Gallai’r Prosiect Twristiaeth Treftadaeth roi £19m y flwyddyn o hwb i economi Cymru

Dydd Mawrth 28 Hydref 2014

Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yng Ngweithfeydd Haearn Blaenafon

Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yng Ngweithfeydd Haearn Blaenafon

Yn ôl adroddiad newydd, mae prosiect partneriaeth a arweinir gan Cadw sy’n anelu at fanteisio i’r eithaf ar gyfraniad twristiaeth treftadaeth i economi Cymru yn edrych fel petai’n sicr o ddarparu buddion economaidd o hyd at £19m y flwyddyn.

Cyhoeddwyd y canfyddiadau ar ôl gwerthuso Prosiect Twristiaeth Treftadaeth Cadw a ariannwyd yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Yn ôl gwaith ymchwil gan Uned Ymchwil i Economi Cymru yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd, gall effeithiau economaidd a briodolir i dwristiaid yn ymweld â safleoedd a elwodd o’r prosiect fod gwerth hyd at £19m y flwyddyn, ac yn ei dro, yn cynnal mwy na 1,000 o swyddi llawn amser.

Mae’r Prosiect Twristiaeth Treftadaeth, a gychwynnwyd yn 2009, wedi cynnal mwy na 40 o safleoedd hanesyddol ledled Cymru, gan weithio mewn partneriaeth ag amryw o gyrff treftadaeth i gyflawni gwelliannau i ddehongliad, mynediad corfforol, a hyd yn oed cynnwys cymunedau celfyddydau lleol i ddod â’r safleoedd yn fyw i ymwelwyr.

Nod y Prosiect Twristiaeth Treftadaeth yw cynyddu nifer, maint a gwerth ymweliadau i safleoedd treftadaeth yng Nghymru, ac agor treftadaeth Cymru i gynulleidfa fwy eang trwy ei gwneud yn fwy pleserus i ymwelwyr a phreswylwyr.

Mae’r ymchwil yn datgan mai oddi ar y safleoedd y gwelwyd yr effeithiau economaidd a briodolir i’r Prosiect Twristiaeth Treftadaeth, gyda siopau, tai bwyta a darparwyr llety yn elwa yn y trefi lleol wrth i ymwelwyr ymestyn eu harhosiad.

Roedd yr ymchwil hefyd yn amcangyfrif bod o gwmpas £15.2m o wariant cyfalaf, yn berthnasol i waith adeiladu o ganlyniad i brosiectau a dderbyniodd gymorth Prosiect Twristiaeth Treftadaeth, a bod hyn wedi cynnal mwy na 260 o swyddi llawn amser yng Nghymru yn ystod y gwaith adeiladu.  

Mae’r Prosiect Twristiaeth Treftadaeth yn rhedeg tan fis Rhagfyr 2014, ond bellach mae’r rhan fwyaf o’r gwaith a gynorthwyir ar draws safleoedd treftadaeth Cymru wedi’u cwblhau gyda llawer o atyniadau yn barod yn gweld effaith o ran cynnydd mewn ffigyrau ymwelwyr.

Mae Gwaith Haearn Blaenafon wedi gweld cynnydd o 14.2% yn yr ymwelwyr ers i’r rhan fwyaf o’r gwaith dan Brosiect Twristiaeth Treftadaeth  gael ei gwblhau ym mis Medi 2013** a  gwelodd Castell Conwy gynnydd o 8.3% yn ei ymwelwyr ers i’r gwaith dan Brosiect Twristiaeth Treftadaeth gael ei gwblhau ym mis Gorffennaf 2012***.

Cafodd Amgueddfa Llandudno, Canolfan Ymwelwyr Parc Gwledig Pen y Gogarth a Chloddfeydd Hynafol Pen y Gogarth, bob un wedi dderbyn arian ar gyfer gwelliannau drwy Gynllun Ein Treftadaeth o fewn y Prosiect Twristiaeth Treftadaeth, un o’u hafau prysuraf erioed, gan groesawu dros 86,000 o ymwelwyr gyda’i gilydd.  

Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:  “Mae’r canfyddiadau hyn eto’n dangos sut mae amgylchedd hanesyddol Cymru’n ased i economi’r wlad.

“Mae ein treftadaeth yn cynhyrchu amcangyfrif o £840 miliwn bob blwyddyn. Amlygodd astudiaeth ddiweddar Croeso Cymru y 20 prif safle ymwelwyr yng Nghymru, ac roedd mwy na hanner y rhain yn atyniadau hanesyddol.  

“Mae amgylchedd hanesyddol amrywiol Cymru yn dynfa anferth i dwristiaid, ac mae mor bwysig ag erioed i ni edrych i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleodd real iawn y gall treftadaeth ei gynnig i gryfhau’n heconomi.”

Ychwanegodd Yr Athro Max Munday o Uned Ymchwil i Economi Cymru yn Ysgol Fusnes Caerdydd: “Mae’r canfyddiadau hyn yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i ni o’r enillion ar fuddsoddiad rydym yn ei gael o wella’n hasedau hanesyddol yng Nghymru.

