Bil newydd i warchod ein hanes ar gyfer ein dyfodol

Dydd Mawrth 05 Mai 2015

Mae treftadaeth Cymru yn werthfawr iawn a dylai gael ei gwarchod, ei diogelu a’i rheoli er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Llun o'r Dirprwy Weinidog am Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, yn lawnsio y Fil Traftadaeth

Dirprwy Weinidog am Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, yn lawnsio y Fil Traftadaeth

Dyna’r weledigaeth sy’n gefndir i’r ddeddfwriaeth gyntaf i Gymru-yn-unig ar gyfer diogelu a gwarchod ein hamgylchedd hanesyddol unigryw. Caiff Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) ei gyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw.

Mae ein hamgylchedd hanesyddol, sy’n cynnwys henebion hynafol ac adeiladau hanesyddol yn ogystal â’r tirweddau o’u cwmpas, yn siapio ein hunaniaeth genedlaethol. Hefyd, mae’n cyfrannu’n helaeth at ein heconomi - yn wir, mae’n gyfrifol am un rhan o bump o wariant twristiaeth yng Nghymru.

Fodd bynnag, mae ein treftadaeth unigryw yn beth bregus. Mae rhai o’n hadeiladau rhestredig sydd o bwysigrwydd cenedlaethol yn dirywio ac mae llawer wedi’u hesgeuluso. Mae rhai henebion wedi’u difrodi ar bwrpas hyd yn oed; gan gynnwys difrod i rannau o Glawdd Offa, sy’n 1,200 mlwydd oed, a difrod i fryngaerau sydd wedi bodoli ers dros 2,000 o flynyddoedd.

Rhwng 2006 a 2012, cofnodwyd 119 achos o ddifrod i henebion cofrestredig – a dim ond un erlyniad llwyddiannus a gafwyd yn y cyfnod hwnnw. Un o amcanion Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), felly, yw ei gwneud yn anoddach i unigolion ddefnyddio amddiffyniad o anwybodaeth, hynny yw dweud nad oeddent yn ymwybodol o statws neu leoliad heneb, i osgoi cael eu herlyn am ddifrod troseddol o’r fath.

Bydd y Bil hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gymryd camau effeithiol ar unwaith os yw heneb gofrestredig dan fygythiad, i orfodi perchnogion sydd wedi difrodi henebion i’w hatgyweirio.

Bydd y Bil yn helpu i atal rhai o’n hadeiladau hanesyddol gorau rhag dirywio drwy ganiatáu i awdurdodau lleol weithredu a rhoi ffyrdd newydd iddynt i adennill costau gwaith brys y mae’n rhaid ei wneud.

Bydd y Bil hefyd:
• yn creu panel annibynnol i roi cyngor arbenigol i Weinidogion Cymru ar bolisi a strategaeth ym maes yr amgylchedd hanesyddol;
• yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol greu a chynnal Cofnodion yr Amgylchedd Hanesyddol. Bydd y rhain yn help o ran darparu gwybodaeth ar gyfer penderfyniadau cynllunio neu ailddatblygu yn eu hardaloedd — mae hyn yn fesur sy’n unigryw i Gymru;
• yn sefydlu, ar sail statudol, cofrestr gynhwysfawr o barciau a gerddi hanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol yng Nghymru; ac
• yn ei gwneud yn haws i berchnogion reoli eu hadeiladau rhestredig a’u henebion cofrestredig drwy gyflwyno Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth. Bydd y cynlluniau rheoli hirdymor hyn yn cael gwared ar yr angen am geisiadau niferus a llafurus am gydsyniad ar gyfer gwaith tebyg.

Ymwelodd y Dirprwy Weinidog â Chastell Caerffili ar ddydd Mawrth 5 Mai lle cyfarfu â grŵp o phrentisiaid yn gweithio ar brosiectau i warchod y castell fel y gall barhau i gael ei fwynhau gan genedlaethau'r dyfodol ac yn dod â manteision economaidd i'r rhanbarth. Gan esbonio pwysigrwydd y Bil, dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates:

“Y Bil hwn fydd y ddeddfwriaeth Cymru-yn-unig gyntaf ym maes yr amgylchedd hanesyddol. Mae’n golygu y bydd gennym y pwerau i warchod ein treftadaeth unigryw er mwyn iddi allu parhau i gyfoethogi ein bywydau, yn awr ac yn y dyfodol.

“Mae’r ymateb i achosion diweddar o ddifrod i henebion cofrestredig yng Nghymru wedi dangos i ni fod treftadaeth yn fater o falchder i bobl. Os na chânt eu rheoli a’u gwarchod yn iawn, gallem golli ein hadeiladau a’n henebion unigryw am byth.

“Drwy’r Bil hwn, byddwn yn gwella’r ffordd y caiff ein hamgylchedd hanesyddol ei reoli – bydd y gweithdrefnau’n glir, yn effeithiol ac yn hyblyg a byddant yn ein galluogi i warchod ein hanes ar gyfer y dyfodol.”

Bydd polisi, cyngor a chanllawiau newydd yn cyd-fynd â’r Bil. Nod y rhain yw ategu a chefnogi’r ddeddfwriaeth.

Mae’r Bil yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu ac mae wedi cael ei baratoi ar ôl ymgysylltiad eang a thrylwyr gyda phobl broffesiynol ym maes treftadaeth, y trydydd sector a’r cyhoedd. Mae’n cyd-fynd ag amcanion a  nodir yn y Bil Cynllunio ac yn Neddf Lles Cenhedloedd y Dyfodol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma ar dudalennau we Llywodraeth Cymru ac ar adran y Fil Treftadaeth ar wefan Cadw.