Effaith Wolf Hall – Yr hyn a adawodd Cromwell a thirwedd Cymru

Dydd Llun 09 Chwefror 2015

  • Mark Rylance fel Thomas Cromwell. Delwedd gan Giles Keyte.

    Mark Rylance fel Thomas Cromwell. Delwedd gan Giles Keyte.

  • Abaty Tyndyrn

    Abaty Tyndyrn

  • Abaty Ystrad Fflur

    Abaty Ystrad Fflur

  • Abaty a Phorthdy Nedd

    Abaty a Phorthdy Nedd

  • Llys yr Esgob Tyddewi

    Llys yr Esgob Tyddewi

  • Llys yr Esgob Llandyfái

    Llys yr Esgob Llandyfái

  • Abaty Glyn y Groes

    Abaty Glyn y Groes

  • Priordy Llanddewi Nant Hodni

    Priordy Llanddewi Nant Hodni

  • Abaty a Chartws Llandudoch

    Abaty a Chartws Llandudoch

  • Capel y Rug

    Capel y Rug

Mae'r gyfres deledu Wolf Hall wedi bod ar frig y ffigurau gwylio eleni. Ond roedd amser pan oedd prif gymeriad y sioe boblogaidd, Thomas Cromwell, a’i ddynion yn gweddnewid Cymru a’i thirwedd.

Yn ystod ei gyfnod byr yn gynghorydd i Harri VIII, newidiodd Cromwell hanes Cymru am byth.

Ar ôl gwahanu oddi wrth yr Eglwys Gatholig, dechreuodd Cromwell a’i ddynion gau mynachlogydd a thai crefydd Cymru, gan gymryd eu cyfoeth ar gyfer coffrau’r Brenin.

Mae adfeilion hynod y cyn fynachlogydd mawreddog hyn yn frith yng Nghymru, gyda llawer ohonynt bellach yng ngofal Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.

Mae eu harddwch maluriedig yn denu miloedd o ymwelwyr i Gymru bob blwyddyn ac mae wedi bod yn ysbrydoliaeth i niferoedd di-ri o artistiaid a beirdd, gan gynnwys JMW Turner a William Wordsworth - ond faint mewn gwirionedd ydych chi'n ei wybod amdanynt?

Abaty Tyndyrn

Saif Tyndyrn, yr abaty canoloesol sydd wedi goroesi orau yng Nghymru, brin lathenni i ffwrdd o lannau Afon Gwy ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.  

Pan gaeodd dynion Cromwell yr abaty yn 1536, gwnaethant gymryd ei holl gyfoeth, gan gynnwys mwy na 13kg o blât goreurog ac arian a gafodd ei anfon yn syth i drysorlys y Brenin. Cafodd y plwm gwerthfawr ar y to ei gymryd hefyd, a olygai fod yr abaty yn agored i'r tywydd.

Y dyddiau hyn, gall ymwelwyr edmygu'r ffenestri helaeth a'r manylion addurniadol ar y muriau, y pyrth a'r mynedfeydd bwaog, a dychmygu bywyd y Sistersiaid y tu mewn i furiau'r heneb hyfryd hon.

Abaty Ystrad Fflur

Ystyr yr enw Lladin ar yr abaty, Strata Florida, ydy ‘Dyffryn y Blodau’ ac roedd yn ganolfan i ddiwylliant Cymru yn y canoloesoedd a dywedir mai yma y claddwyd y bardd mawr, Dafydd ap Gwilym. Roedd ei noddwr pwysig, yr Arglwydd Rhys, tywysog y Deheubarth, yn meddwl y byd o’r abaty a dyma safle cynulliad mawr o dywysogion Cymru a gafodd eu galw yno gan Llywelyn ab Iorwerth yn 1238 i dyngu llw o deyrngarwch i'w fab.

