Llwybrau Treftadaeth

Llwybrau Treftadaeth

Llwybrau Treftadaeth

Beth am gael rhywfaint o awyr iach drwy fynd ar daith gerdded aeafol wych a gweld rhai o safleoedd Cadw ar yr un pryd. Mae gennym nifer o deithiau cerdded ym mhob rhan o Gymru, sy'n addas ar gyfer pob gallu. Chi biau'r dewis...gallwch fynd ar grwydr heriol neu am dro bach hamddenol yn y Flwyddyn Newydd.  

Yn y de-orllewin, beth am gerdded gyda thywysogion, seintiau ac arwyr. Bydd taith gerdded gylchol o amgylch Nanhyfer yn Sir Benfro yn eich tywys o'r castell canoloesol a'r croesau hynafol yn y fynwent i lethrau gogleddol Mynyddoedd y Preseli lle gallwch weld safleoedd sy'n rhychwantu dros 5,000 o flynyddoedd o hanes. Mae Cromlech Pentre Ifan Cadw yn un o uchafbwyntiau'r daith gerdded hon.  

Yn y gogledd, ewch i weld y rhostir grug a'r bryngaerau trawiadol o'r Oes Haearn ar Fryniau Clwyd er mwyn gweld drosoch chi eich hun y golygfeydd godidog o gopa Penycloddiau, un o'r bryngaerau mwyaf o'r Oes Haearn yng Nghymru. Fel arall, beth am gerdded drwy bentref brenhinol Abergwyngregyn ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae'r daith gerdded gylchol hon i'r Rhaeadr Fawr - un o'r rhaeadrau prydferthaf yng Nghymru - yn ymweld â nifer o safleoedd hanesyddol sydd, gyda'i gilydd, yn adrodd hanes yr ardal pan oedd yn un o lysoedd pwysig tywysogion Gwynedd yn y drydedd ganrif ar ddeg, pan ddaeth Llywelyn Fawr a'i ŵyr Llywelyn Ein Llyw Olaf yn brif lywodraethwyr brodorol yng Nghymru.  

Yn ôl yn y de, beth am gerdded o galon Cymru ddiwydiannol i dirwedd archeolegol hynod Comin Gelligaer, ardal eang o weundir uchel prydferth rhwng Cwm Taf a Chwm Rhymni.  Mae'r llwybr yn cynnwys microcosm o archaeoleg cymoedd de Cymru cyn y Chwyldro Diwydiannol. Neu beth am brofi llonyddwch cefn gwlad Bro Morgannwg drwy ymweld â siambrau claddu Neolithig gwych Tinkinswood a Llwyneliddon a mwynhau golygfeydd godidog Dyffryn Elai.

Os byddai'n well gennych gerdded llwybr trefol, beth am grwydro o amgylch tref farchnad y Bala, ar lannau Llyn Tegid, llyn naturiol mwyaf Cymru. Beth am ymweld â mwnt y Bala, un o'r rhai mwyaf yng Nghymru, a'r llu o adeiladau a lywiodd hanes y dref. Neu grwydro o amgylch Llanbedr Pont Steffan yng nghanolbarth Cymru, y dref brifysgol leiaf yng Nghymru a Lloegr a chartref i drydedd brifysgol hynaf i'r de o'r Alban.