Cyfarfod â’r prentisiaid sy’n defnyddio technegau hynafol gyda cherrig

Dydd Mercher 05 Mawrth 2014

  • Prentisiaid Cadw

    Prentisiaid Cadw

  • Prentisiaid Cadw

    Prentisiaid Cadw

Cyfarfod â’r prentisiaid sy’n defnyddio technegau hynafol gyda cherrig

Defnyddio technegau a gafodd eu datblygu filoedd o flynyddoedd yn ôl, cael treftadaeth anhygoel Cymru yn eich dwylo a thorri cerrig mewn amgylchedd lle mae offer trydan wedi’u gwahardd yn llwyr — mae’r cwbl mewn diwrnod o waith i brentis gyda Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.

Pa un ai adeiladu pont i mewn i gastell hynafol, adfer drysau Tuduraidd 500 oed neu ailadeiladu waliau fferm, mae’n rhaid i bopeth gael ei wneud gyda gofal eithriadol gan Cadwraeth Cymru, tîm cadwraeth arbenigol Cadw sy’n gyfrifol am 129 o safleoedd hanesyddol drwy Gymru.

Mae’r tîm yn Cadwraeth Cymru yn adnabyddus am eu sgiliau a’u balchder yn eu gwaith, ac maen nhw’n trosglwyddo’r nodweddion hyn i’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr drwy gynlluniau prentisiaeth.

'Gwnes i fy mhrentisiaeth 20 mlynedd yn ôl ac mae llawer wedi newid ers hynny,” dywedodd Gwynfor Olsen, Arolygydd Gwaith Cadwraeth sydd wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru.

'Mae yna fwy o athroniaeth ynghylch cadwraeth y dyddiau hyn.  Rydym yn llawer mwy ymwybodol y gall yr hyn yr ydym yn ei wneud gael ei wella yn y dyfodol, ac rydym yn defnyddio deunyddiau a fydd yn ei gwneud hi’n haws i’r gwaith hwnnw gael ei wneud.

'Mae’n bwysig bod Cadw ar flaen y gad wrth arddangos yr ymarfer gorau mewn cadwraeth dreftadaeth, ac mae’n wych bod ein prentisiaid yn ennill profiad yn ystod yr amser hwn.'

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae gwaith Cadwraeth yn cael ei wneud mewn ffordd debyg i sut y byddai wedi cael ei wneud gannoedd o flynyddoedd yn ôl.  Mae hyd yn oed rhai o’r offer yr un fath.

O ail-bwyntio i blastro, o ailosod gwaith cerrig i waith cerfio cerrig yn fanwl, mae’n rhaid i bopeth gael ei wneud gyda sylw arbennig i fanylder.  Mae’r angen am hyfforddiant a phrofiad yn amlwg pan ydych yn ystyried y gall cerrig bwyso hanner tunnell yr un ac mae seiri maen yn gweithio i un rhan o wyth o fodfedd.

Mae seiri maen yn cymysgu eu morter calch eu hunain gan fod concrit modern yn niweidio adeiladau hynafol, ac mae hyn hyd yn oed yn cynnwys cael yr ansawdd yn gywir fel bod y lliwiau yn cydweddu.  Gan na ddefnyddir lliwiau artiffisial, mae staff Cadwraeth yn defnyddio cerrig wedi’u malurio a llwch i gael y gymysgfa’n iawn.

Ychwanegodd John Griffiths, y Gweinidog dros Ddiwylliant a Chwaraeon: 'Mae Cadw yn gofalu am rai o safleoedd mwyaf arwyddocaol y byd, ac mae’r cofebau hyn yn dod â buddion cymdeithasol ac economaidd i’w cymunedau lleol.

'Heb y gwaith sy’n cael ei wneud gan dîm Cadwraeth, ni fyddai rhai o’r safleoedd sy’n cael eu gofalu gan Cadw yn hygyrch i’r cyhoedd heddiw.  Mae pasio’r sgiliau traddodiadol hyn ymlaen i’n prentisiaid yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y safleoedd yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol i’w harchwilio a’u mwynhau.

