydd Nadolig.

Mae traddodiad y Plygain yn parhau mewn llawer o ardaloedd yng Nghymru, ac yn aml mae'n chwarae rhan yng nghalendr digwyddiadau'r Nadolig gan Cadw mewn safleoedd megis Abaty Tyndyrn a Phalas yr Esgob Tyddewi.

Oeddech chi'n gwybod bod y traddodiad o ganu carolau o ddrws i ddrws yn deillio o'r adeg pryd roedd carolau wedi'u gwahardd o eglwysi yn yr Oesoedd Canol?

Y Fari Lwyd:

Y Fari Lwyd oedd yr enw ar benglog ceffyl addurnedig a oedd yn rhan o un o arferion y Calan yng Nghymru yn y 19eg ganrif.  Byddai'r penglog yn cael ei addurno â chlychau, byddai cynfas gwyn drosto a byddai'n cael ei osod ar bolyn pren. Yna, byddai'r ffigwr yn cael ei gludo o ddrws i ddrws gan griw yn herio'r preswyl mewn ymryson barddol. Mae'r traddodiad hwn yn parhau heddiw mewn rhai rhannau o'r wlad.

Hela'r Dryw Bach:

Ar Nos Ystwyll yn y 19eg ganrif yng Nghymru, byddai criwiau o ddynion yn mynd i 'Hela'r Dryw Bach’. Ar ôl ei ddal, byddai'r aderyn bach yn cael ei roi mewn blwch pren a'i gludo o ddrws i ddrws i bawb gael ei weld.  Yn ffodus, wnaeth hyn ddim parhau i'r 20fed ganrif.

Pethau pigog:

Yn gynnar yn y 19eg Ganrif, byddai pobl yn dathlu’r diwrnod ar ôl y Nadolig yng Nghymru gyda defod annymunol iawn.  Mae’r arfer wedi hen ddiflannu bellach, ond byddai’r person olaf i godi yn y bore’n cael ei guro â brigau celyn pigog. Aw!

Pei enwog:

Roedd pei Nadolig enwog o Oes y Tuduriaid yn cynnwys twrci wedi'i stwffio â gŵydd wedi'i stwffio â chyw iâr wedi'i stwffio â phetrisen wedi'i stwffio â cholomen. Roedd popeth mewn crwst, ac yn cael ei weini gydag ysgyfarnog wedi'i thorri'n ddarnau ac adar hela mawr a bach.

Noson Gyflaith:

Roedd Noson Gyflaith yn rhan draddodiadol o'r Nadolig a'r Calan mewn rhai rhannau o'r gogledd yn niwedd y 19eg ganrif. Byddai teuluoedd yn gwahodd ffrindiau i'w cartrefi i gael swper a chwarae gemau, gwneud cyflaith (sef taffi) ac adrodd straeon.

Calennig:

O doriad gwawr hyd at hanner dydd ar ddydd Calan, byddai plant yn nechrau'r 19eg ganrif yng Nghymru yn mynd o ddrws i ddrws yn canu rhigymau ac yn tasgu pobl â dŵr ac yn gofyn am galennig - sef arian mân yn rhoddion.

Pwnsh Nadolig:

Roedd yfed o'r llestr gwasael yn draddodiad lwcus ar adeg y Calan yng Nghymru ar ddechrau'r ganrif. Byddai'r llestr addurnedig yn cael ei llenwi â ffrwythau, siwgr, sbeisys a chwrw cynnes am ei ben, ac roedd yn deillio o arferion Eingl-Sacsonaidd a Thuduraidd.