Safleoedd Milwrol yr Ugeinfed Ganrif

Mae gweddillion milwrol yr ugeinfed ganrif yn destun sy'n ennyn mwy a mwy o ddiddordeb gan y cyhoedd ac ymchwil broffesiynol. Mae gweddillion milwrol sy'n goroesi o'r cyfnod hwn bellach yn nodweddion hanesyddol o gryn bwys yn y dirwedd yn eu rhinwedd eu hunain. Mae gan gymunedau feddwl mawr o safleoedd milwrol ac mae gan nifer o bobl gysylltiadau uniongyrchol â'r safleoedd hyn trwy brofiadau eu rhieni a'u neiniau a'u teidiau yn ystod y rhyfel. Mae Cadw wedi cyhoeddi taflen, Cyflwyno Safleoedd Milwrol yr Ugeinfed Ganrif, yn egluro pam bod y mathau hyn o safleoedd yn bwysig a pham y gallai fod angen diogelu rhai ohonynt yn gyfreithiol. Mae Cadw yn gweithio mewn partneriaeth â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru ac eraill er mwyn helpu i ddeall y pwnc hwn ac i lywio'r gwaith o reoli'r safleoedd hyn yn y dyfodol, gan eu bod yn aml mewn sefyllfa fregus.

Mae rhai o'r enghreifftiau o safleoedd milwrol sydd yn y cyflwr gorau wedi'u gwarchod gan Cadw naill ai fel henebion cofrestredig neu fel adeiladau rhestredig. Drwy gofrestru safle fel heneb o bwys cenedlaethol, mae'n bosibl cytuno ar gytundeb rheoli gyda'r perchennog neu'r tenant er mwyn peidio â defnyddio'r safle ar gyfer gweithgareddau bob dydd ac er mwyn ei ddiogelu er budd cenedlaethau'r dyfodol. Er mai dyma'r system ddewisol, mae rhestru safle fel adeilad hanesyddol - fel arfer pan fo'n parhau i gael ei ddefnyddio - yn gallu gwella diogelwch safle. Cafodd y safleoedd milwrol a ddiogelir fel hyn eu dewis ar ôl cynnal arolygon asesu. Er mawr syndod, ag ystyried eu bod yn strwythurau cymharol ddiweddar a chadarn, prin iawn yw'r safleoedd sy'n parhau mewn cyflwr da neu gyflawn. Fodd bynnag, nid dynodiad yw'r unig ddull o reoli'r safleoedd hyn. Mae Cadw wedi cyhoeddi llyfryn canllaw i berchnogion a deiliaid ar reoli safleoedd milwrol hanesyddol sef Gofalu am Safleoedd Milwrol yr Ugeinfed Ganrif. Mae'r llawlyfr yn pwysleisio y gellir gwella cyflwr y safleoedd hyn drwy gymryd camau syml i reoli gwaith cadwraeth.

Mae deall a diogelu henebion, safleoedd ac adeiladau yn sail i waith Cadw er mwyn iddynt barhau i gael eu mwynhau gan genedlaethau'r dyfodol. Er mwyn sicrhau ein bod yn deall ein treftadaeth filwrol ddiweddar yn llawn, mae Cadw wedi comisiynu ymchwil hanesyddol ac archeolegol ar y pwnc. Ym 1994, cyd-ariannodd Cadw ymchwil gan Roger J.C. Thomas ar strwythurau milwrol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif yn Sir Benfro ac o 1995 ymlaen roedd yn cymryd rhan ym mhrosiect Amddiffyn Prydain y Cyngor Archaeoleg Brydeinig. Fel rhan o'r fenter gwnaeth Cadw gyd-gomisiynu Neil Redfern i gynnal ymchwil ar ddosbarthiadau dethol o ffynonellau archifol a gedwir yn Yr Archifau Gwladol, Kew. Cynhaliwyd astudiaethau ar amddiffynfeydd rhag ymosodiadau'r Ail Ryfel Byd, safleoedd magnelau gwrth-awyrennau, gosodiadau radar, magnelfeydd arfordirol, abwyd bomiau a'r byrddio ar gyfer Operation Overlord sy'n gysylltiedig â D-Day. Mae Cadw wedi comisiynu astudiaethau thematig yn ddiweddar ar feysydd awyr a safleoedd cwympiadau awyrennau milwrol.  Mae Cadw'n bwriadu comisiynu astudiaethau tebyg yn y dyfodol.

