Syllu ar y Sêr gyda Cadw yng Nghastell Criccieth

Dewch am dro o gwmpas awyr y nos, gan weld grwpiau cyfarwydd ac anghyfarwydd o sêr hemisffer y gogledd, chwiliwch am sawl gwrthrych gofod pell fel nifwl Orïon, a dysgwch sut i ddefnyddio sbienddrych a chanfod eich ffordd drwy gyfrwng mapiau sêr.

Dangosir i chi sut i osod telesgop yn gywir hefyd, cyn edrych ar ac yna wneud ffotograffau o rai o olygfeydd ysblennydd y nos. Does dim angen gwybodaeth nac offer, ond croeso i chi ddod â’r ddau!

Mae’r sesiynau’n addas i rai sy’n 12 oed a hŷn.

Cynghorir pawb sy’n dod i’r digwyddiad i gyrraedd o 5.30pm ymlaen, gwisgo dillad cynnes ac esgidiau addas, a dod â thortsh a blanced hefyd.

Byddwch yn barod i aros: dewch â rhywbeth i eistedd neu orwedd arno.

Gêm amynedd yw syllu ar y sêr, felly mae angen bod yn gyffyrddus.

I archebu lle, ffoniwch contact Allan Trow yn Dark Sky Wales Direct ar 07403402114.

Mae’r profiad seryddol yn amrywio yn ôl y tywydd. Er bod darpariaeth ar gyfer defnyddio’r offer a dysgu am yr awyr os yw’r tywydd yn anghynnes, mae perygl y gall y digwyddiad gael ei ganslo os oes glaw trwm, gwyntoedd cryfion neu gymylau trwchus yn y rhagolygon. Yn yr achos hwn byddwn yn cysylltu â chi ymlaen llaw, er mwyn trefnu i’ch ad-dalu chi neu gyfnewid dyddiad eich profiad, neu’n ddelfrydol gallwn aildrefnu ar gyfer dyddiad arall.

Dyddiadau, amseroedd a phrisiau

Dyddiadau
21 Chw 2018

Amseroedd
6.00pm - 8.00pm

Prisiau
Oedolyn - £10

I archebu tocyn, ffoniwch 07403402114

Gwybodaeth am y lleoliad

Cyfleusterau a gwybodaeth

Safleoedd gadael beic Maes parcio Croesewir cŵn Arddangosfa Siop rhoddion Dim ysmygu Dolen sain gludadwy Toiledau Cyflwyniad fideo
  • Criccieth.Castle@llyw.cymru    
  • Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
  • Croesewir cŵn ar denynnau
  • Dim ysmygu
  • Mae tŷ bach ar gael i bobl sydd ag anabledd neu sy'n ei chael yn anodd symud o gwmpas
  • Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
  • Mae'r safle hwn wedi ei gofrestru ar wefan No Fly Drones http://www.noflydrones.co.uk
Nid yw Javascript yn gweithio ar y porwr hwn ac ni ellir dangos y map. I weld y map, trowch Javascript ymlaen a diweddarwch y dudalen.

Cyfarwyddiadau

Cod post LL52 0DP

Car Ffordd A497 i Gricieth o Borthmadog neu Bwllheli.

Rheilffordd Rheilffordd 400m/440llath, llwybr Amwythig- Machynlleth/Pwllheli.

???locationMapDirections.directions.bus.image_alt??? Bws 200m/220llath, llwybr Rhif 3, Porthmadog-Cricieth/Pwllheli.

???locationMapDirections.directions.bike.image_alt??? Beic NCN Llwybr Rhif 8 Ar y Llwybr.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.