De Ddwyrain

Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Y Pwll Mawr
Roedd y Pwll Mawr yn waith glo gweithredol tan iddo gau yn 1980. Yn 1983, daeth y safle’n amgueddfa, a ddaeth yn gynyddol boblogaidd gan ymwelwyr. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys taith awr o hyd o dan ddaear, a arweinir gan gyn-lowyr, sy’n mynd â chi i lawr yng nghaets y pwll er mwyn cerdded ar hyd ffyrdd tanddaearol, drysau awyr, stablau a thai injan a adeiladwyd gan genedlaethau o weithwyr glo.

Castell Cil-y-coed
Sefydlwyd y castell gan y Normaniaid a’i adfer fel cartref i deulu yn Oes Fictoria, ac fe’i hamgylchynir gan barc gwledig bendigedig. Llifa Nant Nedern drwy’r tiroedd, ac mae’r pwll bywyd gwyllt yn gartref i amrywiaeth eang o adar dŵr.

Castell Caerdydd
Cadarnle trawiadol yng nghalon prifddinas Cymru, a gynlluniwyd gan William Burges, o dan gyflogaeth 3ydd Ardalydd Bute yn 1866 er mwyn trawsnewid y castell i’r hyn a welwn ni heddiw.  

Castell Cyfarthfa
Comisiynwyd Castell Cyfarthfa yn 1824 gan y Meistr Haearn, William Crawshay, ac arferai’r plasty castellog crand hwn edrych dros ei weithfeydd haearn.

Gerddi Dewstow
Adeiladwyd y gerddi tua 1895, ond cawsant eu claddu ar ôl yr Ail Ryfel Byd a’u hailddarganfod yn 2000. Mae’r gerddi’n cynnwys pyllau, nentydd a drysfa o ogofeydd tanddaearol.

Gerddi Dyffryn
Dros 55 erw o erddi cynlluniedig Edwardaidd Rhestredig Gradd 1. Mae Gerddi Dyffryn yn cynnwys cyfres o ystafelloedd gardd, lawntiau ffurfiol a gardd goed helaeth sy’n cynnwys coed o bob cwr o’r byd.

Llancaiach Fawr
Cynlluniwyd Llancaiach Fawr i ddiogelu ac amddiffyn ei thrigolion, a bellach cafodd ei adnewyddu a’i ddodrefnu fel pe bai’n 1645.

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Caerllion oedd un o’r tri chadarnle parhaol ym Mhrydain adeg y Rhufeiniaid, ac mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru’n bodoli i mewn yn yr hyn sy’n weddill o’r cadarnle hwnnw. Mae’r olion yn cynnwys yr amffitheatr fwyaf cyflawn ym Mhrydain a’r unig esiampl o olion barics Lleng Rufeinig unrhyw le yn Ewrop. Mae gardd Rufeinig ar y safle hefyd, ynghyd ag arddangosfeydd sy’n cynnwys hanner miliwn o greiriau o’r cadarnleoedd.

Amgueddfa Sain Ffagan
Mae’r amgueddfa werin genedlaethol yn sefyll yn nhiroedd Castell Sain Ffagan ar gyrion Caerdydd. Yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf, ailgodwyd dros ddeugain o adeiladau gwreiddiol o gyfnodau hanesyddol gwahanol yn yr amgueddfa awyr-agored hon.

Tŷ Tredegar
Dyma gyn-gartref un o’r teuluoedd Cymreig mwyaf oll, teulu Morgan, a ddaeth yn eu tro yn Arglwyddi Tredegar. Roedd teulu Morgan yn berchen ar fwy na 40,000 o erwau yn sir Fynwy, sir Frycheiniog a Morgannwg ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif.