Dathliadau enfawr i ddod â stori arwr mwyaf Cymru’n fyw
Dydd Iau 07 Medi 2017

Ef a arweiniodd ryfel annibyniaeth Cymru gan gyhoeddi ei hun yn Dywysog Cymru, a’r mis Medi hwn bydd stori arwr mwyaf Cymru, Owain Glyndŵr, yn dod yn fyw mewn tri chastell Cymreig i ddathlu Dydd Owain Glyndŵr (16 Medi).
Yn rhan o wasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, ymgyrch (Cadw) Byw’r Chwedlau, bydd cestyll Rhuddlan, Harlech a Chonwy yn talu teyrnged i fywyd a chyfnod y Tywysog Cymreig enwog o 10am – 4pm* ddydd Sadwrn, 16 Medi.
Mae’r dyddiad yn nodi 617 o flynyddoedd ers i Glyndŵr godi ei faner yn erbyn y Saeson, a bydd ymwelwyr â Rhuddlan, Harlech a Chonwy yn gallu ail-fyw hanes drwy arddangosiadau ymladd cyffrous iawn, arddangosfeydd rhyngweithiol a sesiynau adrodd stori hudolus ym mhob safle.
Uchafbwyntiau eraill fydd y cyfle i gwrdd â’r Tywysog canoloesol yng Nghastell Conwy, gwersi rhoi cynnig ar saethyddiaeth yng Nghastell Harlech a hyd yn oed gweithdai creu tariannau yn Rhuddlan.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yng Nghymru: “2017 yw Blwyddyn Chwedlau Croeso Cymru, felly mae’n teimlo’n addas iawn i ddathlu Dydd Owain Glyndŵr mewn tri chastell Cymreig.
“Bydd y dathliadau’n cynnig cyfle i bobl leol ac ymwelwyr ddarganfod mwy am y Tywysog eiconig a deall ei rôl bwysig yn niwylliant Cymru, gan archwilio amgylchedd hanesyddol hynod ddiddorol Cymru yr un pryd.
“Rydym yn chwilio drwy'r amser am ffyrdd newydd a chyffrous o ddod â safleoedd hanesyddol Cymru’n fyw, a beth well na gwneud hynny wrth ddathlu hoff arwr canoloesol Cymru?”
Caiff ymwelwyr eu hannog i rannu eu profiad chwedlonol ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashnod #ChwilioamChwedlau.
I gael rhestr lawn o ddigwyddiadau, ewch i www.gov.wales/cadw, neu dilynwch @CadwCymru ar Twitter.
*Mae amseroedd digwyddiadau’n amrywio yn ôl safle.
Rhestr lawn o ddigwyddiadau
Dydd Owain Glyndŵr yng Nghastell Harlech
Dydd Sadwrn 16 Medi
11am – 4pm
Caiff ymwelwyr â Chastell Harlech wahoddiad i gamu’n ôl mewn amser wrth i Gymru Glyndŵr ddychwelyd i’r safle sy’n dyddio’n ôl i’r drydedd ganrif ar ddeg.
O arddangosiadau ymladd i roi cynnig ar saethyddiaeth ac arddangosfeydd arfogaeth, bydd y digwyddiad llawn dop hwn yn cynnig hwyl i’r teulu cyfan.
Dydd Owain Glyndŵr yng Nghastell Rhuddlan
Dydd Sadwrn 16 Medi
11am – 4pm
Dewch i Gastell Rhuddlan wrth iddo ddathlu bywyd a chyfnod Owain Glyndŵr, gan gynnig popeth o adrodd storïau gan Ruth Moore Williams i greu tariannau canoloesol a chwis Owain Glyndŵr.
Dydd Owain Glyndŵr yng Nghastell Conwy
Dydd Sadwrn 16 Medi
10am – 4pm
Caiff ymwelwyr wahoddiad i ymgasglu o fewn muriau syfrdanol Castell Conwy i ddathlu arwr mwyaf Cymru yn yr oesoedd canol — Owain Glyndŵr.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys arddangosiadau ymladd, rhoi cynnig ar saethyddiaeth a hyd yn oed ymweliad gan y Tywysog ei hun.