“A finnau wedi bod ynghlwm wrth y sector twristiaeth am beth amser, roedd yn ddiddorol iawn gweld sut gall gwahanol safleoedd gael effeithiau gwahanol ar yr economi.

“Roedd hwn yn brosiect sylweddol a oedd yn golygu gwaith arolygu helaeth, ond dylid gweld y gwaith fel gwaith parhaus pan ddaw i wella asedau hanesyddol Cymru.”

Gall yr adroddiad gan yr Uned Ymchwil i Economi Cymru yn Ysgol Fusnes Caerdydd cael ei weld yma.

Sut mae atyniadau Cymru wedi elwa o’r Prosiect Twristiaeth Treftadaeth

Gwaith Haearn Blaenafon  

Mae Prosiect Twristiaeth Treftadaeth wedi arwain at osod deunyddiau dehongli newydd yn Safle Treftadaeth y Byd Gwaith Haearn Blaenafon yn cynnwys arwyddion, llwybr i blant ac arddangosfeydd clyweledol.  

Mae’r profiad o gael eich llyncu gan y sain a’r golau hefyd wedi’i ddatblygu yn y tŷ castio i esbonio’r broses gwneud haearn a wnaeth Blaenafon yn enwog.

Mae’r prosiect hefyd wedi arwain at gyflwyno model o’r gwaith haearn sy’n galluogi ymwelwyr i ddeall maint y gwaith haearn pan oedd cynhyrchu ar ei anterth.  

Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys gwaith ar lwybrau troed, tirlunio a ffensio sydd wedi galluogi gwell mynediad a ‘rhediad’ o gwmpas y safle hanesyddol i ymwelwyr.  

Mae arian gan y Prosiect Twristiaeth Treftadaeth hefyd wedi galluogi defnyddio pedwar bwthyn ar gyfer ‘Coal House’ - cyfres boblogaidd y BBC - a gafodd eu llenwi â dodrefn a ffitiadau o’r cyfnod i ddarlunio bythynnod gweithwyr trwy’r 20fed ganrif.  

Wedi’i hadeiladu ym 1788, mae’r safle gwaith haearn o’r 18fed ganrif yn un o’r rhai sydd wedi’i diogelu orau trwy’r byd i gyd.  Rhoddwyd statws Treftadaeth y Byd i dref Blaenafon yn 2000.

Castell Conwy  

Mae’r Prosiect Twristiaeth Treftadaeth wedi trawsnewid profiad ymwelwyr yng Nghastell Conwy.

Mae’r ganolfan ymwelwyr wedi’i hailwampio’n gyfan gwbl ac mae’r deunyddiau dehongli newydd yn cynnig gwell esboniad o hanesion Edward I, tywysogion Cymru ac Owain Glyndŵr i ymwelwyr - yn cysylltu’r castell yn agos â’r amgylchedd hanesyddol mwy eang a’r dref gaerog.

Mae’n cynnwys gwaith pum artist wedi’u lleoli yng Nghymru a ymatebodd i hanes y castell yn eu llais eu hunain.  Mae’r dull arloesol hwn, ynghyd â byrddau gwybodaeth a llwybr i blant, yn rhoi’r modd i’r holl ymwelwyr gael profiad o’r Safle Treftadaeth y Byd trwy ddarganfyddiadau deniadol a rhyfeddol.

Adeiladwyd y castell i Edward I yn wreiddiol, gan Feistr Iago o San Siôr rhwng 1277 a 1307.  

Mae cestyll Conwy, Biwmares Caernarfon a Harlech, ynghyd â’r caerau sy’n amgylchu trefi Conwy a Chaernarfon, gyda'i gilydd, wedi eu nodi’n Safle Treftadaeth y Byd.

Tywysogion Gwynedd

Mae’r Prosiect Twristiaeth Treftadaeth wedi ariannu Prosiect Twristiaeth Treftadaeth Tywysogion Gwynedd a ddehonglodd 30 o leoliadau treftadaeth eiconig a oedd yn gysylltiedig â thywysogion Cymru. Dyma’r cyfle cyntaf i ymwelwyr allu dilyn yn olion eu traed.  

O ganlyniad i brosiect Tywysogion Gwynedd, a arweiniwyd gan Gyngor Bwrdeistref Conwy mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, lluniwyd gwefan newydd, arddangosfeydd a chyfres o lwybrau cerdded, beicio a thrafnidiaeth wedi’u hanelu at ddenu rhagor o ymwelwyr i Eryri.  

*Adroddiad Drafft ar Effaith Economaidd y Prosiect Amgylchedd ar gyfer Twf Twristiaeth Treftadaeth (E4G).

**Ffigyrau ymwelwyr Gwaith Haearn Blaenafon - Medi 2012-Awst 2013 = 19,290, Medi  2013-Awst 2014 = 22,040

***Ffigyrau ymwelwyr Castell Conwy - Gorffennaf 2012- Mehefin 2013 = 166,923, Gorffennaf 2013-Mehefin 2014 = 180,349