£1.2 miliwn ar gyfer adeiladau hanesyddol Cymru

Dydd Mawrth 27 Hydref 2015

Bydd adeiladau hanesyddol a chofebau rhyfel ar hyd a lled Cymru yn elwa ar gyllid o hyd at £1.2 miliwn i'w gwarchod, eu hadfer, a'u diweddaru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

  • Cofeb rhyfel y dref yn Aberystwyth

    Cofeb rhyfel y dref yn Aberystwyth Gweld ein horiel cofebion rhyfel

  • Cofeb rhyfel yn Llandaf

    Mae delweddau cofebion rhyfel yn aml yn drawiadol. Yn Llandaf, mae dynes mewn gwisg Geltaidd yn cynrychioli'r lle ei hun. Mae'r ffigyrau o ddynion ifanc bob ochr iddi yn talu teyrnged i feibion Llandaf, gan gynnwys cyn-ddisgyblion Ysgol y Gadeirlan.

  • Gatiau addurnol ym Mhont-y-pŵl

    Gall cofebion rhyfel fod ar sawl ffurf. Mae'r gatiau addurnol hyn ym Mhont-y-pŵl yn coffáu'r rhai a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18).

  • Mae milwr â reiffl a bidog yn pwyntio am i lawr ar y gofeb rhyfel yn y Rhyl. Mae'r safiad cyffredin hwn yn dynodi amser ar gyfer gweddïo a myfyrio.

    Mae milwr â reiffl a bidog yn pwyntio am i lawr ar y gofeb rhyfel yn y Rhyl. Mae'r safiad cyffredin hwn yn dynodi amser ar gyfer gweddïo a myfyrio.

Caiff y rhan fwyaf o'r cyllid ei ddefnyddio ar gyfer mannau addoli, sy'n fannau arbennig yn amgylchedd hanesyddol Cymru.  Mae dros 3,000 o fannau addoli rhestredig yng Nghymru, sy'n dangos ansawdd eu pensaernïaeth a'u crefftwaith, ynghyd â pha mor bwysig y maent i fywyd diwylliannol dros y canrifoedd.

Mae diogelu mannau addoli hanesyddol ledled Cymru yn y dyfodol yn fater sydd dan fygythiad ar hyn o bryd am sawl rheswm, gan gynnwys y ffaith fod y nifer sy'n eu defnyddio yn lleihau, a phrinder o opsiynau y gellir eu hystyried ar eu cyfer yn y dyfodol.

Bydd y cyllid yn mynd tuag at adfer a gwarchod nifer o fannau addoli hanesyddol, gan gynnwys gwella mynediad i'r cyhoedd i'r mannau hyn a datblygu opsiynau i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio yn y tymor hir.

Ymhlith y mannau hynny a fydd yn derbyn grant y mae hen Eglwys Sant Ioan yn Nowlais, Merthyr Tudful. Bydd yr eglwys yn elwa ar £100,000 o gyllid i gefnogi prosiect i'w hadnewyddu, gan nad yw'r eglwys wedi'i defnyddio fel man addoli am ugain mlynedd, ac felly mae mewn perygl yn ei sefyllfa bresennol. Bydd yn cael ei defnyddio i ddatblygu 20 o fflatiau y mae galw mawr amdanynt.

Mae'r prosiect eisoes wedi'i ddethol i dderbyn £300,000 gan raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru, a bydd y cyllid ychwanegol hwn o £100,000 yn cael ei ddefnyddio i drwsio gwaith brics a maen a'r to, er mwyn cadw nodweddion hanesyddol yr adeilad.

Wrth gyhoeddi'r cylch diweddaraf o gyllid, dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae'r adeiladau hanesyddol sydd i'w gweld ledled Cymru'n chwarae ran bwysig o ran llywio ein cymunedau ac adrodd hanes ein gorffennol, gan ddod â buddiannau economaidd yn eu sgil drwy dwristiaeth.

“Mae mannau addoli wedi bod yn arwyddocaol drwy gydol hanes cyfoethog Cymru, ac ar un adeg roedden nhw'n ran bwysig iawn o'n bywyd diwylliannol. Mae hynny'n amlwg o ystyried y cynifer o fannau addoli bendigedig mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad. Ar hyn o bryd mae tua 10 y cant o'r mannau addoli rhestredig dan fygythiad, a heb gymorth ariannol mae'r ffigur hwn yn debygol o godi.

“Rwy'n falch ein bod yn gallu cefnogi'r gwaith i adfer nifer o'r mannau addoli hyn, gan eu bod yn haeddu i fod yn rhan ganolog o'u cymunedau unwaith eto.  Mewn rhai achosion, rydyn ni'n helpu i wella mynediad y cyhoedd i'r mannau hyn a sicrhau bod mwy o bobl yn y gymuned yn eu defnyddio, ac mewn achosion eraill, rydyn ni'n adfywio'r adeilad drwy edrych ar ffyrdd eraill o'i ddefnyddio, gan ddiogelu'r adeiladau anhygoel a hanesyddol bwysig hyn fel bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu eu mwynhau.”

Prosiectau eraill sy'n cael eu cefnogi yw hen Eglwys Deiniol Sant, yn Llanuwchllyn, y Bala, a fydd yn derbyn £30,000 i'w hadnewyddu yn ganolfan dreftadaeth, yn ganolfan i'r gymuned ac yn hostel, a Sant Llawddog yng Nghilgerran, Sir Benfro, a fydd yn derbyn £20,000 i wella defnydd y cyhoedd o'r eglwys ac ychwanegu gwasanaethau dehongli, a llwybr treftadaeth a fydd yn cysylltu ymwelwyr o un o safleoedd Cadw sydd gerllaw.

Bydd dwy gofeb ryfel hefyd yn elwa ar y cyllid, sef Tŵr Cloc Eglwys yr Holl Saint yn Rhydaman ac Organ Eglwys Sant Curig Porthceri ym Mro Morgannwg sy'n gofeb o'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog: “Mae yna fuddiannau cymdeithasol ac addysgol sylweddol hefyd sy'n gysylltiedig â'r safleoedd hyn, ac rwy'n falch ein bod ni'n parhau i gefnogi amrywiaeth o brosiectau yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ac yng nghyffiniau'r ardaloedd hynny.

“Yn gynharach eleni, fe gyflwynais Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), a fydd yn deddfu i ofalu'n well am ein hadeiladau a'n henebion hanesyddol pwysig. Rwy'n falch ein bod eisoes yn cefnogi prosiectau cyffrous er lles cadwraeth ar hyd a lled Cymru, a fydd yn arwain y ffordd wrth warchod ein gorffennol er mwyn Cymru'r dyfodol.”