Castell Caernarfon

World Heritage Site cy Atyniad Ardystiedig - Cymru
  • Castell Caernarfon

    Castell Caernarfon

  • ???cadw.media.no_js???
  • Castell Caernarfon

    Castell Caernarfon

  • ???cadw.media.no_js???
  • Castell Caernarfon

    Castell Caernarfon

  • Castell Caernarfon

    Castell Caernarfon

  • Castell Caernarfon

    Castell Caernarfon

Wedi’r holl flynyddoedd, nid yw cryfder anhygoel castell Caernarfon wedi pylu.

Cawres o gaer. Mae cadernid anhygoel Castell Caernarfon yn bresenoldeb bygythiol. Byddai ymosod ar y strwythur enfawr hwn wedi bod yn syniad brawychus. Drwy ddefnyddio carreg i bwysleisio ei awdurdod, creodd y Brenin Edward I un o’r cestyll mwyaf trawiadol yng Nghymru. Yn gwbl haeddiannol o statws Treftadaeth y Byd.

Tyrau crwn sy’n nodweddu’r rhan fwyaf o gestyll, ond nid Caernarfon! Tyrau polygon a welir yma, gyda Thŵr yr Eryr yn goron arnynt. Sylwch hefyd ar y ffordd mae’r cerrig wedi’u trefnu’n ofalus mewn bandiau lliw.

Nid ar ddamwain y dewiswyd lleoliad y castell mawreddog hwn. Castell mwnt a beili Normanaidd a welwyd ar y safle yn flaenorol, a chyn hynny safai caer Rufeinig gerllaw. Roedd atynfa’r dŵr a mynediad hawdd i’r môr yn golygu bod glannau Afon Seiont yn fan delfrydol ar gyfer y cawr hwn o gastell a adeiladwyd gan Edward.

Nid oedd Edward yn un i golli cyfle i atgyfnerthu ei afael ar y boblogaeth frodorol. Roedd genedigaeth ei fab, Tywysog Seisnig cyntaf Cymru, yn y castell yn 1284, yn ffordd berffaith o ddangos ei oruchafiaeth. Yn 1969, cafodd Tywysog presennol Cymru, EUB Tywysog Siarl ei arwisgo yma.

Wrth ymweld â’r gaer ysblennydd hon, peidiwch â cholli’r cyfle i weld Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, sydd wedi’i lleoli yn un o dyrau’r castell.

Fel sy’n wir am Gastell Harlech, Castell Conwy a Chastell Biwmares, bu’r heneb hon yn rhan o Cestyll a Muriau Trefol Edward 1 Safle Treftadaeth y Byd ers 1986.

Oriau Agor

Dyddiadau
1 Tachwedd 2017 - 28 Chwefror 2018

Amseroedd

Llun i Sadwrn 10.00am - 4.00pm
Sul 11.00am - 4.00pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr

Am amseroedd agor ar hyd y flwyddyn cliciwch 'Gweld yr holl wybodaeth i ymwelwyr'


Admission costs

Oedolyn - £8.95
Teulu - £26.60
Pensiynwyr, myfyrwyr a phlant o dan 16 - £5.80
Pobl anabl a chydymaith - Am ddim/Free

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn o dan 16 oed

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

Prisiau’n ddilys tan Mawrth 2018

Cyfleusterau a gwybodaeth

Arddangosfa Siop rhoddion Dim ysmygu Maes parcio â thâl Dolen sain gludadwy Toiledau Cyflwyniad fideo
  • CaernarfonCastle@llyw.cymru
  • Cŵn cymorth yn unig
  • Dim ysmygu
  • Mae lleoedd parcio ar gael ar gyfer hyd at 6 char y tu blaen i'r castell. Mae maes parcio cyhoeddus amser hir ar gael ar lan y dŵr y tu cefn i'r castell.
  • Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
  • Mae'r safle hwn wedi ei gofrestru ar wefan No Fly Drones http://www.noflydrones.co.uk

  • Gweld yr holl wybodaeth i ymwelwyr

    Lawrlwythiadau

    Nid yw Javascript yn gweithio ar y porwr hwn ac ni ellir dangos y map. I weld y map, trowch Javascript ymlaen a diweddarwch y dudalen.

    Cyfarwyddiadau

    Cod post LL55 2AY

    Car Ffordd A4085, A487(T), B4366.

    Rheilffordd Rheilffordd 16km/10mllr Bangor, llwybr Crewe-Bangor/Caergybi.

    ???locationMapDirections.directions.bus.image_alt??? Bws 200m/220llath Caernarfon Pen Llŷn, llwybr Rhif 5/5A/5B, Bangor-Caernarfon.

    ???locationMapDirections.directions.bike.image_alt??? Beic NCN Llwybr Rhif 8 Ar y Llwybr.

    Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.