'Heb annog a chynnig cyfleoedd i bobl ifanc i ddysgu‘r sgiliau arbenigol, traddodiadol hyn, mae perygl y byddan nhw’n cael eu colli, ac felly mae cynlluniau prentisiaid a chyfleoedd hyfforddi yn hanfodol ar gyfer cadwraeth yn y dyfodol.

'Mae’r tîm yn eithriadol o falch o’u gwaith, a da yw hynny, gan eu bod yn adfer adeiladau gwych, cymhleth yn ddistaw - o gofebau anferth i olion hynafol, bregus, a’r cyfan ohonyn nhw yn rhan o dreftadaeth anghredadwy Cymru.

Mae Adam Jenkins, 27 oed, o Aberdâr, yn treulio rhan o’i wythnos yn astudio caregwaith yng Nghaerfaddon a’r gweddill yn gweithio ar y safle - mae’n ystyried Castell Caerffili fel ei fan gwaith.

'Roedd fy nhad yn arfer gweithio i Cadw ac roeddwn i’n arfer teithio o gwmpas y safleoedd gydag ef pan oeddwn yn ieuengach.  Ysbrydolodd hyn fi i ddilyn yr un llwybr gyrfa,” dywedodd ef.

'Dechreuais fy ngyrfa fel saer meini coffa yn gweithio ar gerrig beddi, ond roedd gen i ddiddordeb mewn treftadaeth erioed ac mae hyn yn hollol wahanol.

'Rydym yn defnyddio dulliau traddodiadol, cynhwysion naturiol ac mae popeth yn cael ei dorri efo llaw.  Nid ydym yn defnyddio offer trydan o gwbl; yn wir, mae llawer o’r offer yr ydym yn eu defnyddio yn debyg iawn i’r rhai hynny a fyddai wedi cael eu defnyddio pan adeiladwyd y cestyll yn y lle cyntaf.

'Mae hi’n rhyfeddol meddwl y bydd rhai o’r cerrig yr ydym yn eu torri dal yno mewn cannoedd o flynyddoedd ar ôl hyn.

'Pan ydych yn gweld yr adeiladau hyn bob dydd, mae’n hawdd iawn eu cymryd yn ganiataol, ond ar ôl ychydig rydych yn dechrau sylweddoli pa mor unigryw ydyn nhw, ac rydw i’n gwerthfawrogi hynny’n fawr iawn.  Nid oes llawer o bobl yn gallu dweud eu bod wedi gweithio ar adeiladau sydd mor bwysig i hanes y wlad.”

Mae Jake Baughan yn 18 oed ac mae’n byw ychydig y tu allan i Ddinbych ac mae’n astudio caregwaith.  Ar hyn o bryd, mae’n gweithio yng Nghastell Fflint, ac mae wedi ymuno â Cadw drwy gynllun bwrsariaeth sy’n cael ei reoli drwy bartneriaeth rhwng Cadw, English Heritage, BHDA, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Grŵp Hyfforddi Treftadaeth Genedlaethol, ac wedi’i gyllido gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.

'Mae’n wych gallu gweithio ar adeilad sydd am fod o gwmpas yn hirach na chi!' dywedodd ef.

'Mae Castell Fflint yn adeilad a lle mor anghredadwy i gael dysgu fy nghrefft.  Mae’n waith y gallaf ddychwelyd ato a’i fwynhau ymhen blynyddoedd.'

Mae Darren Metters, 18 oed o Lanbradach, hanner ffordd drwy brentisiaeth gwaith coed tair blynedd.  Mae’n treulio ei wythnos rhwng y coleg yn Ystrad Mynach a gweithdy Cadw yng Nghrymlyn.

'Bûm ynghlwm â phrosiectau o adeiladu pont i Gastell Gwyn i adfer drysau 500 oed yng Nghastell Cas-gwent — mae pob dydd yn wahanol yma,' dywedodd ef.

'Rydw i’n ffodus iawn i fod yn cwblhau fy mhrentisiaeth gyda thîm mor fedrus o grefftwyr.  Mae’n swydd wirioneddol ddiddorol, oherwydd nid yn unig yr ydym yn cael defnyddio dulliau traddodiadol, rydym yn cael defnyddio ein sgiliau yn ogystal drwy helpu i ddiogelu treftadaeth Cymru.'