Menter Treftadaeth Ddiwylliannol Cymru

Menter Treftadaeth Ddiwylliannol Cymru

Menter Treftadaeth Ddiwylliannol Cymru

Fel llawer o henebion canoloesol allweddol eraill yng Nghymru, nid yw'r degau o filoedd o ymwelwyr sy'n mynd heibio i Gastell Deganwy ar eu ffordd i dref glan môr hardd Llandudno yn gwybod fawr ddim amdano. Ac eto, mae'r safleoedd hyn yng nghefn gwlad Cymru yn drysorau cudd a chanddynt straeon anhygoel i'w hadrodd am fywyd tywysogion brodorol Cymru. Mae Deganwy yn un o 11 o safleoedd o'r fath sydd wedi cael budd o Fenter Treftadaeth Ddiwylliannol Cymru Cadw dros y ddwy flynedd diwethaf. Nod y fenter hon oedd datgelu cyfrinachau'r safleoedd eiconig hyn a sicrhau y cânt eu gwarchod er mwyn i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau. Fodd bynnag, y ffactor allweddol o ran llwyddiant y rhaglen oedd sicrhau mynediad cyhoeddus llawn i'r henebion, y mae llawer ohonynt dan berchenogaeth breifat.

Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae Cadw wedi gweddnewid mynediad cyhoeddus i safleoedd allweddol sy'n gysylltiedig â chenedligrwydd Cymru, a'r ddealltwriaeth ohonynt. Er enghraifft, mae Cadw wedi gwneud gwaith mynediad a chadwraeth yng Nghestyll Dinefwr a Dryslwyn, sydd â chysylltiad â thywysogion y Deheubarth, ac yng Nghastell Dolforwyn ym Mhowys, a adeiladwyd gan Llywelyn ap Gruffudd. Rhoddwyd cymorth hefyd i Gyngor Sir Ddinbych, sy'n rheoli castell tywysogion Powys ar ben bryn yn Ninas Brân. Yn ogystal, mae'r cestyll gwych a gysylltir â thywysogion Gwynedd yn Nolwyddelan, Dolbadarn, Castell y Bere a Chricieth o dan ofal Cadw.

Mae Menter Treftadaeth Ddiwylliannol Cymru bellach wedi ymestyn y rhaglen hon ar ôl i'r Gweinidog Treftadaeth gyhoeddi, ym mis Ionawr 2009, y byddai £2 filiwn ar gael o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol Llywodraeth Cymru.

Mae'r fenter, sydd wedi cefnogi gwaith ar dri grŵp o safleoedd, ar fin cael ei chwblhau. Tri safle sy'n gysylltiedig ag Owain Glyndŵr - Castell Sycharth, Glyndyfrdwy a Senedd-dy Machynlleth - yw'r grŵp cyntaf. Mae'r ail grŵp yn cynnwys dwy heneb yn ne-orllewin Cymru â chysylltiadau â thywysogion y Deheubarth: Castell Nanhyfer ac Abaty Ystrad Fflur. Mae'r trydydd grŵp yng ngogledd Cymru yn cynnwys tri chastell (Deganwy, Tomen y Mur a Dinas Emrys), dau lys brenhinol (Llys Rhosyr ac Abergwyngregyn) ac abaty Sistersaidd (Cwmhir) sy'n gysylltiedig â thywysogion Gwynedd.


Owain Glyndŵr

Roedd dau o safleoedd Owain Glyndŵr a gafodd fudd o'r fenter, Glyndyfrdwy a Chastell Sycharth, yn gartrefi amddiffynedig i'r arwr o Gymro. Mae traffig yr A5 yn pasio o fewn tafliad carreg i fwnt daear mawr neu domen castell Glyndyfrdwy, ger Corwen. Am flynyddoedd lawer, mae'r mwnt hwn wedi bod mewn perygl o ddymchwel yn rhannol ar linell reilffordd gyfagos Llangollen. Yn y cyfamser, mae gwrthgloddiau'r castell mwnt a beili yn Sycharth yn guddiedig yng nghefn gwlad gogledd Powys ac wedi bod yn destun erydiad ers amser maith.

Mae prosiect Menter Treftadaeth Ddiwylliannol Cymru wedi caniatáu i arolygon archeolegol manwl a gwaith cadwraeth gael eu cynnal ar y ddau safle. Yn Sycharth, mae cyfuniad o dechnegau arolygu geoffisegol, gan gynnwys radar sy'n treiddio i'r ddaear, wedi darparu tystiolaeth newydd bwysig o safle ac adeiladwaith y gorthwr a'r adeiladau yn y beili. Yng Nglyndyfrdwy, mae arolwg geoffisegol wedi datgelu trefniant cymhleth o nodweddion amddiffynnol a nodweddion rheoli dŵr sy'n gysylltiedig â'r breswylfa ffosedig hon.