Achosodd ei ogwydd Cymreig amlwg drafferthion i'r abaty dros y blynyddoedd, gyda'r Brenin John hyd yn oed yn cyhoeddi gorchymyn i ‘ddinistrio abaty Ystrad Fflur sy’n rhoi lloches i’n gelynion’, gwaith na chafodd ei gyflawni diolch byth.

Oherwydd yr helbul hwn, dim ond wyth mynach oedd ar ôl yn Ystrad Fflur erbyn 1539 pan gafodd ei gau am y tro olaf. Cafodd yr abaty ei adael a thros y canrifoedd canlynol aeth â'i ben iddo, ac ysbeiliwyd ei adeiladau er mwyn cael cerrig.  Ond, yn rhyfeddol, goroesodd y porth gorllewinol hardd ac unigryw ac mae'n parhau hyd heddiw fel golygfa groesawgar i ymwelwyr â'r safle diwylliannol syfrdanol a heddychlon hwn.  

Abaty Castell-nedd

Credai’r hynafiaethydd Tuduraidd, John Leland, mai abaty Castell-nedd oedd yr abaty harddaf yng Nghymru pan ymwelodd â’r lle ychydig flynyddoedd cyn iddo gael ei ddiddymu. Sefydlwyd yr abaty yn 1130 ac erbyn diwedd y drydedd ganrif ar ddeg, roedd yn un o fynachlogydd Sistersaidd cyfoethocaf Cymru.

Dim ond saith mynach a'r abad a oedd ar ôl pan ildiwyd yr abaty i ymwelwyr y brenin ym mis Chwefror 1539. Yn fuan wedyn, rhoddwyd y fynachlog a llawer o’i hystadau i Richard Williams, mab y Cymro, Morgan Williams, a nai Thomas Cromwell ar ochr ei chwaer.

Mabwysiadodd Richard yr enw Cromwell ar ôl iddo ddechrau gweithio i'w ewythr yn 1530 a bu'n gweithio fel un o asiantau Thomas yn ystod cyfnod diddymu'r mynachlogydd.

Richard a'i fab, Henry, oedd yn gyfrifol am drawsnewid rhannau o Abaty Castell-nedd yn blasty Tuduraidd hyfryd, a gall ymwelwyr â’r safle heddiw weld ei adfeilion o hyd ger adfeilion yr eglwys Gothig wych. Mae Cadw ar hyn o bryd yn ymgymryd â rhaglen gadwraeth helaeth i ddiogelu dyfodol y safle.

Llys yr Esgob Tyddewi

Er gwaetha’i gyflwr adfeiliedig, mae gwaith cerrig sgwarog ac addurniadau coeth Llys yr Esgob Tyddewi yn dyst i holl gyfoeth a rhwysg yr eglwys ganoloesol.

Credir iddo gael ei adeiladu ar safle'r fynachlog a sefydlwyd gan Dewi Sant yn y chweched ganrif a bu'r adeilad canoloesol yn sefyll am gannoedd o flynyddoedd. Ond roedd diwygiad Cromwell yn ddechrau'r diwedd i'r llys.

Mae’r esgob Seisnig, William Barlow, a fu’n gyfrifol am Dyddewi yn dilyn diwygiadau 1536, wedi cael ei feio am dynnu to plwm gwerthfawr yr adeilad, a dechreuodd y safle ddirywio i’r adfail y gallwn ei weld heddiw.

Palas yr Esgob Llandyfái

Prin ddwy filltir o dref Penfro yng Ngorllewin Cymru, saif Llys yr Esgob Llandyfái a fu gynt yn encil gwledig hyfryd i esgobion o Dyddewi.

Ar ôl i’r ystâd gael ei hildio i’r Goron yn 1546 gan Esgob William Barlow, na chafodd ddigon o iawndal am yr ystâd gyfoethog hon, rhoddwyd Llandyfái i Richard Devereux.

