Hanes Dreigiau Cadw — Pennod pump: Dreigiau bach direidus

Ychydig eiliadau ar ôl iddyn nhw gael eu geni, aeth y ddwy ddraig fach i gysgu'n drwm, drwm. Yn wir, aeth oriau heibio, ac roedd popeth yn dawel. Atseiniai’r chwyrnu ysgafn o amgylch muriau cerrig y castell. Roedd mam yn fodlon ei byd, dad yn wên o glust i glust, a cheidwaid y castell yn gyffro i gyd.

Ond wnaeth hyn ddim para’n hir.

Fel rheol, mae creaduriaid bach sydd newydd gael eu geni yn waith caled. Mae pawb yn gwybod hynny. Boed yn bobl, adar neu famaliaid — mae’n rhaid iddyn nhw gael llawer iawn o ofal! Ond mae dreigiau bach yn stori arall.

Maen nhw'n cael eu geni gyda’r gallu i gerdded a chrawcian — a hyd yn oed i chwythu peli o dân ar brydiau! Felly, fel y gallwch chi ddychmygu, fe achosodd Dylan a Cariad (sydd wedi cael eu henwi er anrhydedd i’w gwreiddiau Cymreig) bob math o ddrygioni yn y castell. 

Dechreuodd y cyfan y bore ar ôl iddyn nhw gael eu geni.

Roedd Dwynwen — a oedd wedi bod yn cysgu wrth eu hymyl drwy’r nos — wedi bod yn breuddwydio am ddyfodol y ddau.

Ai dreigiau tân fydden nhw fel Dewi? Neu ddreigiau daear efallai yr un fath â hi? ’Da chi'n gweld, mae pob draig yn cael ei geni gyda phŵer — pŵer i reoli dŵr, daear, rhew neu dân. 

Ac er bod dreigiau’n cymryd misoedd i ‘drawsnewid’ yn derfynol, allai Dwynwen ddim peidio â meddwl beth fyddai hanes y ddau fach yn y dyfodol.

Deffrodd Dwynwen gyda gwên, ond pan agorodd ei llygaid emrallt, gwelodd fod y nyth yn wag, a gallai glywed sŵn carreg yn taro carreg yn y pellter.

Mewn panig llwyr, galwodd ar Dewi, a oedd wedi codi ben bore i fynd i chwilio am ddail a changhennau newydd ar gyfer y nyth. Doedd dim ymateb gan Dewi, felly llamodd o amgylch y castell yn chwilio am y ddau fach.

A phan ddaeth hi o hyd iddyn nhw, mam bach roedd hi wedi gwylltio!

Gwelodd Dwynwen bentwr anferth o rwbel wedi'i guddio yn rhan uchaf y porthdy. Ac yn hofran uwch ei ben ar eu hadenydd bychain roedd Dylan a Cariad — y ddau yn brysur yn gollwng cerrig o’u cegau i lawr ar furiau’r castell islaw.

Rhuodd Dwynwen yn flin pan welodd yr olygfa – nid yn unig roedd hi’n beryglus i ddreigiau mor ifanc geisio hedfan, roedd darnau o'r castell yn hedfan i bobman ac yn chwalu’n rhacs jibidêrs.  

Rhewodd y ddwy ddraig fach yn eu hunfan, yn crynu gan ofn. Ond wnaeth yr ofn o beri gofid i Dwynwen ddim para’n hir. 

Yn wir, treuliodd Dewi a Dwynwen benwythnos cyfan yn rhuthro ar ôl y ddwy ddraig ddrwg a oedd yn gadael dinistr o’u hôl.

Cafodd Cariad ei dal fwy nag unwaith yn dwyn lolipop o ganolfan ymwelwyr y castell. Roedd gan y ddraig fach ddant melys, ac allai hi ddim maddau i’r melysion pinc a gwyn. 

Ac wrth i Cariad sipian ei lolipop yn fodlon, allai Dwynwen ddim peidio â sylwi ar yr haul yn tywynnu’n braf ar y castell.  

A’r eiliad y byddai hithau’n dweud y drefn, byddai’r nefoedd yn agor a’r glaw yn arllwys ar y castell, fel petai’n adlewyrchu anfodlonrwydd Cariad.

“Allai hi fod yn ddraig dywydd”? meddyliodd Dwynwen.

Roedd Dylan, ar y llaw arall, wedi cael ei ddal dro ar ôl tro yn gollwng ceiniogau i ffynnon hynafol y castell i geisio creu’r sblash fwyaf bosib.

Yn wir, roedd Dylan yn ymddiddori mewn dŵr.

Cafodd ei weld yn rhedeg ar ôl y gwyddau lleol tuag at y ffos. Gwelodd Dewi’r cyfan o un o’r tyrau a hedfan i lawr ar ei union i’w atal. Pan sylwodd Dylan ar ei dad yn nesáu, a hwnnw’n amlwg wedi gwylltio, plymiodd yn gelfydd i mewn i'r ffos gan symud yn sydyn ac yn chwim fel dolffin. 

“Tybed ai draig ddŵr ydy Dylan?” meddyliodd Dewi, yn fwy cyffrous na blin erbyn hynny.