Mae'r ddau safle bellach wedi cael budd o glirio prysgwydd, rheoli coed a gwaith cadwraeth ac atgyweirio helaeth ar y gwrthgloddiau. Yng Nglyndyfrdwy, roedd y gwaith a wnaed i sefydlogi'r mwnt yn cynnwys ateb peirianegol soffistigedig iawn yn defnyddio cyfuniad o angorau wedi'u gwneud o greigiau a rhwyllau gwifren. Gosodwyd deunydd dehongli newydd ar y ddau safle hefyd ac yn Sycharth crëwyd maes parcio yr oedd gwir ei angen. Gellir ymweld â'r safleoedd bellach fel rhan o daith Glyndŵr. Lleoliad arall a allai gael ei gynnwys ar daith Glyndŵr yw Senedd-dy Machynlleth, sydd hefyd wedi cael budd o Fenter Treftadaeth Ddiwylliannol Cymru.

Er bod yr adeilad presennol ym Machynlleth yn strwythur diweddarach o'r bymthegfed ganrif, credir ei fod yn sefyll ar safle senedd gyntaf Owain Glyndŵr a ymgynullodd yn 1404. Mae'r rhaglen wedi gweithio gydag ymddiriedolaeth elusennol leol i gefnogi rhaglen o waith cadwraeth hanfodol ar adeiledd yr adeilad a'r deunydd dehongli mewnol. Mae hyn wedi cynnwys gwaith i adfer Murlun Brwydr Hyddgen, darparu cyfrifiaduron newydd sy'n ymgorffori llinell amser ryngweithiol Owain Glyndŵr, a deunydd dehongli sy'n cysylltu'r safle â safleoedd eraill sy'n gysylltiedig â Glyndŵr.



Tywysogion y Deheubarth

Yn ne-orllewin Cymru, mae Menter Treftadaeth Ddiwylliannol Cymru wedi cefnogi prosiect sydd wedi arwain at ddarganfyddiadau pwysig yng Nghastell Nanhyfer yng ngogledd Sir Benfro sy'n dyddio o'r ddeuddegfed ganrif. Gweithiodd Cadw mewn partneriaeth â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a'r cyngor cymuned, sy'n berchen ar y safle, ar raglen o waith ymchwil, cadwraeth a gwelliannau i fynediad cyhoeddus.

Mae gwaith cloddio mawr, a arweiniwyd gan Chris Caple o Brifysgol Durham, wedi datgelu tystiolaeth o adeiladau pren a charreg ar y safle, yn dyddio o'r goresgyniad Eingl-Normanaidd ar ddechrau'r ddeuddegfed ganrif, a gweithgarwch hwyrach yn y ddeuddegfed ganrif, a oedd o bosibl yn gysylltiedig â thywysog mawr y Deheubarth, Rhys ap Gruffudd neu 'yr Arglwydd Rhys' fel y'i gelwid gan ei gyfoedion ac y cyfeirir ato mewn hanes. Y canfyddiad mwyaf dramatig oedd sylfaen tŵr crwn mawr, wedi'i adeiladu o lechi ag asiadau clai, ar ben mwnt y castell. Mae hwn bellach wedi'i atgyfnerthu gan aelodau Cadwraeth Cymru, tîm gwaith cadwraeth Cadw, ac mae ail dŵr, wedi'i wahanu o weddill y safle gan ffos serth wedi'i thorri o graig, hefyd wedi'i gloddio a'i ddiogelu. Mae'r gwaith o reoli'r coed a'r llystyfiant yn ofalus wedi gweddnewid golwg y safle, sydd bellach yn gwbl hygyrch i'r cyhoedd. Yn ogystal â deunydd dehongli newydd ar y safle, mae gan Gastell Nanhyfer bellach wefan ddeniadol (www.neverncastle.com).

Roedd yr Arglwydd Rhys hefyd yn brif noddwr yr abaty Sistersaidd yn Ystrad Fflur ger Pontrhydfendigaid, Ceredigion. Caiff y gwaith adnewyddu mawr a wnaed i'r ganolfan ymwelwyr, a ariannwyd yn rhannol gan y fenter, ei ddisgrifio mewn rhan arall o'r rhifyn hwn.


Tywysogion Gwynedd

Llywodraethodd tywysogion Gwynedd dros eu teyrnas o rwydwaith o lysoedd brenhinol. Er ein bod yn gwybod enwau llawer o'r llysoedd, dim ond lleoliad nifer fach ohonynt sy'n hysbys neu sydd wedi bod yn destun ymchwiliad archeolegol. Mae Menter Treftadaeth Ddiwylliannol Cymru wedi cefnogi gwaith ar safle dau lys pwysig: Llys Rhosyr, ger Niwbwrch yn ne-orllewin Ynys Môn, ac Abergwyngregyn ar arfordir gogledd Cymru.

Gwnaed gwaith cloddio ar sylfeini sawl adeilad sy'n gysylltiedig â'r llys yn Llys Rhosyr yn ystod y 1990au. Fodd bynnag, yn ystod y 15 mlynedd diwethaf mae'r gweddillion wedi dirywio'n raddol. Mae Menter Treftadaeth Ddiwylliannol Cymru wedi rhoi cymorth i Fenter Môn wneud gwaith cadwraeth hanfodol, gwella draeniad y safle ac ailwampio deunydd dehongli'r safle yn llwyr, gan gynnwys paneli dehongli newydd y disgwylir iddynt gael eu gosod ar ddiwedd yr haf.

Yn Abergwyngregyn, rhoddodd y fenter arian i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a grŵp treftadaeth gymunedol Tirwedd Dyffryn Aber Cyf gynnal rhaglen ymchwil a dehongli yn y ganolfan frenhinol hon a'i thirwedd hanesyddol gysylltiedig yn Nyffryn Aber. Arweiniwyd gwaith cloddio mawr gan archeolegydd y parc, John Roberts, mewn dau leoliad yn y dyffryn. Gwnaed y gwaith cyntaf yn ystod haf 2009 ar dŷ crwn cynhanesyddol ac odyn sychu ŷd ganoloesol. Ar ddiwedd 2010 symudodd ffocws yr ymchwiliad i'r ardal ger y Mwd, mwnt cloddwaith yng nghanol pentref modern Abergwyngregyn. Mae sylfeini neuadd ystlysog fawr y credir ei bod yn dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg bellach wedi'u cloddio. Bu ysgolion lleol yn ymweld â dau leoliad y gwaith cloddio. Cymerodd myfyrwyr ran yn y gwaith cloddio a chynhaliwyd gweithgareddau allgymorth eraill i'r cyhoedd. Gobeithir hwyluso mynediad y cyhoedd i'r mwnt a safle gwaith cloddio'r neuadd ganoloesol yn y dyfodol agos. Yn y cyfamser, sefydlwyd cyfleuster dehongli newydd yn y pentref (Tŷ Pwmp, Abergwyngregyn), yn dwyn y teitl 'Bywyd yn y Llys Brenhinol'.

Yn Neganwy, mae Cadw hefyd wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r tirfeddiannwr a'r ffermwr tenant i ddiogelu a dehongli gweddillion darniog a bregus y castell. Yn ystod camau cynnar y prosiect cynhaliwyd arolygon archeolegol a chadwraeth manwl a oedd yn sail ar gyfer rhaglen heriol i atgyfnerthu gwaith maen y muriau sydd wedi goroesi ar y ddau fryn ar safle'r castell. Sefydlwyd maes parcio newydd nesaf at Eglwys yr Holl Saint yn Neganwy a cheir mynediad i'r castell o'r fan honno ar hyd llwybrau troed cyhoeddus â chyfeirbwyntiau.

Er mai ym Mhowys mae Abaty Cwmhir, mae ganddo gysylltiadau pwysig â thywysogion Gwynedd. Roedd Llywelyn ab Iorwerth yn un o noddwyr pwysig y tŷ a chladdwyd Llywelyn ap Gruffudd yno ar ôl iddo gael ei ladd yng Nghilmeri, ger Llanfair-ym-Muallt, yn 1282. Roedd sylfeini gwaith maen y mynachdy Sistersaidd eisoes wedi cael budd o raglen o waith cadwraeth a gefnogwyd gan Cadw yn ystod y 1990au. Fodd bynnag, diolch i Fenter Treftadaeth Ddiwylliannol Cymru, gwnaed maes parcio ar y fferm wrth ymyl y safle ac addaswyd adeilad allan yn ganolfan ddehongli fach.

Ac yn olaf, mae'r fenter hefyd wedi cefnogi'r gwaith o baratoi cynlluniau rheoli cadwraeth ar gyfer Dinas Emrys a Thomen y Mur. Mae Dinas Emrys yn gadarnle ar ben bryn sy'n dyddio o sawl cyfnod. Fe'i lleolir ar ben brigiad folcanig yn edrych dros Nant Gwynant, i'r gogledd o Feddgelert. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n berchen ar y safle lle ceir tystiolaeth o feddiannaeth yn ystod yr Oes Haearn a'r cyfnod canoloesol cynnar, a gweddillion tŵr o garreg, a adeiladwyd fwy na thebyg gan dywysogion Gwynedd. Bydd y cynllun cadwraeth a mynediad yn caniatáu i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol warchod yr heneb yn well a darparu gwell mynediad i'r cyhoedd. Yn Nhomen y Mur ger Trawsfynydd, mae'r cynllun rheoli cadwraeth wedi llywio gwaith i atgyweirio gwrthgloddiau'r mwnt canoloesol, sydd wedi'i leoli ar ben porth caer Rufeinig gynharach.