Syllu ar y Sêr gyda Cadw yn Castell Raglan

Castell Rhaglan Yr Awyr yn y Nos

Dyma eich cyfle i syllu ar y sêr o blith adfeilion archeolegol hynod Castell Raglan

Dewch am dro o gwmpas awyr y nos, gan weld grwpiau cyfarwydd ac anghyfarwydd o sêr hemisffer y gogledd, chwiliwch am sawl gwrthrych gofod pell fel nifwl Orïon, a dysgwch sut i ddefnyddio sbienddrych a chanfod eich ffordd drwy gyfrwng mapiau sêr.

Dangosir i chi sut i osod telesgop yn gywir hefyd, cyn edrych ar ac yna wneud ffotograffau o rai o olygfeydd ysblennydd y nos. Does dim angen gwybodaeth nac offer, ond croeso i chi ddod â’r ddau!

Mae’r sesiynau’n addas i rai sy’n 12 oed a hŷn. 

Cynghorir pawb sy’n dod i’r digwyddiad i gyrraedd o 6.30pm ymlaen, gwisgo dillad cynnes ac esgidiau addas, a dod â thortsh a blanced hefyd.

Byddwch yn barod i aros: dewch â rhywbeth i eistedd neu orwedd arno.

Gêm amynedd yw syllu ar y sêr, felly mae angen bod yn gyffyrddus.

I archebu lle, ffoniwch 01291 690228

Mae’r profiad seryddol yn amrywio yn ôl y tywydd. Er bod darpariaeth ar gyfer defnyddio’r offer a dysgu am yr awyr os yw’r tywydd yn anghynnes, mae perygl y gall y digwyddiad gael ei ganslo os oes glaw trwm, gwyntoedd cryfion neu gymylau trwchus yn y rhagolygon. Yn yr achos hwn byddwn yn cysylltu â chi ymlaen llaw, er mwyn trefnu i’ch ad-dalu chi neu gyfnewid dyddiad eich profiad, neu’n ddelfrydol gallwn aildrefnu ar gyfer dyddiad arall.

Dyddiadau, amseroedd a phrisiau

Dyddiadau
24 Tac 2017

Amseroedd
7.00pm - 9.00pm

Prisiau
Oedolyn - £10.00

I archebu tocyn, ffoniwch y castell ar 01291 690228

Gwybodaeth am y lleoliad

Cyfleusterau a gwybodaeth

Cyfleuster newid cewynnau Bluetooth Maes parcio Mynediad i bobl anabl Croesewir cŵn Arddangosfa Siop rhoddion Tywyslyfr Dim ysmygu Dolen sain gludadwy Toiledau
  • RaglanCastle@cymru.gsi.gov.uk    
  • Mae tŷ bach ar gael i bobl sydd ag anabledd neu sy'n ei chael yn anodd symud o gwmpas
  • Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
  • Croesewir cŵn ar denynnau
  • Dim ysmygu
  • Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
  • Mae'r safle hwn wedi ei gofrestru ar wefan No Fly Drones http://www.noflydrones.co.uk
Nid yw Javascript yn gweithio ar y porwr hwn ac ni ellir dangos y map. I weld y map, trowch Javascript ymlaen a diweddarwch y dudalen.

Cyfarwyddiadau

Cod post NP15 2BT

Car Ffordd Ar yr A40 gan ddilyn yr arwyddion i Raglan.

Rheilffordd Rheilffordd Casnewydd 30km/19mllr llinellau Caerdydd-Bryste, Birmingham, Llundain a Manceinion.

???locationMapDirections.directions.bus.image_alt??? Bws 11km/7mllr Trefynwy, llwybr Rhif 60, Casnewydd-Trefynwy. Bob 2 awr yn ddyddiol.

???locationMapDirections.directions.bike.image_alt??? Beic Llwybr Rhanbarthol Rhif 30 (1km/0.6mllr).

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.