Anturiaethau Hanesyddol

Bachwch yr antur

Byddwch yn barod, oherwydd mae llwyth o anturiaethau hanesyddol yn dod i safleoedd Cadw eleni.

Dechreuodd yr antur pan wnaeth Draig enfawr dorri trwy amddiffynfeydd Castell Caerffili ym mis Mawrth eleni. Nawr, mae’r Ddraig yn cychwyn ar daith o amgylch cestyll Cymru yn ystod yr Haf.

Fe gewch y cyfan o’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gwrdd â’r ddraig a mwynhau bod ar antur hanesyddol i’n safleoedd hudolus yma.