Mae Cadw hefyd yn ymgynnull Gweithgor Safleoedd Milwrol yr Ugeinfed Ganrif Cymru, sy'n rhoi cyngor a chymorth i waith Cadw. Yn ogystal â'r rhaglenni cenedlaethol hyn, mae aelodau'r gweithgor yn parhau i ymchwilio i safleoedd milwrol yng Nghymru ac ychwanegwyd llawer o safleoedd newydd i gofnodion amgylchedd hanesyddol Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru a Chofnod Henebion Cenedlaethol Cymru Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Yn ogystal â'r gwaith hwn, cyflawnwyd gwaith thematig gan sefydliadau eraill, er enghraifft gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent yn Ffatri Tanwyddau'r Llynges Frenhinol yng Nghaer-went, Sir Fynwy a gan Archaeoleg Birmingham ar Safle Dyffryn y Weinyddiaeth Gyflenwi yn Rhyd-y-mwyn, Sir y Fflint. 

Amddiffynfeydd rhag ymosodiad yr Ail Ryfel Byd

Roedd amddiffynfeydd rhag ymosodiadau yn strwythurau amddiffyn a godwyd yn ystod 1940-41 i wrthsefyll goresgyniad disgwyliedig yr Almaenwyr. Roedd Prydain Fawr gyfan yn amddiffynedig i ryw raddau ac mae llawer o'r safleoedd hyn yn goroesi o hyd. Sefydlwyd Prosiect Amddiffyn Prydain, a weinyddir gan y Cyngor Archaeoleg Brydeinig, i nodi a chofnodi strwythurau gwrthsefyll ymosodiad sy'n goroesi.
Gellir ei archwilio ar-lein [http://ads.ahds.ac.uk/catalogue/specColl/dob/], a gellir llwytho adroddiad terfynol y prosiect i lawr hefyd [http://www.britarch.ac.uk/projects/dob/review/index.html].


Gwersylloedd Carcharorion Rhyfel

Gellir dod o hyd i wybodaeth am wersylloedd carcharorion rhyfel yr Ail Ryfel Byd yn adroddiad English Heritage Prisoner of War Camps, 1939-1948, sy'n rhoi trosolwg cenedlaethol.
[http://www.english-heritage.org.uk/upload/pdf/aircraft_table.pdf?1264764310]


Gwersylloedd y Fyddin

Adeiladwyd nifer syfrdanol o wersylloedd i'r fyddin yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Ar y cyd, cawsant effaith sylweddol ar y dirwedd ac maent yn ffurfio elfen bwysig o hanes milwrol Cymru. Yn ddiweddar comisiynodd English Heritage astudiaeth ddogfen o'r dystiolaeth ar gyfer adeiladu a defnyddio gwersylloedd y fyddin yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon rhwng 1858 a 2000 fel rhan o'r prosiect England's Army Camps.
Gan ddefnyddio deunydd cyhoeddedig a ffynhonnell sylfaenol (a gedwir yn bennaf yn Yr Archifau Gwladol), cynhyrchodd y prosiect adroddiad trosolwg hanesyddol a rhestrau yn cynnwys gwybodaeth am y gwersylloedd, eu hanes cynnar, eu swyddogaeth a'r defnydd a wneir ohonynt nawr [http://ads.ahds.ac.uk/catalogue/archive/armycamp_eh_2006/downloads.cfm?stage=1].
Gall y rhestr o safleoedd ar gyfer Ardal Gorllewin y Canolbarth, sy'n cynnwys llawer o enghreifftiau o Gymru, gael ei lwytho i lawr hefyd [http://ads.ahds.ac.uk/catalogue/adsdata/armycamp_eh_2006/ahds/dissemination/csv/Stage_1/Mid_Western_district.csv].


Safleoedd cwympiadau awyrennau milwrol

Mae Cadw yn ystyried bod safleoedd cwympiadau awyrennau milwrol yn safleoedd archeolegol. Er eu bod yn cael eu diogelu o dan Ddeddf Gwarchod Gweddillion Milwrol 1986 ac mae'n bosibl eu bod hefyd yn feddau rhyfel ac weithiau'n cynnwys arfau byw, maent wedi eu cydnabod fel safleoedd archeolegol ers o leiaf Ddeddf Henebion a Mannau Archaeolegol 1979, sy'n cynnwys ‘crashed aircraft or the remains thereof' yn ei diffiniad o heneb. Mae'r safleoedd hyn yn fwy na dim ond casgliadau o arteffactau ar yr wyneb neu wedi'u claddu sy'n disgwyl i gael eu hadfer neu eu hachub ar hap, maent yn cynnwys tystiolaeth archeolegol am yr awyren a sut y câi ei chynnal a'i chadw, tystiolaeth a gaiff ei cholli os na chânt eu cloddio, eu cofnodi a'u cyhoeddi yn gywir. Ar hyn o bryd mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn gweithio i lunio cronfa ddata o bob safle cwympiad awyren filwrol o bob gwlad yng Nghymru, ar y tir ac yn y môr.