Syllu ar y Sêr gyda Cadw ym Mhriordy Llanddewi Nant Hodni

Dewch am dro o gwmpas awyr y nos, gan weld grwpiau cyfarwydd ac anghyfarwydd o sêr hemisffer y gogledd, chwiliwch am sawl gwrthrych gofod pell fel nifwl Orïon, a dysgwch sut i ddefnyddio sbienddrych a chanfod eich ffordd drwy gyfrwng mapiau sêr.

Dangosir i chi sut i osod telesgop yn gywir hefyd, cyn edrych ar ac yna wneud ffotograffau o rai o olygfeydd ysblennydd y nos. Does dim angen gwybodaeth nac offer, ond croeso i chi ddod â’r ddau!

Mae’r sesiynau’n addas i rai sy’n 12 oed a hŷn.

Cynghorir pawb sy’n dod i’r digwyddiad i gyrraedd o 6.30pm ymlaen, gwisgo dillad cynnes ac esgidiau addas, a dod â thortsh a blanced hefyd.

Byddwch yn barod i aros: dewch â rhywbeth i eistedd neu orwedd arno.

Gêm amynedd yw syllu ar y sêr, felly mae angen bod yn gyffyrddus.

I archebu lle, ffoniwch contact Allan Trow yn Dark Sky Wales Direct ar 07403402114, neu cliciwch yma.

Mae’r profiad seryddol yn amrywio yn ôl y tywydd. Er bod darpariaeth ar gyfer defnyddio’r offer a dysgu am yr awyr os yw’r tywydd yn anghynnes, mae perygl y gall y digwyddiad gael ei ganslo os oes glaw trwm, gwyntoedd cryfion neu gymylau trwchus yn y rhagolygon. Yn yr achos hwn byddwn yn cysylltu â chi ymlaen llaw, er mwyn trefnu i’ch ad-dalu chi neu gyfnewid dyddiad eich profiad, neu’n ddelfrydol gallwn aildrefnu ar gyfer dyddiad arall.

Dyddiadau, amseroedd a phrisiau

Dyddiadau
27 Hyd 2017

Amseroedd
7.00pm - 9.00pm

Prisiau
Oedolyn - £10

I archebu tocyn, ffoniwch 07403402114

Gwybodaeth am y lleoliad

Cyfleusterau a gwybodaeth

Safleoedd gadael beic Maes parcio Dim ysmygu
  • Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
  • Cŵn cymorth yn unig
  • Dim ysmygu
  • Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
Nid yw Javascript yn gweithio ar y porwr hwn ac ni ellir dangos y map. I weld y map, trowch Javascript ymlaen a diweddarwch y dudalen.

Cyfarwyddiadau

Car Ffordd 9m (14.5km) i’r Gog. o’r Fenni, oddi ar yr A465.

Rheilffordd Rheilffordd Y Fenni 9m (14.5km).