Doctor Who

  • Dr Who yng Nghastell Caerffili © BBC America

    Dr Who yng Nghastell Caerffili © BBC America

  • Clara Oswald (Jenna Coleman), Robin (Tom Riley) a Y Doctor (Peter Capaldi).

    Clara Oswald (Jenna Coleman), Robin (Tom Riley) a Y Doctor (Peter Capaldi).

  • Criw Doctor Who wrthi’n ffilmio yn ward fewnol Castell Caerffili

    Criw Doctor Who wrthi’n ffilmio yn ward fewnol Castell Caerffili

  • Siryf Nottingham (Ben Miller)

    Siryf Nottingham (Ben Miller)

  • Robin (Tom Riley) a Siryf Nottingham (Ben Miller)

    Robin (Tom Riley) a Siryf Nottingham (Ben Miller)

  • Y Doctor (Peter Capaldi) a Siryf Nottingham (Ben Miller)

    Y Doctor (Peter Capaldi) a Siryf Nottingham (Ben Miller)

Dychwelodd Doctor Who, cyfres ddrama ffug-wyddonol boblogaidd y BBC, i'r sgrin deledu yn 2005 ac mae miliynau o wylwyr wedi gwylio'r Doctoriaid Christopher Eccleston, David Tennant, Matt Smith a Peter Capaldi yn achub y bydysawd rhag angenfilod mileinig.

Ers ail gychwyn y rhaglen — sy'n cael ei chynhyrchu gan BBC Cymru — mae'r TARDIS wedi glanio mewn amrywiaeth eang o leoliadau yng Nghymru, gan gynnwys rhai o leoliadau mwyaf trawiadol Cadw.

Isod mae canllaw byr ar sut y gallwch ddilyn ôl troed y Doctor yn ein cestyll cyfareddol — a mwynhau eich antur eich hun drwy amser a'r gofod!

Castell Caerffili

Mae Castell Caerffili wedi bod yn gartref i'r 'Gangers' ('The Rebel Flesh'/'The Almost People'), yn bencadlys i UNIT ('The Power of Three') ac yn du mewn i dŷ Calvierri ('The Vampires of Venice'). Hefyd yn y gaer hon o’r drydedd ganrif ar ddeg, fe gynhaliwyd yr ornest saethyddiaeth wych oedd yn cynnwys y Doctor a Robin Hood (‘Robot of Sherwood’).

Anturiaethau a ffilmiwyd yma:

  • Robot of Sherwood
  • Nightmare in Silver
  • The Bells of St John 
  • The Power of Three 
  • The Rebel Flesh/The Almost People 
  • The Vampires of Venice
  • The End of Time
  • The Doctor’s Meditation/The Magician’s Apprentice

Castell Coch

Ar y sgrin, mae Castell Coch wedi cael ei drawsnewid i fod yn Gastell Comig Natty Longshoe ('Nightmare in Silver') ac yn gastell yn yr Almaen sydd mewn gwirionedd yn ganolfan UNIT ddirgel ('Journey's End').

Anturiaethau a ffilmiwyd yma:

  • Nightmare in Silver 
  • The Vampires of Venice
  • Journey’s End

Castell Cas-gwent

Castell Cas-gwent a gynhaliodd ddigwyddiad arbennig yn hanes Doctor Who, oherwydd yma priododd y Doctor y Frenhines Elizabeth I yn y bennod arbennig i ddathlu 50 mlynedd o’r rhaglen (‘The Day of the Doctor’).

Anturiaethau a ffilmiwyd yma:

  • The Day of the Doctor 
  • The Rebel Flesh/The Almost People