Castell Cydweli

Atyniad Ardystiedig - Cymru
  • Castell Cydweli

    Castell Cydweli

  • ???cadw.media.no_js???
  • Castell Cydweli

    Castell Cydweli

  • ???cadw.media.no_js???
  • Castell Cydweli

    Castell Cydweli

  • Castell Cydweli

    Castell Cydweli

  • Castell Cydweli

    Castell Cydweli

Gellir cymharu Cydweli â chestyll mawr eraill Cymru.

Mae Cydweli dan orchudd niwl y bore yn olygfa ysblennydd o’r canol oesoedd. Mor gyflawn ac wedi goroesi mor dda – cystal ag unrhyw un o’r cestyll mawr yng Nghymru.

Castell Normanaidd wedi’i wneud o bridd a phren oedd y castell cynharaf ar y safle. Mae’r dref ei hun yr un mor hynafol – fe’i sefydlwyd tua 1115 OC. Erbyn y 13eg ganrif, roedd y castell wedi’i ail-adeiladu mewn carreg, gan ddilyn y siâp hanner lleuad a ddefnyddiwyd gan y Normaniaid. Adeiladwyd y ward fewnol fach ond nerthol gan deulu Chaworth a chafodd y castell ei addasu’n ddiweddarach gan ieirll (dugiaid yn ddiweddarach) Caerhirfryn.

Manteisiodd Cydweli ar y syniadau diweddaraf ym maes cynllunio cestyll. Roedd iddo gynllun consentrig gydag un gylched o furiau amddiffynnol o fewn un arall a oedd yn caniatáu iddynt ddal eu gafael ar y castell hyd yn oed pe bai’r mur allanol yn disgyn. Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu’r porthdy mawr yn y 14eg ganrif ond ni chafodd ei gwblhau tan 1422, diolch yn rhannol i ymdrechion Owain Glyndŵr i rwystro’r gwaith o’i adeiladu yn y lle cyntaf.

Ychydig y tu allan i'r porthdy saif cofeb i’r Dywysoges Gwenllian a fu farw ar faes y gad yn 1136 ger Cydweli wrth ymladd arglwydd y castell, Maurice de Londres, er mwyn achub Deheubarth - de-orllewin Cymru - rhag goresgynwyr Normanaidd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Dywysoges Gwenllian yn ein casgliad o straeon Arwyr ac Arwresau Cymru.

Mae’r bont newydd i’r Gysegrfa a’r Capel ar agor i ymwelwyr o 1 Awst ymlaen. Mae’r bont gerdded yn ward allanol y gorllewin, 2il dŵr ‘D’, ar gau i ymwelwyr gan fod rhan o strwythur cynnal y bont wedi gwanhau. Rydym wrthi’n trefnu gwaith trwsio cyn gynted â phosibl ac yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra yn y cyfamser.

Oriau Agor

Dyddiadau
1 Tachwedd 2017 - 28 Chwefror 2018

Amseroedd

Llun i Sadwrn 10.00am - 4.00pm

Sul 11.00am - 4.00pm 

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr

Am amseroedd agor ar hyd y flwyddyn cliciwch 'Gweld yr holl wybodaeth i ymwelwyr'

Admission costs

Oedolyn - £4.00
Teulu - £11.90*
Pensiynwyr, myfyrwyr a phlant o dan 16 - £2.60
Pobl anabl a chydymaith - Am ddim/Free

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn o dan 16 oed

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

Prisiau’n ddilys tan Mawrth 2018

Cyfleusterau a gwybodaeth

Cyfleuster newid cewynnau Safleoedd gadael beic Maes parcio Mynediad i bobl anabl Croesewir cŵn Arddangosfa Siop rhoddion Dim ysmygu Dolen sain gludadwy Toiledau
  • KidwellyCastle@cymru.gsi.gov.uk    
  • Mae tŷ bach ar gael i bobl sydd ag anabledd neu sy'n ei chael yn anodd symud o gwmpas
  • Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
  • Croesewir cŵn ar denynnau
  • Dim ysmygu
  • Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
  • Mae'r safle hwn wedi ei gofrestru ar wefan No Fly Drones http://www.noflydrones.co.uk

 

Gweld yr holl wybodaeth i ymwelwyr
Nid yw Javascript yn gweithio ar y porwr hwn ac ni ellir dangos y map. I weld y map, trowch Javascript ymlaen a diweddarwch y dudalen.

Cyfarwyddiadau

Cod post SA17 5BQ

Car Ffordd Cydweli ar hyd yr A484.

Rheilffordd Rheilffordd 2km/1.2mllr Cydweli, ar lwybr Abertawe-Aberdaugleddau/Doc Penfro.

???locationMapDirections.directions.bus.image_alt??? Bws 100m/110llath, llwybr Rhif X11/X12, Abertawe-Caerfyrddin.

???locationMapDirections.directions.bike.image_alt??? Beic NCN Llwybr Rhif 4 (400m/437llath).

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.