Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant a Chwaraeon sy’n edrych ar gynlluniau i roi mwy o ddiogelwch i amgylchedd hanesyddol unigryw Cymru trwy Fesur Treftadaeth newydd

Dydd Mawrth 23 Rhagfyr 2014

Ken Skates AM, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yng Ngweithfeydd Haearn Blaenafon

Ken Skates AM, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yng Ngweithfeydd Haearn Blaenafon

Rwy’n credu’n angerddol y byddwn yn fwy tebygol o warchod ein dyfodol os ydym yn  deall a gwerthfawrogi ein hanes.  

Mae ein gwlad wedi’i bendithio ag amgylchedd hanesyddol cyfoethog, yn cynnwys safleoedd archaeloegol, henebion ac adeiladau hanesyddol yn ogystal â’r tirweddau a’r trefluniau y maen nhw i’w canfod ynddynt.  

Ar hyd a lled Cymru mae’n dangos sut mae cenedlaethau’r gorffennol wedi ffurfio diwylliant a hunaniaeth ein gwlad, ac yn creu hynodrwydd rhanbarthol a lleol sy’n rhoi cymeriad unigryw i’n cymunedau.    

Yn bwysig ddigon, mae hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at ein heconomi, yn cynnal dros 30,000 o swyddi, yn ychwanegu tua £840 miliwn i economi’r wlad ac yn cyfrif am un rhan o bump o gyfanswm y gwariant ar dwristiaeth yng Nghymru.

Mae’n hanfodol felly bod gennym system eglur, effeithiol a hyblyg i warchod a chynnal ein hamgylchedd hanesyddol fel y gall barhau i ddod â manteision economaidd, cymdeithasol ac economaidd i bobl Cymru.  

Dyma pam ein bod wedi cynnwys Mesur Treftadaeth yn ein Rhaglen Llywodraethu, sydd yn ei hanfod yn anelu at warchod ein gorffennol ar gyfer Cymru’r dyfodol.  

Rwyf am sicrhau ein bod yn rheoli amgylchedd hanesyddol Cymru fel y gall pobl ei werthfawrogi a dysgu ohono am genedlaethau i ddod.  

Mae amgylchedd hanesyddol Cymru yn adnodd gwerthfawr ond bregus

Mae’n bosibl i safle sydd wedi goroesi am ganrifoedd gael ei ddinistrio neu ei niweidio’n andwyol gan un weithred ddiofal.  Mae’r hyn sy’n ymddangos yn newidiadau digon di-nod yn gallu cronni i guddio neu ddinistrio arwyddocâd hanesyddol heneb, adeilad neu dirwedd.  

Ar hyn o bryd, mae bron i 30,000 o adeiladau rhestredig yng Nghymru a thros 4,000 o henebion rhestredig. Mae hynny’n golygu eu bod wedi’u cydnabod fel safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol sydd i’w gwarchod gyda gweithdrefnau caniatâd arbennig.    

Er bod y systemau sy’n bodoli eisoes i ddiogelu amgylchedd hanesyddol Cymru yn sylfaenol ddibynadwy, mae yna feysydd lle y gellir gwella’r gwaith diogelu neu reoli.  

Bydd y Mesur Treftadaeth yn diogelu henebion cofrestredig yn fwy effeithiol, gan greu mesurau newydd a fydd yn rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru rwystro niwed a’i gwneud yn haws gweithredu os yw heneb wedi’i niweidio neu ei dinistrio.  

Bydd hefyd yn galluogi awdurdodau lleol i weithredu ar frys os yw adeilad rhestredig dan fygythiad gwaith heb ei awdurdodi.  

Bydd rhai o ddarpariaethau eraill y Mesur yn:

  • creu rhestr statudol o barciau a gerddi hanesyddol Cymru;
  • caniatáu i berchnogion asedau hanesyddol drefnu cytundebau partneriaeth gydag awdurdodau caniatáu am gyfnod o flynyddoedd. Bydd hyn yn dileu’r angen am ail-geisio am ganiatâd yn rheolaidd ac yn annog ffordd fwy cyson a rhesymol o reoli adeiladau neu henebion;
  • sicrhau dyfodol mwy sefydlog i gofnodion amgylchedd hanesyddol Cymru, sy’n darparu gwybodaeth a chyngor manwl ar yr amgylchedd hanesyddol i awdurdodau cynllunio lleol a’r cyhoedd;  
  • gwneud strwythurau presennol ar gyfer dynodi asedau hanesyddol o bwys cenedlaethol yn fwy agored a thryloyw trwy gyflwyno ymgynghoriad ffurfiol gyda pherchnogion a sefydlu mecanweithiau i adolygu penderfyniadau; a
  • sefydlu panel annibynnol i gynghori ar bolisi a strategaeth amgylchedd hanesyddol ar lefel cenedlaethol yng Nghymru.    

Pam bod angen y newidiadau hyn arnom?

Tra bod angen gwarchod yr amgylchedd hanesyddol, ni ellir ei rewi mewn amser. Mae newid yn anorfod gan y bydd treigl amser yn gadael ei ôl ar yr henebion neu adeiladau mwyaf cadarn.  

Mae’r amgylchedd hanesyddol dan bwysau i ymateb i ofynion bywyd modern. I gwrdd â sialensiau’r dyfodol heb golli ei rinweddau arbennig, bydd angen rheoli’r amgylchedd hanesyddol yn ofalus ac yn gynaliadwy.  

Nod y Mesur Treftadaeth yw sicrhau hynny. Mae’n rhan o gyfres ehangach o ddeddfwriaeth, polisi, cyngor ac arweiniad a fydd yn gwneud gwelliannau pwysig i’r systemau presennol er mwyn gwella’r trefniadau ar gyfer gwarchod a rheoli’n gynaliadwy ein hamgylchedd hanesyddol.  

Rwy’n falch y bydd hefyd yn cyflwyno mwy o dryloywder ac atebolrwydd i’r penderfyniadau a wneir am ein hamgylchedd hanesyddol.

Beth nesaf?

Bydd llywio’r Mesur pwysig hwn trwy’r Cynulliad Cenedlaethol yn flaenoriaeth allweddol i fi yn 2015.  Dyma fydd y ddeddfwriaeth gyntaf ym maes treftadaeth i ymdrin yn benodol â Chymru a bydd yn llywio’r sector hwn am flynyddoedd i ddod.  

Rwy’n edrych ymlaen at amlinellu fy nghynlluniau gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn Ionawr a chyflwyno’r Mesur i’r Senedd tuag at ddiwedd y gwanwyn.

Rwy’n gobeithio y daw’r Mesur yn gyfraith erbyn 2016, gan ddod â’r manteision a amlinellwyd uchod i’r amgylchedd hanesyddol ac i bobl Cymru.  

O roi hwb i’r economi, i ddarparu cyfleoedd ar gyfer dysgu a gwneud cyfraniadau pwysig i adfywio, buddsoddi a hyder cymunedol, mae ein hamgylchedd hanesyddol yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei drysori.  

Mae’n perthyn i bob un ohonom, ac rwy’n falch ein bod yn cymryd y camau angenrheidiol i’w warchod yn well ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.