Pabïau Caernarfon: ymweliadau ysgolion a grwpiau â Weeping Window

Archebwch ddiwrnod addysgol i’w gofio, a gweld y cerflun eiconig yma sy’n nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r arddangosfa syfrdanol Poppies: Weeping Window gan yr artist Paul Cummins a’r dylunydd Tom Piper, i’w gweld, yn rhad ac am ddim, yng Nghastell Caernarfon o 11 Hydref hyd 20 Tachwedd.  Drwy weithio mewn partneriaeth â phrosiect Cymru Dros Heddwch, mae Cadw’n falch o gynnig  pecynnau pwrpasol i grwpiau a gweithdai addysgol er mwyn cyfoethogi eich ymweliad.

Sut i Archebu

1. Archebwch o leiaf 10 diwrnod ymlaen llaw

2. Edrychwch ar y teithiau tywys a gweithdai sydd ar gael yma.

3. Ffoniwch 01286 672626 neu e-bostio poppies@wcia.org.uk i drafod anghenion eich grŵp ac archebu lle. Byddwch yn derbyn cod archebu.

4. Ar ôl i chi dderbyn eich cod archebu unigryw, cwblhewch ein ffurflen archebu Addysg