Syllu ar y Sêr gyda Cadw 

Syllu ar y sêr gyda Cadw © Allan Trow, Dark Skies Wales

Syllu ar y sêr gyda Cadw

Dyma eich cyfle i syllu ar y sêr o blith adfeilion archaeolegol Bryn Celli Ddu.

Dewch am dro o gwmpas awyr y nos, gan weld grwpiau cyfarwydd ac anghyfarwydd o sêr hemisffer y gogledd, chwiliwch am sawl gwrthrych gofod pell fel nifwl Orïon, a dysgwch sut i ddefnyddio sbienddrych a chanfod eich ffordd drwy gyfrwng mapiau sêr.

Dangosir i chi sut i osod telesgop yn gywir hefyd, cyn edrych ar ac yna wneud ffotograffau o rai o olygfeydd ysblennydd y nos. Does dim angen gwybodaeth nac offer, ond croeso i chi ddod â’r ddau!

Mae’r sesiynau’n addas i rai sy’n 12 oed a hŷn.

Cynghorir pawb sy’n dod i’r digwyddiad i gyrraedd o 9.30pm ymlaen, gwisgo dillad cynnes ac esgidiau addas, a dod â thortsh a blanced hefyd.

Byddwch yn barod i aros: dewch â rhywbeth i eistedd neu orwedd arno.

Gêm amynedd yw syllu ar y sêr, felly mae angen bod yn gyffyrddus.

I archebu lle, ffoniwch contact Allan Trow yn Dark Sky Wales Direct ar 07403402114.

Mae’r profiad seryddol yn amrywio yn ôl y tywydd. Er bod darpariaeth ar gyfer defnyddio’r offer a dysgu am yr awyr os yw’r tywydd yn anghynnes, mae perygl y gall y digwyddiad gael ei ganslo os oes glaw trwm, gwyntoedd cryfion neu gymylau trwchus yn y rhagolygon. Yn yr achos hwn byddwn yn cysylltu â chi ymlaen llaw, er mwyn trefnu i’ch ad-dalu chi neu gyfnewid dyddiad eich profiad, neu’n ddelfrydol gallwn aildrefnu ar gyfer dyddiad arall.

Dyddiadau, amseroedd a phrisiau

Dyddiadau
15 Meh 2018

Amseroedd
10.00pm - 11.30pm

Prisiau
Oedolyn - £10

I archebu tocyn, ffoniwch 07403402114

Gwybodaeth am y lleoliad

Cyfleusterau a gwybodaeth

Safleoedd gadael beic Maes parcio Dim ysmygu
  • Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
  • Cŵn cymorth yn unig
  • Dim ysmygu
  • Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.

 

Nid yw Javascript yn gweithio ar y porwr hwn ac ni ellir dangos y map. I weld y map, trowch Javascript ymlaen a diweddarwch y dudalen.

Cyfarwyddiadau

Cod post LL61 6EQ

Car Ffordd I’r Gog. o’r A4080, 1m (1.6km) i’r Dwy. De Ddwy. o Landdaniel Fab. Llanfair PG 2m (3.2km).

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.