Cynlluniau Cadw a Gyflawnwyd

Proseict dehongliadau torri tir newydd ar safleoedd Cadw i ymwelwyr fwynhau henebion yn ffordd hollol newydd

  • Tŷ bwrw yn Gwaith Haearn Blaenafon

  • Llun o'r lle tân yn yr Neuadd Fawr yn Castell Conwy

    Lle tân yn yr Neuadd Fawr yn Castell Conwy

  • Llun o'r cerflun enfawr o ardalydd Bute yn castell Caerffili

    Cerflun enfawr o ardalydd Bute yn castell Caerffili

  • Llun o 'Yr Guard' yng Nghastell Conwy

    'Yr Guard' yng Nghastell Conwy

  • Llun o rhai o'r gwaith dehongliad yn cael ei arddangos yn Ffwrnais Ddyfi

    Rhai o'r gwaith dehongliad yn cael ei arddangos yn Ffwrnais Ddyfi

Mae’r dehongliadau newydd yn y safleoedd hyn yn rhan o broject torri tir newydd a arweinir gan Cadw i gyflwyno ymagwedd Cymru-gyfan at ddehongliad. Y bwriad yw sicrhau bod cynulleidfaoedd ar draws y wlad, yn lleol neu’n ymwelydd, yn cael profiadau creadigol, cyffrous, deniadol sy’n ysgogi’r meddwl – ond sydd hefyd yn bleserus!

Barclodiad y Gawres – Yn ffurfio rhan o stori Lleoedd Cysegredig, mae’r siambr gladdu Neolithig nodedig hon yn enwog am ei cherrig addurnedig. Mae adluniad rhannol yn helpu ymwelwyr i ddeall sut olwg fyddai arni pan yr adeiladwyd hi dros 5000 o flynyddoedd yn ôl. Diolch i Brosiect Twristiaeth Treftadaeth am gyllid i wella mynediad i’r safle a datblygu dehongliad newydd, sy’n cynnwys llyfr comig sy’n addas i’r teulu cyfan. Mae gwaith ar y safle hwn yn parhau.

Gwaith Haearn Blaenafon  – Symbolaidd o ran enfawr Cymru yn y Chwyldro Diwydiannol, mae’r gwaith haearn yn gorwedd yng nghanol Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, Safle Treftadaeth y Byd. Mae’n cynnwys y safle ffwrnais chwyth o’i math a’i chyfnod sydd wedi’i chadw orau yn y byd.

Diolch i gyllid Prosiect Twristiaeth Treftadaeth mae ymwelwyr i’r safle yn gweld gwaith newydd cyffrous sy’n dod â hanes y safle’n fyw. Yn y 18fed ganrif, cymharwyd gweithiau haearn Cymru ag ‘uffern’, ac mae’r dehongliad newydd yn bwriadu adlewyrchu’r teimlad hwnnw, yn ogystal â thalu teyrnged i ddyfeisgarwch y cyfnod. Mae’n ceisio dangos bywydau’r dynion, merched a phlant oedd yn gweithio ac yn byw yma. Gwneir hyn trwy gyfuniad o gelf bwrpasol, paneli wedi’u cynllunio a’u hysgrifennu’n greadigol, arddangosfa newydd, a ‘profiad ffwrnais’ amlsynhwyraidd.

Bryn Celli Ddu – Hefyd yn rhan o stori Lleoedd Cysegredig, mae hon yn feddrod siambr Neolithig drawiadol. Drwy’r Prosiect Twristiaeth Treftadaeth, derbyniwyd cyllid i wella’r croeso i ymwelwyr ar y safle yn ogystal â dehongliad addas i’r teulu ar ffurf comig.

Castell Caernarfon - wedi’i leoli ar lannau Afon Menai ac yn safle allweddol a thrawiadol yng Nghestyll a Muriau Trefi Edward I, Safle Treftadaeth y Byd. Mae cyfleusterau ymwelwyr wedi’u gwella yn y safle, yn cynnwys dehongliad newydd deniadol. Mae’r safle hefyd yn rhan o stori Tywysogion Gwynedd. Mae gwaith ar y safle hwn yn parhau.

