Map Hanes Cymru: Tywysogion y Deheubarth

Mae hanes tywysogion Deheubarth – llywodraethwyr rhan helaeth o dde-orllewin Cymru ar un adeg – yn gymysgedd ddiddorol o uchelgais, ymgiprys, codi cestyll a deffroad diwylliannol. Bu cymeriadau grymus fel y deddfwr Hywel Dda a'r Arglwydd Rhys yn sicrhau goruchafiaeth y deyrnas yn y rhanbarth am 300 mlynedd a mwy.

Mae etifeddiaeth Deheubarth yn parhau hyd heddiw; gall yr Eisteddfod Genedlaethol olrhain ei tharddiad i deyrnasiad yr Arglwydd Rhys yn 1176.

Bydd taith Tywysogion Deheubarth yn datgelu cyfraniad y tywysogion i stori Cymru drwy gyfres o safleoedd trawiadol ledled y de-orllewin, gan gynnwys y cestyll yn Aberteifi a Dinefwr a'r abatai yn Ystrad Fflur a Thalyllychau.

Castell Aberteifi

Castell Aberteifi | Cardigan Castle

Beth? Castell o'r 12fed ganrif  
Ble? Aberteifi, Ceredigion

Bu castell yn Aberteifi ers goresgyniad y Normaniaid yn y 12fed ganrif. Mae'r castell Mwnt a Beili gwreiddiol filltir i lawr yr afon, ond cododd un o Arglwyddi'r Mers, Gilbert Fitz Richard de Clare, gastell ar y safle presennol yn 1110. A 55 mlynedd yn ddiweddarach, fe wnaeth yr Arglwydd Rhys gipio'r castell, ei ddinistrio a'i ailadeiladu mewn carreg.

Castell Aberteifi yw man geni'r Eisteddfod. Yn 1176, estynnodd yr Arglwydd Rhys wahoddiad i feirdd a cherddorion o bob cwr o'r wlad i ddod i berfformio mewn cynulliad mawreddog ar dir y castell. Mae arddangosfa ar hanes yr Eisteddfod ar agor i ymwelwyr sydd eisiau dysgu rhagor am darddiad yr ŵyl bwysig hon.

Oeddech chi'n gwybod..? Yn ôl cofnodion, castell Aberteifi yw'r un cyntaf o garreg a adeiladwyd gan un o dywysogion brodorol Cymru.

Castell Aberteifi
Aberteifi 
SA43 1JA

Codir tâl mynediad.

Canolfan Hywel Dda, Hendygwyn-ar-Daf 

Canolfan Hywel Dda | Hywel Dda Centre

Beth? Amgueddfa am fywyd Hywel Dda  
Ble? Hendygwyn-ar-Daf, Sir Gaerfyrddin

Mae Canolfan Hywel Dda yn dathlu bywyd a gwaith y brenin Cymreig o'r 10fed ganrif, sy'n enwog am ddatblygu cyfundrefn gyfreithiol a oedd o flaen ei hamser. Mae'r ganolfan yn cynnwys arddangosfa dan do, a baratowyd gan yr haneswyr Malcolm a Cyril Jones, yn ogystal â gwaith celf disgrifiadol mewn gwydr, brics, cerameg a dur.

Mae cyfres o erddi hefyd ar agor i'r cyhoedd eu gweld. Mae thema i bob un i adlewyrchu gwahanol ran o'r Gyfraith – Cymdeithas, Cenedl a Braint; Trosedd a Cham; Gwragedd; Contract; Eiddo; Y Brenin a'r Llys. Mae i bob gardd ei chymeriad arbennig ei hun, ac mae'n cynnwys placiau llechi enamel sy'n darlunio'r cyfreithiau ar waith.

Oeddech chi'n gwybod..? Mae un plac arbennig yng Ngardd yr Helygen (sy'n darlunio cyfraith y Gwragedd) yn nodi'r tri rheswm pam y gallai gwraig adael ei gŵr yng nghyfnod Hywel Dda: 
1. Os oedd yn wahanglwyfus
2. Am beidio â chyflawni ei ddyletswyddau fel gŵr
3. Am gael aroglau cas ar ei wynt.

Canolfan Hywel Dda
Stryd y Santes Fair 
Hendygwyn-ar-Daf 
Sir Gaerfyrddin 
SA34 OPY

Codir tâl mynediad. 

Castell Dinefwr

Castell Dinefwr | Dinefwr Castle

Beth? Castell canoloesol uwchben Dyffryn Tywi.
Ble? Llandeilo, Sir Gaerfyrddin

Ar grib naturiol gyda golygfeydd godidog o'r dyffryn o'i amgylch, mae Dinefwr yn gastell sy'n addas i frenin. Dengys cofnodion fod castell yma ers cyfnod yr Arglwydd Rhys (12fed ganrif o leiaf). Yn dilyn cyfnod o reolaeth y Normaniaid, aeth ati i ailgodi teyrnas Gymreig Deheubarth, a daeth Dinefwr yn 'brifddinas' arni. Datblygwyd y castell gan disgynyddion yr Arglwydd Rhys yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg.

Er i'r adeilad fod yn adfail dan iorwg am ganrifoedd, mae llawer o bethau i'w hedmygu yno o hyd - y dirwedd drawiadol yn eu plith.

Oeddech chi'n gwybod..? Diolch i'r to pigfain ar ben y tŵr, a godwyd i greu 'tŷ haf' pictiwrésg, roedd Dinefwr yn lle perffaith i fynd am bicnic yn y ddeunawfed ganrif.

Castell Dinefwr
Llandeilo,
Sir Gaerfyrddin
SA19 6PF

Mynediad am ddim.

Abaty Talyllychau

Abaty Talyllychau | Talley Abbey 

Beth? Gweddillion Abaty Premonstratensaidd o'r 12fed ganrif
Ble? Talyllychau, Sir Gaerfyrddin

Bu'r Arglwydd Rhys yn chwarae rhan bwysig fel noddwr urddau crefyddol, yn arbennig yn Nhalyllychau, sef abaty a sefydlodd ar gyfer canoniaid Premonstratensaidd rhwng 1184 a 1189. Roedd y 'Canoniaid Gwynion' (oherwydd eu habidau gwyn) yn arddel gwerthoedd sylfaenol eu crefydd.

Roedd gan y canoniaid uchelgais fawr ar gyfer Talyllychau, ond roedd yr adeilad terfynol yn llawer llai na'r hyn a obeithient. Er bod yr abaty'n adfail, mae'r hyn sy'n aros (yn arbennig y tŵr a'r seintwar) yn drawiadol o hyd.

Oeddech chi'n gwybod..? Roedd y Canoniaid Gwynion yn cael gwasanaethu mewn tai crefydd ac eglwysi plwyf – apeliai hyn at yr Arglwydd Rhys gan ei fod yn frwd dros ddiwygio crefyddol.

Abaty Talyllychau
Talyllychau,
Sir Gaerfyrddin

Mynediad am ddim.

Rhai safleoedd eraill sy'n adrodd stori Tywysogion Deheubarth yw Abaty Ystrad Fflur, Castell y Dryslwyn, Castell Cydweli a Chastell Talacharn.