'Lend me your ears' — Caer Rufeinig Segontium i gynnal darlithoedd goleuedig

Dydd Llun 03 Tachwedd 2014

Cynhelir cyfres o ddarlithoedd yng nghanolfan ymwelwyr newydd Caer Rufeinig Segontium ar ddiwedd 2014

Canolfan Ymwelwyr Caer Rufeinig Segontium

Canolfan Ymwelwyr Caer Rufeinig Segontium

Gan ddechrau ar Ddydd Iau, 13 Tachwedd am 7yh, bydd Ffrindiau Caer Rufeinig Segontium a Swyddog Treftadaeth Cadw, Tristan Jones, yn cynnal cyfres o ddarlithoedd anffurfiol gyda’r nos yn y ganolfan ymwelwyr newydd.

Bydd y darlithoedd thematig, yn cynnig cyfle i archwilio hanes a threftadaeth y safle unigryw hwn, a stori Concwest a meddiannaeth Rufeinig gogledd-orllewin Cymru.

Bydd siaradwyr gwadd yn cynnig ystod o bynciau diddorol, gan gynnwys ffyrdd Rhufeinig, newyddion am gloddio archaeolegol lleol diweddar, Caernarfon Rhufeinig a llawer mwy.