Castell Caerffilli - Adeiladwyd gan Gilbert de Clare, un o Arglwyddi’r Mers, i gryfhau ei awdurdod dros ei diroedd yn ne Cymru. Caerffili yw’r ail gastell mwyaf yn y DU. Drwy’r Prosiect Twristiaeth Treftadaeth ychwanegwyd nodweddion cyffrous i ddweud hanes y safle. Mae’r rhain yn cynnwys sioe ffilm animeiddio 270°; cyfres o gerfluniau a modelau gan artistiaid Cymraeg neu wedi’u lleoli yng Nghymru (yn cynnwys Ardalydd Bute enfawr yn cynnal y tŵr ar-oledd enwog); porthcwlis digidol; bwrdd cyffwrdd rhyngweithiol; lle tân digidol yn y Neuadd Fawr ynghyd â rhedwr bwrdd deongliadol; llwybr ar gyfer plant; paneli, baneri dehongli ynghyd â gatiau dehongli newydd sy’n cyfarch yr ymwelydd wrth iddo ddod i mewn. Bwriad y gymysgedd o ddehongliadau a ddefnyddir ar y safle yw cyrraedd cynulleidfa ehangach o ymwelwyr, beth bynnag eu hoedran, cefndir, gwybodaeth flaenorol neu ddull o ddysgu. Mae’r castell yn ganolbwynt i ymwelwyr ddilyn stori Arglwyddi’r Mers Deheuol.

Castell Conwy a Muriau’r Dref Mae’r castell trawiadol hwn ynghyd â’i furiau tref yn ganlyniad i raglen adeiladu cestyll Edward I yng ngogledd Cymru ar ôl ei ail ryfel Cymreig yn 1282. Cydnabyddir eu harwyddocâd hanesyddol gan eu bod yn rhan o Gestyll a Muriau Trefi Edward I, Safle Treftadaeth y Byd.

Mae Prosiect Twristiaeth Treftadaeth wedi gwella cyfleusterau ymwelwyr ar y safle, yn cynnwys cynllun dehongli newydd. I ddechrau mae ymwelwyr yn gweld ffilm animeiddio fer sy’n rhoi cysylltiadau’r castell ag Edward I mewn cyd-destun. Mae stori gweddill y safle’n cael ei ddatgelu drwy ddefnyddio cerfluniau, ailosod ffenestri lliw yn y capel, cyfres o baneli, cwest rhyngweithiol i blant, yn ogystal â thafluniad digidol ac effeithiau sain. Gall ymwelwyr darllen fwy am y nodweddion newydd ar y safle ar dudalen dehongli Castell Conwy a mae hefyd app ar gyfer ffonau symudol am y safle hwn.

Mae arwyddlun Safle Treftadaeth y Byd enfawr yn galluogi’r safle i fod yn borth i gestyll Safle Treftadaeth y Byd tra bod anogwr yn cyfeirio ymwelwyr at safleoedd treftadaeth eraill yng Nghonwy a’i chyffiniau. Mae’r safle hefyd yn rhan o stori Tywysogion Gwynedd.

Castell Dinbych a Muriau’r Dref - Henry de Lacy, cyfaill ffyddlon Edward I, a adeiladodd hwn ac mae’r safle yn un o’r enghreifftiau gorau o dref newydd wedi’i chadw yng Nghymru. Mae’r buddsoddiad wedi darparu canolfan ymwelwyr bwrpasol newydd, mynediad gwell i furiau’r dref a gwell cyflwyniad a dehongliad o’r safle. Mae ap ffôn cyffrous yn galluogi ymwelwyr i archwilio’r castell a’r muriau fel cymeriadau o’r gorffennol. Yn ogystal mae cwest diddorol i’r plant a phaneli sy’n eich arwain drwy straeon hudol y safle ac yn eich cysylltu i dirwedd hanesyddol ehangach Dinbych. Gall ymwelwyr darllen fwy am y nodweddion newydd ar y safle ar dudalen dehongli Castell Dinbych a mae hefyd app ar gyfer ffonau symudol am y safle hwnMae’r safle hefyd yn rhan o stori Tywysogion Gwynedd.

Ffwrnais Ddyfi Wedi’i lleoli mewn man prydferth, mae’r ffwrnais chwyth llosgi-golosg hon sy’n cael ei phweru â dŵr, yn dyddio o ganol y ddeunawfed ganrif a bu unwaith synau gwaith haearn yn atseinio drwy’r lle. Mae dehongliad newydd ar y safle yn helpu ymwelwyr i ddychmygu sut yr oedd yn ei anterth diwydiannol. Yn dweud stori’r ffwrnais mae paneli dehongli gyda chwest plant ynghlwm, model gweithredol o’r fegin a gwaith haearn addurnedig. Yn ogystal ceir fideo y gellir ei lawrlwytho yn dangos trigolion diweddaraf y safle – ystlumod. Mae’r dehongliad yn annog ymwelwyr i ddilyn stori’r Chwyldro Diwydiannol yng Ngheredigion drwy eu cyfeirio at safleoedd eraill o ddiddordeb.

Castell Harlech – rhan o Gestyll a Muriau Trefi Edward I, Safle Treftadaeth y Byd; ond roedd hefyd yn bwysig yn ystod brwydr annibyniaeth Gymreig Owain Glyndŵr, Rhyfeloedd y Rhosynnod a’r Rhyfel Cartref. Dehonglir y gorffennol milwrol nerthol hwn gan ‘wal o arfau’ a phrofiad clywedol cynhwysfawr yn y ganolfan ymwelwyr newydd. Bydd paneli ar y safle yn ategu hyn, ynghyd ag arddangosfa newydd a llwybr i’r teulu. Bydd mynediad i’r safle yn cael ei wella gyda phont newydd a fydd yn cynnig golygfeydd godidog o Barc Cenedlaethol Eryri. Mae gwaith ar y safle hwn yn parhau a gall y newyddion diweddaraf ar y brosiect hyn cael ei weld ar dudalen Prosiect Castell Harlech.

Llys yr Esgob Tyddewi Breuddwyd un dyn oedd hwn ac fe’i hadeiladwyd yn y 14eg ganrif ar orchymyn yr Esgob Henry de Gower. Gwelir ei weledigaeth anhygoel yn addurniadau coeth yr adeilad gyda’i gerfiadau cerrig cymhleth, gwaith cerrig lliw a manylion pensaernïol trawiadol. Mae dehongliad newydd llawn dychymyg yn dod â hanes y Llys yn fyw. Mae synau pererinion a chymeriadau eraill o’r gorffennol yn creu awyrgylch tra bod ciwbiau golau yn yr is-grofftydd yn goleuo’r stori o sut cafodd y llys ei adeiladu, a sut oedd yn gweithredu o ddydd i ddydd. Yn ategu’r rhain mae paneli, graffeg top bwrdd picnic a llwybr i’r plant. Gall ymwelwyr ddilyn stori Lleoedd Cysegredig yn Nhyddewi. Gall ymwelwyr darllen fwy am y nodweddion newydd ar y safle ar dudalen dehongli Tyddewi a mae gwaith ar y safle yn parhau.

Caer Rufeinig Segontium – Dyma’r Gaer Rufeinig gafodd ei defnyddio fwyaf yng Nghymru – defnyddiwyd y safle am dros 300 mlynedd. Roedd wedi’i chynllunio i ddal 1,000 o filwyr Rhufeinig ac roedd yn amddiffyn mynediad Rhufain at gyfoeth amaethyddol a mwynol Ynys Môn. Mae Prosiect Twristiaeth Treftadaeth wedi cyfrannu at ailddatblygu’r ganolfan ymwelwyr sy’n cyfleu hanes y safle drwy graffeg ddiddorol, casgliad y gellir ei drin, canllaw i’r safle, digwyddiadau a gweithgareddau i’r plant. Gall ymwelwyr ddilyn stori’r Rhufeiniaid yng Nghymru ar y safle hwn.

Ystrad Fflur – safle eiconig sy’n gysylltiedig â chenedl a diwylliant Cymru. Roedd yr Arglwydd Rhys, Tywysog y Deheubarth yn ei noddi a dyma lle claddwyd nifer o’i linach. Mae Prosiect Twristiaeth Treftadaeth wedi ariannu adnewyddu’r ganolfan ymwelwyr ynghyd â dehongliad newydd helaeth sy’n bwriadu helpu ymwelwyr i ddeall a gwerthfawrogi’r abaty Cymreig pwysig hwn. Gall ymwelwyr fwynhau rhyngweithio â’r arddangosfa newydd sy’n cynnwys arddangosfeydd o arteffactau, arddangosfeydd sgrin gyffwrdd a phaneli addysgiadol. Tu allan, mae ardal ddigwyddiadau wedi’i chreu o fewn ffiniau’r hen ardd. Mae map llawr enfawr wedi’i greu hefyd sy’n dynodi ffiniau tiroedd yr abaty. Anogir ymwelwyr i archwilio safleoedd treftadaeth eraill o fewn y dirwedd o amgylch. Gall ymwelwyr ddilyn straeon Tywysogion y Deheubarth a Lleoedd Cysegredig ar y safle hwn.