Bu’r llys yn nwylo ei ddisgynyddion, ieirll Essex, tan y Rhyfel Cartref, pan gafodd ei feddiannu gan y Seneddwyr i gyflenwi Penfro. Roedd y Seneddwyr wrth gwrs yn ymladd ar ochr Oliver Cromwell, a oedd ei hun yn un o ddisgynyddion Thomas drwy ei chwaer Catherine.

Fe'i defnyddiwyd yn ddiweddarach fel gardd ac fel adeiladau fferm hyd yn oed cyn dod o dan ofal Cadw yn yr 20fed ganrif.

Abaty Glyn y Groes

Cafodd Abaty Glyn y Groes ei adeiladu yn 1201, goroesodd dân mawr yn y drydedd ganrif ar ddeg a dioddefodd yn fawr yn ystod rhyfeloedd Edward 1 yng Nghymru oherwydd cefnogaeth y mynachod i'r Cymry.

Er gwaethaf effaith y Pla Du ar niferoedd y mynachod a'r trafferthion yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr, roedd yr abaty yn ôl ar ei draed erbyn canol y bymthegfed ganrif ac roedd gan yr abadau enw da fel ysgolheigion a noddwyr hael beirdd Cymru.

Caewyd yr abaty gan ddynion Cromwell yn 1537 ac aeth â’i ben iddo. Heddiw, mae gweddillion y clwysty a’r cabidyldy, gyda’i do cromennog asennog trawiadol yn rhoi syniad inni o ysblander yr hen abaty.

Priordy Llanddewi Nant Hodni

Y gweddillion ysblennydd hyn yn nyffryn hardd ac anial Euas yw’r unig beth sydd ar ôl o un o adeiladau mawr canoloesol Cymru.

Roedd yr adeilad mewn man peryglus erioed, a dioddefodd y priordy Awstinaidd yn fawr yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr ar ddechrau’r 15fed ganrif ac ni ddychwelodd i’w hysblander. Erbyn 1504 dim ond pedwar canon oedd ar ôl. Caeodd dynion Cromwell y lle yn 1536, a'i werthu am oddeutu £160 a'i adael i adfeilio.

Er gwaethaf hyn, oherwydd y cymysgedd arbennig o bensaernïaeth Normanaidd a Gothig a chyfres o ffenestri a phyrth eang, mae’r adfeilion yn dal i roi syniad o geinder yr adeilad gwreiddiol a pha mor olau fyddai wedi bod. Cafodd hyd yn oed JMW Turner ei ysbrydoli gan y lle, gan ei beintio o'r bryn gyferbyn.

Abaty Llandudoch

Abaty a Chartws Llandudoch yw un o atyniadau hanesyddol harddaf Sir Benfro. Roedd yr Hen Abaty Tironaidd sy’n sefyll ar lannau afon Teifi yn enwog ar un adeg am ei lyfrgell hynod, a bu hyd yn oed Gerallt Gymro yno ar daith yn 1188.

Cafodd ei ddiddymu yn 1536 a chafodd yr adeilad ei droi’n blasty preifat am gyfnod, cyn dirywio i’r adfeilion a welwn heddiw.

Capel y Rug

Wrth edrych ar holl adfeilion y tai crefydd mawr, mae’n ddigon teg ichi feddwl mai dim ond effaith negyddol a gafodd Cromwell ar Gymru.

Heb y Diwygiad, ni fyddai’r holl eglwysi a chapeli Protestannaidd gennym y mae eu nodweddion unigryw yn adlewyrchu’r newidiadau mawr yn hanes crefyddol Cymru.
Un o’r mwyaf diddorol o’r rhain ydy Capel y Rug, a adeiladwyd yn yr ail ganrif ar bymtheg gan y Cyrnol William Salesbury.

O’r tu allan mae Rug yn edrych fel unrhyw Gapel Cymraeg clasurol arall, gwledig a phlaen. Ond mae’n stori wahanol wrth gamu i mewn i’r adeilad. Mae Capel y Rug yn llawn cerfiadau pren rhyfeddol a phaentiedig, a murlun anghyffredin o'r ail ganrif ar bymtheg.