Dr John Davies — teyrnged

Dydd Iau 19 Chwefror 2015

Teyrnged gan Dr Diane Williams, Rheolwr Cyhoeddi Cadwraeth Cadw i'r hanesydd uchel ei barch, Dr John Davies

Dr John Davies yn llofnodi copïau o The Making of Wales/ Llunio Cymru yn 2009

Dr John Davies yn llofnodi copïau o The Making of Wales/ Llunio Cymru yn 2009

Trist oedd clywed bod yr hanesydd Cymreig enwog, John Davies, y cyfeirid ato'n annwyl gan staff Cadw fel Dr John, wedi marw ar 16 Chwefror 2015.

Dechreuodd cysylltiad John Davies gyda Cadw tua 1995 pan wnaethom ofyn iddo ysgrifennu The Making of Wales (a gyhoeddwyd yn 1996). Roedd hyn heb fod yn hir ar ôl ei gyfrol hynod lwyddiannus Hanes Cymru, yr oedd newydd ei chyhoeddi yn Saesneg o dan y teitl The History of Wales, ac roeddem yn chwilio am awdur a allai adrodd stori Cymru drwy sôn am effaith pobl ar y dirwedd. Roedd W. G. Hoskins wedi ysgrifennu The Making of the English Landscape; roeddem ni am i John Davies wneud yr un peth i Gymru.

Gyda cheinder a dysg, fe wnaeth The Making of Wales olrhain esblygiad tirwedd Cymru yn llwyddiannus o'r cyfnod cynhanesyddol hyd at y presennol. Llwyddodd John Davies i esbonio sut mae o leiaf 200 o genedlaethau o fodau dynol wedi gadael haen ar haen o argraffiadau ar y dirwedd fel bod modd edrych allan a syllu ar bron unrhyw gyfnod yng Nghymru ar draws palimpsest cyfoethog.  

Rhyw 14 mlynedd yn ddiweddarach, fe wnaethom ni ofyn i John helpu i ddathlu'r pum mlynedd ar hugain ers sefydlu Cadw gydag argraffiad newydd - y tro hwn yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg. Gallai argraffiadau 2009 o Llunio Cymru a The Making of Wales edrych yn ôl ar ddeng mlynedd o ddatganoli ac ar sut roedd Cadw ei hun wedi newid yn ystod y cyfnod hwn.

Fe fyddai John, oedd mor raslon a hael gyda'i wybodaeth a'i amser, yn eistedd yn ddirwgnach yn awyrgylch diflas warws stoc Cadw i lofnodi copïau o'i lyfr i gefnogwyr brwd Cadw. Yn yr un modd, roedd yn fodlon bod yn bresennol mewn sesiynau lansio llyfrau a siarad gyda hiwmor a huodledd am ei gariad at Gymru a'i phrif rinwedd sef 'ei bod y maint cywir i'w charu'.

Pan ofynnwyd iddo enwi ei hoff safle ar gyfer cylchgrawn Cadw, Heritage in Wales, dewisodd John nid un, ond tri, sef y Tri Chastell yn Sir Fynwy – Ynysgynwraidd,
Y Grysmwnt a'r Castell Gwyn. Ond 'y tirlun glas hyfryd gyda'i lonyddwch anghymharol' yn hytrach na'r gogoniannau pensaernïol yr oedd ef yn ei gofio, 'tirwedd lle mae cestyll canoloesol yn nythu yn hytrach na gwgu'.

Roedd yn gyfaill ac yn gefnogwr i Cadw, ac efallai ei bod yn briodol diweddu gyda geiriau John ei hun wrth iddo fyfyrio am dirwedd Cymru ac etifeddiaeth barhaus ein hynafiaid sy'n codi uwchlaw amser i lefaru wrthym heddiw:

'Rwy'n cerdded i lawr o'r Blorens at rannau uchaf Ceunant Clydach, lle sy'n drymlwythog o ystyr. Ar y ffordd, rwy'n sugno sudd llus aeddfed y mynydd ac yn bwyta grawn y ceirch gwyllt ar ymyl y ffordd. Ym mhen uchaf y ceunant, mae dŵr cochlyd sy'n gyfoethog mewn haearn yn diferu o'r graig ac mae gwythïen denau o lo yn ymddangos ar ochr y clogwyn. Rwy'n yfed y dŵr haearn ac yn cnoi mymryn o lo.

Rydw i mewn cymundeb â'r tir.'

Diane Williams, 19 Chwefror 2015